Crynodeb o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae


Mae gan blant yr hawl sylfaenol i allu chwarae; mae'n rhan annatod o’u mwynhad mewn bywyd ac yn gallu cyfrannu at eu lles. Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant.

Mae tystiolaeth i gefnogi’r gred hon yn ogystal â dealltwriaeth gynyddol o gyfraniad chwarae, nid yn unig at fywydau plant, ond hefyd at les eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Mae Adran 11, Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardal bob 3 blynedd a chreu cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r diffygion sy’n cael eu nodi yn yr asesiad.

Mae'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi'i rhannu mewn 9 mater. Isod, mae diweddglo.

Casgliad

Dylai'r adran hon nodi’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer yr Awdurdodau Lleol yn unol â’r rheoliadau a ddisgrifir yn y Canllawiau Statudol.

Mater A: Poblogaeth

Cyfrifiad 2011 yw'r ffynhonnell ddata fwyaf priodol o hyd, yn 2016.

Mater B: Diwallu Anghenion Amrywiol

Dull yr Awdurdod Lleol o ymdrin â chwarae yw parhau i hyrwyddo cynhwysiant i bawb ac, felly, bydd y rheini ag angen penodol yn rhinwedd anabledd, diwylliant, iaith, cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw reswm arall, yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn lleoliadau chwarae presennol cymaint â phosibl, yn hytrach na chael eu gwahanu drwy ddarpariaeth wahanol. Fodd bynnag, cydnabyddir y gall fod gan grwpiau penodol ofynion penodol y mae angen darpariaeth penodol i'w bodloni. Felly, mae'r Asesiad wedi ystyried lleoliad darpariaeth yn benodol i blant anabl ac mae'n amlwg, er bod darpariaeth ar gael, fod cwmpas daearyddol y ddarpariaeth honno yn amrywio. Fodd bynnag, mae trafnidiaeth gymunedol ar gael i helpu.

Drwy'r Archwiliad o Fannau Agored a gynhaliwyd fel rhan o sylfaen dystiolaeth y Cynllun Datblygu Lleol, mae gan yr ALl syniad clir o'r mannau agored sydd ar gael i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ac mae'r rhwystrau a wynebir gan blant yn yr ardaloedd hyn wedi'u nodi drwy'r arolwg plant, er y byddai'n fuddiol gwneud rhagor o waith arolygu mewn rhai cymunedau.

Ychydig o ardaloedd a fyddai'n cael eu dosbarthu'n rhai 'anghysbell'. Ceir nifer bach o grwpiau ethnig penodol yn y Fwrdeistref Sirol. Hyd yma, ni nodwyd unrhyw alw penodol am ddarpariaeth chwarae diwylliannol briodol ac nid yw diffyg darpariaeth diwylliannol benodol wedi'i nodi'n rhwystr i chwarae. Fodd bynnag, bydd angen cynnal rhagor o ymgyngoriadau mewn perthynas â hyn.

O ran y Gymraeg, mae asesiad o'r ddarpariaeth yn y Fwrdeistref Sirol yn nodi'n glir mai dim ond darpariaeth wedi'i goruchwylio gyfyngedig sydd ar gael i grwpiau oedran penodol mewn rhai ardaloedd, a bod llawer o'r ddarpariaeth hon yn gysylltiedig ag ysgolion Cyfrwng Cymraeg (clybiau brecwast ac ar ôl ysgol). Fodd bynnag, canfuwyd, yn enwedig yng ngogledd y Fwrdeistref Sirol, fod y ddarpariaeth gofal plant Cyfrwng Cymraeg yn anghynaliadwy ac, felly, mae'n bwysig bod unrhyw ddarpariaeth chwarae Cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol yn seiliedig ar alw. Felly, bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i weithio gyda grwpiau Cymraeg fel y Fenter Iaith a Mudiad Meithrin i bennu, drwy ymgynghori ymhellach â phlant a rheini, lle y byddai galw am fwy o gyfleusterau ac i annog gwaith i ddarparu'r cyfleusterau hyn lle y bo'n briodol.

