Bydd y Cyngor yn coleddu digidol fel diwylliant, yn hytrach na thechnoleg yn unig. Byddwn yn mabwysiadu ethos dysgu a fydd yn caniatáu inni fod yn agored a dysgu o’n camgymeriadau, gan herio’r sefyllfa bresennol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnig gwerth gwirioneddol i’n dinasyddion.
Ein nod yw cadw i fyny â’r disgwyliadau cynyddol oddi wrth y cwsmer am wasanaethau cyhoeddus effeithiol, cynaliadwy.
Bydd Caerffili yn dod yn Sefydliad Digidol, gydag arweiniad clir a fydd yn meithrin agwedd “gallaf” i gynorthwyo ein holl randdeiliaid. Bydd ein Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol yn rhaglen fyw; hyblyg, addasadwy ac effro i’r amgylchedd newidiol; modiwlaidd ei natur fel y bydd yn hawdd ei hadolygu a’i diweddaru pob blwyddyn yn unol â datblygiadau yn y maes digidol.
Ein hymagwedd fydd gwelliant parhaus er mwyn sicrhau newid gwirioneddol, a gwella bywydau’r sawl sy’n byw a gweithio yn y Fwrdeistref Sirol. Lle bo’n briodol bydd ein rhyngweithio â’n cwsmeriaid a rhanddeiliaid ehangach yn ddigidol yn bennaf.
CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL | AMSERLEN |
---|---|
Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol i gael ei chymeradwyo gan y Cabinet | 12 Mehefin 2019 |
Cynnydd yn erbyn camau gweithredu allweddol yn y Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol i gael ei adrodd yn rheolaidd i’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddigidol a chael ei fonitro’n rheolaidd ganddo. | Yr amlder i gael ei gytuno |