11  MYND ATI I CHWILIO AM GYFLEOEDD I GYDWEITHIO

Fel rhan o’r rhaglen trawsnewid byddwn yn adeiladu ar fframweithiau cydweithio sy’n bodoli eisoes. Byddwn hefyd yn ymchwilio i’r potensial am gyfleoedd newydd i gydweithio gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, lle bo buddion ymarferol i’n cymunedau a/neu gyfle i leihau costau.

Bydd pwyslais arbennig ar gyfleoedd newydd a fydd yn helpu gwasanaethau i aros yn gydnerth a lle bo achosion busnes cadarn i gefnogi cynigion i gydweithio.

Bydd gennym ymagwedd ddeublyg. Efallai y bydd adegau pan fydd dadl gref dros gydweithio lle bydd eraill yn arwain; ond byddwn hefyd yn cymryd risgiau a reolir yn dda ac yn chwilio am gyfleoedd lle teimlwn y dylai’r Cyngor fod yn Ddewis Bartner.

Byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn rannu asedau gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posibl ac ymchwilio i ddatblygu Hybiau Cymunedol, a fyddai’n darparu siopau un stop lle gellir darparu gwasanaethau oddi wrth amrywiaeth o bartneriaid mewn un man.

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan a Heddlu Gwent i ddatblygu cynigion ar gyfer Hybiau Cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Casgliad o ddelweddau sy'n dangos pobl yn cydweithio
CAMAU GWEITHREDU ALLWEDDOL AMSERLEN
Explore potential new collaborative opportunities where the Council can be the Partner of Choice 30 Tachwedd 2019
Adroddiad i gael ei baratoi yn nodi cynigion ar gyfer datblygu Hybiau Cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol 31 Rhagfyr 2019