Mater C: Y lle sydd ar gael i blant chwarae: Mannau Agored a Mannau Chwarae Dynodedig yn yr Awyr Agored Lle Nad Oes Staff

Cynhaliwyd Asesiad cynhwysfawr o Fannau Agored yn unol â'r teipolegau o Fannau Agored a nodir yn TAN 16, ond nid oes unrhyw asesiad penodol wedi'i gynnal mewn perthynas â'r teipolegau hynny a nodir yn y Canllawiau Statudol ar Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae sy'n ychwanegol at y rheini a nodir yn TAN 16, sef safleoedd tir llwyd a strydoedd preswyl. Defnyddiwyd y data hyn, yn unol â safonau lleol ar gyfer y mannau agored sydd ar gael, i nodi ardaloedd lle nad oes digon o fannau agored y gellir eu defnyddio at ddibenion chwarae pan gânt eu hasesu yn erbyn y safonau lleol hyn. Mae canlyniadau'r asesiad hwn wedi dangos bod nifer bach o wardiau sydd ychydig islaw'r safonau ar gyfer mannau chwarae plant. Fodd bynnag, lle mae diffygion amlwg yn nhermau meintiol, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i ffactorau eraill, gan gynnwys y mannau chwarae sydd ar gael mewn wardiau cyfagos.

Cyfrifwyd ac aseswyd nifer y mannau chwarae a'r mannau chwarae dynodedig sydd ar gael yn erbyn safonau lleol yn seiliedig ar arwynebedd y cyfleusterau (safon FIT fesul 1,000 o bobl) ac union nifer y cyfleusterau fesul y boblogaeth o blant, ac ystyriwyd hyn yn erbyn y ddarpariaeth hysbys ar gyfer y dyfodol, e.e. drwy gytundebau Adran 106 a'r ddarpariaeth mewn wardiau cyfagos. Nodwyd bod darpariaeth annigonol mewn ambell ward.

Mae'r asesiad hefyd yn ystyried defnyddioldeb y lle yn ogystal â'i hygyrchedd yn seiliedig ar y safonau gofynnol o ran pellteroedd teithio fesul grŵp oedran, ei amwynder hamdden a gweledol a'i gyflwr. Nodwyd ardaloedd nad ydynt yn cyrraedd y safonau gofynnol o ran pellter.

Er bod hyn yn darparu llinell sylfaen o werth pob man agored a man dynodedig, ni chynhaliwyd asesiad llawn o'u gwerth o ran chwarae a byddai'n fuddiol cynnal asesiad manylach o hyn, yn enwedig mewn perthynas â mannau dynodedig er mwyn llywio adolygiadau o'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn y dyfodol.

Mater D: Darparu cyfleoedd dan oruchwyliaeth

Mae'r awdurdod lleol yn cadw cofnod cyfredol o'r holl ddarpariaethau chwarae dan oruchwyliaeth sydd ar gael yn y Fwrdeistref Sirol. Caiff y mwyafrif o'r cofnodion hyn eu cyhoeddi ar wefannau amrywiol y Cyngor. Fodd bynnag, nid yw'r data hyn yn cynnwys gwybodaeth am gapasiti na maint cyffredinol grwpiau, na ph'un a oes rhestr aros. Mae hwn yn faes y mae angen ei ddatblygu ymhellach.

Dengys dadansoddiad o'r ddarpariaeth gyfredol fod dosbarthiad da o ddarpariaeth chwarae dan oruchwyliaeth yn y Fwrdeistref Sirol a bod nifer o grwpiau am ddim neu gost isel mewn rhai ardaloedd. At hynny, ceir darpariaeth mewn rhai ardaloedd ar gyfer anghenion gwahanol fel anabledd a darpariaeth cyfrwng Cymraeg er bod diffygion wedi'u nodi mewn rhai ardaloedd. Pecyn Cymorth Asesu 81 Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – Rhan 2

Mae CBSC a'i bartneriaid chwarae yn ceisio cynnig darpariaeth sy'n cynnig amgylchedd cyfoethog o ystyried nifer y cyfleoedd chwarae gwahanol sydd ar gael, ac mae llawer o'r darpariaethau sydd ar gael wedi'u hachredu gan AGC. Mae gan CBSC hefyd ei Safon Ansawdd ei hun y bydd cynlluniau chwarae yn anelu at ei chyrraedd. Dengys y dadansoddiad o ddarpariaeth chwarae dan oruchwyliaeth fod amrywiaeth eang a chyfoethog o gyfleoedd chwarae ar gael er mwyn i blant o bob oed gymryd rhan ynddynt yn eu wardiau unigol.

