9  MABWYSIADU YMAGWEDD FASNACHOL

Yn ganolog i’n rhaglen awdurdod cyfan o newid trawsnewidiol mae ein harwyddair newydd sef Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol. Mae hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein dinasyddion, ond hefyd yn dangos ein dymuniad i ymchwilio i gyfleoedd masnachol lle bo’n briodol, er mwyn cynhyrchu incwm ychwanegol i’w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau i’w helpu i aros yn gydnerth.

Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau ‘o’r crud i’r bedd’ i breswylwyr lleol. Mae’n cefnogi menter a buddsoddiad lleol, yn addysgu ein pobl ifanc, yn amddiffyn pobl agored i niwed, ac yn stiward i’n hamgylchedd a’n seilwaith. Mae cyfiawnder cymdeithasol a thegwch yn ganolog i bopeth a wnawn.

Fodd bynnag, mae hon yn oes newydd i lywodraeth leol, ac er y byddwn yn dal i ganolbwyntio ar ein cwsmeriaid a gwasanaethau hanfodol, bydd angen inni chwilio am arloesedd, dod o hyd i ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau a mabwysiadu ymagwedd fwy masnachol at fusnes y Cyngor. Byddwn yn canfod ac yn mynegi’r cydbwysedd cywir rhwng ein hethos sector cyhoeddus ac arferion masnachol.

A ninnau’n awdurdod lleol mawr, rydym wedi gallu amddiffyn gwasanaethau i raddau mwy na llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym ar drothwy oes newydd i’r Fwrdeistref Sirol ac mae’n rhaid i’n harferion gweithredu newid fel y gallwn ddarparu’r hyn mae ei angen i’n preswylwyr ac, yn arbennig, i genedlaethau’r dyfodol.

Rhaid i’r Cyngor fod yn fwy masnachol a bydd yn chwilio am gyfleoedd i gynhyrchu incwm ychwanegol ac yn ymchwilio i gyfleoedd i fuddsoddi er mwyn cael enillion a all helpu i sicrhau’r ddarpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol. Nid ydym yn ystyried trefnu rhoi gwasanaethau ar gontractau allanol ar raddfa fawr, ond yn lle hynny byddwn yn canolbwyntio ar ymagwedd fwy tebyg i ymagwedd busnes er mwyn manteisio ar gyfleoedd masnachol ar gyfer y gwasanaethau a ddarparwn.

Llun o redwyr yn ystod 10 Cilomedr Caerffili

Byddwn yn datblygu Strategaeth Fasnachol a Buddsoddi newydd er mwyn creu rhwydweithiau economaidd a chymdeithasol newydd i ailgylchu buddion economaidd yn ôl i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i’n cymunedau h.y. Elw at Ddiben. Bydd hyn yn galw am feddylfryd newydd ac mae’n bosibl mai hon fydd yr agwedd fwyaf heriol ar ein strategaeth trawsnewid.

Bydd mabwysiadu ymagwedd entrepreneuraidd yn galw am sgiliau ac agweddau gwahanol, ac mae’n rhaid inni newid ein diwylliant er mwyn dod yn fwy cydnerth. Er mwyn hwyluso hyn byddwn yn meithrin ac yn gwreiddio diwylliant arloesol a masnachol, trwy raglen datblygiad masnachol ar draws y Cyngor.

Byddwn hefyd yn gofyn am enwebiadau ar gyfer Aelod Cabinet i fod yn Hyrwyddwr Masnachol i’r Cyngor ac yn sefydlu Panel Masnachol a fydd yn ystyried cyfleoedd masnachol.

Bydd y meddylfryd newydd hwn yn mynd â ni y tu hwnt i gynhyrchu incwm i faes marchnata ein gwasanaethau. Mae’r Cyngor, a phroffesiynoldeb ein staff, yn frand mae pobl yn ymddiried ynddo y byddwn yn ymchwilio iddo fel rhan o’r rhaglen trawsnewid #TîmCaerffili. Fel rhan o’r broses hon byddwn yn edrych ar gyfryngau masnachu posibl a fydd yn darparu’r platfform priodol inni fasnachu gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r tu hwnt.

Bydd ein hymagwedd fasnachol hefyd yn cynnwys adolygiad o’n Strategaeth Rheoli Trysorlys bresennol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar ymchwilio i gyfleoedd buddsoddi darbodus y tu hwnt i’n dulliau traddodiadol, er mwyn gwella enillion y gellir eu hailfuddsoddi wedyn mewn gwasanaethau i’w helpu i aros yn gydnerth.

CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL AMSERLEN
Enwebu Aelod Cabinet fel Hyrwyddwr Masnachol y Cyngor 12 Mehefin 2019
Strategaeth Fasnachol a Buddsoddi i gael ei drafftio a’i chymeradwyo gan y Cabinet Cymeradwyaeth gan y Cabinet erbyn 31 Hydref 2019
Sefydlu Panel Masnachol 30 Tachwedd 2019
Cyflawni adolygiad o bortffolio buddsoddiadau’r Cyngor 31 Rhagfyr 2019
Ymchwilio i gyfryngau masnachu posibl a fyddai’n caniatáu inni fasnachu gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r tu hwnt 31 Mawrth 2020