10  YMGYSYLLTU A GWEITHIO GYDA’N CYMUNEDAU

Nod ein rhaglen trawsnewid #TîmCaerffili yw ail-siapio’r Cyngor at y dyfodol. Rhaid inni wneud pethau’n wahanol er mwyn amddiffyn y gwasanaethau y mae eu hangen ac sy’n cael eu gwerthfawrogi.

Rhaid inni hefyd gydnabod y bydd y sefydliad, yn ddiau, yn llai ac y bydd yn darparu llai o wasanaethau, a’i bod yn bosibl y bydd yn darparu’r gwasanaethau sy’n weddill mewn ffordd wahanol.

Rydym eisiau gwneud hyn mewn ffordd ystyriol, sy’n deall angen, yn ystyried ein cymunedau, yn cynllunio ar gyfer yr hyn mae’n rhaid inni ei ddarparu, ac yn cefnogi ein staff wrth iddynt ein helpu i wneud hyn.

Mae cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol yn sylfaenol i’r agenda trawsnewid, a byddwn yn cyflawni hyn gyda’n cymunedau trwy Drafodaeth Caerffili.

Rhaid inni fod yn agored ac yn onest gyda’n cymunedau er mwyn rheoli disgwyliadau; rydym eisiau i’n cymunedau chwarae rhan allweddol yn y daith trawsnewid hon ac rydym eisiau gwneud hyn gyda chefnogaeth ein preswylwyr.

Mae’n bwysig i’n cymunedau ddeall a chefnogi’r llwybr rydym wedi’i gymryd; byddant hwythau’n pryderu am wasanaethau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn ffyddiog bod gennym gyd-ddealltwriaeth bod yn rhaid inni edrych at y dyfodol, ac ar yr un pryd cadw at ein hegwyddorion cymdeithasol, er mwyn amddiffyn ein gwasanaethau a’u diogelu at y dyfodol.

Rydym eisoes wedi ymrwymo i’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, a hoffem ymestyn lefel cyfranogiad cymunedau yn ein cydnodau. Byddwn yn defnyddio arferion gorau’r Gymdeithas Cyfranogiad Cyhoeddus Ryngwladol i Hysbysu, Ymgynghori, Cynnwys, Cydweithio a Grymuso ein cymunedau. Byddwn yn datblygu Fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu i gefnogi hyn.

Ar hyn o bryd rydym yn darparu amrywiaeth fawr o wasanaethau dewisol mae ein cymunedau wedi arfer â nhw. Er mwyn inni barhau i ddarparu rhai o’r gwasanaethau dewisol hyn yn y dyfodol (h.y. y pethau nad oes rhaid inni eu gwneud o dan y gyfraith), bydd arnom angen help cymunedau a’r sector gwirfoddol i’n cynorthwyo i’w darparu.

Ni ellir tanbrisio rôl cymunedau cydnerth, wedi’u grymuso ar y daith trawsnewid hon. Er bod hwn yn gyfnod anodd, mae hefyd yn gyfle i goleddu newid a datblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor, gyda chymorth ein cymunedau er budd pawb.

Mae gan dde Cymru ymdeimlad unigryw o gymuned nad yw’n bresennol mewn llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Dyma ein cyfalaf cymdeithasol; rydym yn gofalu am ein gilydd. Rhaid i ethos #TîmCaerffili olygu bod gennym ni i gyd, ni waeth pwy ydym ni – Cynghorwyr, staff, preswylwyr, y gymuned busnes, partneriaid, pobl ifanc ac ati – ran i’w chwarae wrth gyfrannu at les ein hardal.

Byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau i’w hannog i barhau â’r arferion da sydd ganddynt eisoes, h.y. arferion fel ailgylchu mwy, peidio â thaflu sbwriel, gwirfoddoli yn eu hardal leol, cefnogi chwaraeon ar lawr gwlad, cymryd rhan mewn sesiynau glanhau amgylcheddol ac ati. Gallwn i gyd wneud ein rhan dros Fwrdeistref Sirol Caerffili, mae cymunedau wedi’u grymuso’n hanfodol wrth drawsnewid y Fwrdeistref Sirol.

CYMUNEDAU WEDI’U GRYMUSO Cefnogi gallu cymunedau a harneisio cyfalaf cymdeithasol

Diagram yn dangos pedair elfen cymunedau wedi'u grymuso – Fi, Ni, Nhw, Ni

I gynorthwyo â hyn, bydd ein strategaeth trawsnewid yn cynnwys egwyddor annog ein staff i wirfoddoli i weithio yn y gymuned. Mae Gwirfoddoli Corfforaethol yn gyffredin yn y sector preifat ac yn gynyddol gyffredin yn y sector cyhoeddus. Mae ein staff yn weision cyhoeddus brwdfrydig, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn y Fwrdeistref Sirol, sydd wedi eu magu yma, ac sydd â theuluoedd yma. Maent yn malio am yr ardal gymaint ag yw eraill yn ein cymuned. Rydym eisiau ymchwilio i’r potensial i ryddhau rhywfaint o’n cyfalaf staff i’n cymunedau.

Byddwn hefyd yn edrych ar yr asedau sydd gennym a lle mae dadl gref dros wneud hynny, byddwn yn ystyried rhyddhau asedau at ddibenion cymdeithasol a chymunedol. Byddwn yn datblygu Polisi ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol a fydd yn rhan bwysig o’r ymagwedd newydd hon, trwy arfogi a grymuso ein cymunedau i gymryd perchnogaeth uniongyrchol ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau lle bo’n briodol.

CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL AMSERLEN
Polisi Gwirfoddoli Corfforaethol i gael ei ddatblygu a’i dreialu i ddechrau mewn un maes gwasanaeth 31 Rhagfyr 2019
Y Cabinet i roi gwedd derfynol ar Bolisi ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol a’i gymeradwyo 31 Rhagfyr 2019
Datblygu Fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu i gynorthwyo cymunedau wedi’u grymuso i ddod ar y daith hon gyda ni 31 Rhagfyr 2019