Mae'r strategaeth datblygu chwaraeon, y grwpiau diwylliant a'r celfyddydau, a'r timau hamdden a thwristiaeth yn helpu i nodi'r amrywiaeth o ddarpariaethau chwarae sydd ar gael yn y fwrdeistref, a chaiff Rhaglen Gwella Gwyliau'r ei chynnal mewn ysgolion am ddim i deuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn cefnogi chwarae, chwaraeon a maeth.

Mater E: Codi tâl am ddarpariaeth chwarae

Ceir darpariaeth am ddim neu gost isel dda yn y rhan fwyaf o wardiau yn y Fwrdeistref Sirol. Mae plant a phobl ifanc yn cael budd o gyllid Teuluoedd yn Gyntaf ac mae sesiynau chwarae am ddim ar gael i blant bach mewn sawl ward. Mae plant hŷn yn cael budd o glybiau ieuenctid a gynhelir gan y Gwasanaeth Ieuenctid yn ogystal â rhai clybiau a gynhelir gan y sector gwirfoddol. Mae Prosiectau'r Gwasanaeth Ieuenctid a ariennir gan gyllid Teuluoedd yn Gyntaf, y Gronfa Waddol a chyllid Cymunedau Mwy Diogel hefyd yn cynnal gweithgareddau am ddim ar sail allgymorth i bobl ifanc yn eu cymunedau. Mae hyn yn golygu y gellir cynnig darpariaethau chwarae am ddim yn yr ardaloedd hynny lle ceir mwy o deuluoedd incwm is.

Fodd bynnag, gall lleoliad y darpariaethau hyn olygu bod yn rhaid i blant bach ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn manteisio ar ddarpariaethau am ddim. Ar hyn o bryd, pris tocyn plentyn ar drafnidiaeth gyhoeddus yw tua hanner y pris arferol. Fodd bynnag, nid tocynnau â chymhorthdal yw'r rhain, a mater i'r gweithredwyr trafnidiaeth gwahanol yw pennu pris tocynnau. Gallai cynnig rhagor o docynnau teithio â chymhorthdal arwain at gynnydd yn nifer y plant sy'n manteisio ar ddigwyddiadau chwarae.

Mater F: Mynediad i le/darpariaeth

Er mwyn sicrhau cydweithio, mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn helpu i lywio CDLlau. O fewn CBSC, mae'r CDLl a fabwysiadwyd yn helpu i lywio cynigion arfaethedig ac yn ceisio gwella llwybrau trafnidiaeth allweddol, ar gyfer pob math o gerbydau a cherddwyr. Mae'r CDLl hefyd yn ceisio cynnwys llwybrau beicio yn y rhwydwaith trafnidiaeth ehangach. Bydd gwasanaethau trên amlach yn helpu i wella'r gallu i fanteisio ar ddarpariaethau chwarae yng Nghaerffili.

Mae'r Awdurdod Lleol wedi buddsoddi mewn nifer sylweddol o gynlluniau gostegu traffig, ac mae terfynau cyflymder a pharthau 20 milltir yr awr wedi sicrhau bod ffyrdd y Fwrdeistref Sirol yn fwy diogel i blant, yn enwedig o amgylch ysgolion. Er bod yr arolygon rhieni a phlant yn dangos bod y cyhoedd yn teimlo y gellid gwneud mwy, mae'n amlwg bod yr ALl eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wella diogelwch ar y ffyrdd, a thrwy'r Strategaeth Rheoli Cyflymder, gall pobl enwebu ffyrdd lle y dylid rhoi mesurau gostwng cyflymder ar waith, sy'n cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r rhwystrau i chwarae mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd lle y bo'n briodol. Mae rhaglen addysg helaeth ar waith hefyd mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd.

Mae'r Cyngor yn annog cynlluniau cerdded a beicio o fewn ei gynlluniau Ysgolion Iach a Theithio Llesol. At hynny, mae ysgolion hefyd yn helpu i addysgu plant bach i ddefnyddio'r strydoedd yn ddiogel, ac mae grantiau ar gael er mwyn helpu i ariannu hyn.

