Trafodaeth Caerffili – Pennu cyllideb y Cyngor 2024/2025

Teitl

Trafodaeth Caerffili – Pennu cyllideb y Cyngor 2024/2025

Dyddiad agor

22/01/2024

Dyddiad cau

13/02/2024

Trosolwg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu manylion cynigion ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25, cyn cyfarfod Cabinet y Cyngor ddydd Mercher 17 Ionawr.

Pam rydym yn ymgynghori?

“Dros y 3 blynedd nesaf, mae Caerffili yn wynebu diffyg cyllidebol o tua £66 miliwn, felly, mae angen i ni wneud rhai newidiadau sylweddol er mwyn llenwi’r bwlch enfawr hwn yn y gyllideb,” meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor.

Rydyn ni'n adolygu ac yn trawsnewid llawer o’n gwasanaethau i nodi arbedion effeithlonrwydd a chyflawni newid cadarnhaol, ond, yn anochel, bydd angen i ni hefyd wneud rhai penderfyniadau anodd dros y 12 mis nesaf i fantoli ein cyfrifon,” ychwanegodd.

Mae rhai o’r cynigion allweddol yn adroddiad y gyllideb yn cynnwys:

  • Cynnydd 6.9% arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25
  • £19.5 miliwn o arbedion parhaol
  • £11.4 miliwn o arbedion dros dro
  • Defnyddio £11.3 miliwn o gronfeydd wrth gefn y Cyngor tuag at arbedion

“Mae’n bwysig bod pobl leol yn cael y cyfle i ddweud eich dweud am y cynigion hyn ar gyfer y gyllideb, felly, dros yr wythnosau nesaf, byddwn ni'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus eang i gasglu adborth gan y gymuned am gynigion ein cyllideb.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn agor ar Ionawr 22, felly, cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod sut y gallwch chi helpu siapio’r ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau yn y dyfodol,” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.

Bydd adroddiad y gyllideb yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar 17 Ionawr, yna, yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei ystyried mewn cyfarfod Cyngor Llawn ddiwedd mis Chwefror.

Dogfennau

Ceir ragor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe Asesiadau Effaith y Gyllideb ac Asesiadau Effaith Integredig.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Bydd arolwg arbennig yn agor i'r cyhoedd  ddydd Llun 22 Ionawr ac yn rhedeg tan 13 Chwefror. 

Hefyd, bydd nifer o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae croeso i breswylwyr alw i mewn am sgwrs gydag aelod o dîm ymgysylltu’r Cyngor yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Llun 29 Ionawr, Llyfrgell Nelson, 10am - 12pm
  • Dydd Mawrth 30 Ionawr, Llyfrgell Coed Duon, 10am - 12pm
  • Dydd Mawrth 30 Ionawr, Llyfrgell Bargod, 4.30pm - 6.30pm
  • Dydd Iau 1 Chwefror, Llyfrgell Ystrad Mynach, 10am - 12pm
  • Dydd Llun 5 Chwefror, Llyfrgell Rhymni, 10am - 12pm
  • Dydd Mercher 7 Chwefror, Llyfrgell Rhisga, 3pm - 5pm
  • Dydd Iau 8 Chwefror, Lyfrgell Trecelyn, 10am - 12pm
  • Dydd Gwener 9 Chwefror, Llyfrgell Caerffili, 11am - 1pm

Yn ogystal, mae dwy sesiwn galw heibio ar-lein wedi'u trefnu:

  • Dydd Mercher 31 Ionawr, 11am - 12pm, ar-lein
  • Dydd Iau 8 Chwefror, 2pm - 3pm, ar-lein

Mae gofyn i drigolion sy'n dymuno mynychu un o'r sesiynau ar-lein e-bostio YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'r dyddiad sydd well gennych chi, a bydd dolen i fynychu'r sesiwn ar-lein yn cael ei darparu.

Mae gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw ofynion penodol, megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, gysylltu â’r tîm ar YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864380.

Ymholiadau

Cysylltu â’r tîm yn ymgysylltucyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380.

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu bwydo i mewn i'r adroddiad cyllideb drafft terfynol i'w ystyried gan y Cabinet a'r Cyngor Llawn ddiwedd mis Chwefror.

Canlyniadau disgwyliedig