Byddwn yn cyflwyno rhaglen strwythuredig o adolygiadau gwasanaethau a fydd yn gwerthuso’r gwasanaethau a ddarparwn ac yn sicrhau eu bod yn aros yn berthnasol ac y cânt eu darparu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon er mwyn sicrhau y ceir gwerth am arian.
Bydd yr adolygiadau gwasanaethau hefyd yn cynnig cyfle i gynhyrchu arbedion ariannol a byddant yn ystyried y canlynol fan lleiaf: -
Bydd dull cyson o adolygu gwasanaethau’n cael ei fabwysiadu a bydd cyfeiriadur gwasanaethau’n cael ei baratoi i ddarparu sail dystiolaeth i helpu i nodi’r gwasanaethau a fydd yn cael blaenoriaeth o ran eu hadolygu ym mlynyddoedd cynnar rhaglen trawsnewid y Cyngor.
Bydd y rhaglen o adolygiadau gwasanaethau’n caniatáu i’n huwch swyddogion, staff ac Aelodau Etholedig ymgysylltu’n ystyrlon â phenderfyniadau am y ddarpariaeth yn y dyfodol, mewn aliniad â’n Cynllun Ariannol Tymor Canolig. I gynorthwyo â hyn, byddwn yn sicrhau y bydd ein gwasanaethau canolog (Cyllid, Adnoddau Dynol, Caffael, Gwasanaethau TG a Gwella Busnes) yn mynd ati i gefnogi, galluogi a herio’r broses o gyflawni’r rhaglen a’r canlyniadau perfformiad.
Lle byddwn yn ystyried newid gwasanaethau byddwn yn ymgysylltu’n llawn â’n cymunedau, er mwyn sicrhau bod eu barn yn rhan o’r broses benderfynu.
Byddwn yn diffinio safonau gwasanaeth ar ôl pob adolygiad fel y bydd pawb yn glir ynghylch beth y byddwn ni’n ei gyflawni a beth (os yw’n berthnasol) y bydd eraill yn ei wneud.
Mae cynlluniau peilot Adolygiadau Gwasanaethau’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd yn y Gwasanaeth Arlwyo a’r Gwasanaeth Glanhau Adeiladau a bydd y gwersi o’r rhain yn llywio’r ymagwedd strwythuredig y byddwn yn ei mabwysiadu yn y dyfodol.
CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL | AMSERLEN |
---|---|
Cynlluniau peilot Adolygiadau Gwasanaethau yn y Gwasanaeth Arlwyo a’r Gwasanaeth Glanhau Adeiladau i gael eu cwblhau | 31 Gorffennaf 2019 |
Cyfeiriadur Gwasanaethau i gael ei gwblhau | 30 Medi 2019 |
Methodoleg gyson ar gyfer Adolygiadau Gwasanaethau i gael ei mabwysiadu | 30 Medi 2019 |
Rhaglen strwythuredig o Adolygiadau Gwasanaethau i gael ei chytuno a’i rhoi ar waith | Cymeradwyaeth gan y Cabinet erbyn 31 Hydref 2019 |