Er bod gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor am gau ffyrdd dros dro, mae hyn wedi'i anelu at ddigwyddiadau arbennig, a bydd gwaith yn cael ei wneud i wella'r wybodaeth ar y wefan.

Gwybodaeth, cyhoeddusrwydd a digwyddiadau

Mae gwybodaeth am gyfleusterau a grwpiau chwarae ar gael yn hawdd ar wefannau'r cyngor a'i bartneriaid chwarae. Mae'r holl wefannau wedi'u dylunio mewn ffordd sy'n sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio, a bod plant a rhieni yn gallu gweld pa ddarpariaethau sydd ar gael iddynt.

Mae'r holl ddeunyddiau a gynhyrchir gan y Cyngor a'i bartneriaid chwarae wedi'u hanelu at eu cynulleidfa darged ac maent ar gael ar gais mewn amrywiaeth o gyfryngau gwahanol.

Mater G: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae

Mae chwarae a gwaith chwarae yn rhan o'r gwaith a wneir gan Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar Caerffili. Er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi'r gweithlu i gyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a manteisio ar gyfleoedd DPP, rydym yn casglu gwybodaeth drwy'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Gwefan Hyfforddiant Gwasanaeth Datblygu Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar am faint a strwythur y gweithlu. Mae gennym dîm o Swyddogion Gofal Plant sy'n cefnogi clybiau y tu allan i oriau ysgol a all roi cyngor ar yr hyn sydd ar gael a chefnogi'r lleoliad i sicrhau ei fod yn cyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Mater H: Ymgysylltu â’r gymuned a’i chynnwys

Drwy'r cynlluniau a'r rhaglenni amrywiol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol, caiff nifer o ymgyngoriadau eu cynnal yn rheolaidd er mwyn helpu i fesur llwyddiant cynlluniau amrywiol, neu nodi unrhyw fylchau mewn darpariaeth. Caiff plant a phobl ifanc eu hannog i fanteisio ar gyfleodd i hyrwyddo chwarae ac mae nifer o enghreifftiau o arferion da yn y Fwrdeistref Sirol lle mae hyn yn llwyddo.

Mater I: Chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol

Cydnabyddir bod chwarae yn agenda bolisi drawsbynciol y gall nifer o feysydd polisi ddylanwadu arni, ac mae asesiad o'r polisiau a'r strategaethau niferus a lunnir gan y Cyngor yn dangos, er na chyfeirir yn uniongyrchol at chwarae yn aml, y bydd nodau cyffredinol nifer o strategaethau, e.e. lleihau traffig, cynyddu nifer y darparwyr gofal plant sy'n cyrraedd safonau lleol, diogelwch cymunedol, ac ati, yn cael effaith anuniongyrchol ar y ddarpariaeth chwarae yng Nghaerffili.

Ceir tystiolaeth o arferion da mewn ysgolion mewn perthynas â chyfleoedd chwarae, ond mae lle i ehangu'r rhaglenni sy'n cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus ar hyn o bryd yn ogystal ag ystyried cynyddu'r defnydd o feysydd chwarae y tu allan i oriau ysgol gan eu bod yn fannau chwarae gwerthfawr.

Mae gwarchod mannau agored gwerthfawr a darparu mannau agored newydd ac offer sefydlog lle mae datblygiad newydd yn creu galw yn elfennau pwysig o'r CDLl, ac mae'r sylfaen dystiolaeth a rennir ar fannau agored rhwng yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a'r CDLl yn hanfodol i sicrhau bod y wybodaeth yn parhau'n gyfredol.

Y ffordd ymlaen

Mae'r Cynllun Gweithredu yn nodi, er bod y ddarpariaeth chwarae yn eang ac amrywiol, bod angen gwneud rhagor o waith i asesu ansawdd y ddarpariaeth sydd ar gael. Heb os, bydd y gwaith hwn yn effeithio ar gyllid y timau y mae angen iddynt ymgymryd ag ymchwil a gwaith dadansoddi ehangach.

Heb gyllid priodol gan y Llywodraeth, mae'n ansicr sut y gellir rhoi'r camau gweithredu hyn ar waith.

Er mwyn adeiladu ar y rhwydweithiau cryf a grëwyd gan y Gweithgor Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, bydd cyfarfodydd rheolaidd y parhau i gael eu cynnal i drafod a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y prosiect hwn