Strategaeth tai bwrdeistref sirol caerffili: agenda ar gyfer newid 2021-2026


Cyflwyniad

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu a hyrwyddo amgylchedd lle mae cydweithio rhwng partneriaid yn allweddol o ran darparu dulliau cyfannol ar gyfer y materion y mae ein trigolion ni’n eu hwynebu.

Mae ein Strategaeth Tai Lleol uchelgeisiol newydd ni, ‘Agenda ar gyfer Newid’, wedi’i datblygu drwy gydweithio â thrigolion a rhanddeiliaid, yn unol ag ethos Tîm Caerffili. Ar ran y Cyngor, hoffwn i ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori a datblygu’r strategaeth.

‘Agenda ar gyfer Newid’ yw conglfaen lles ac mae’n nodi ein cynlluniau ni i adeiladu bywydau llwyddiannus, creu cymunedau cryf a gwydn, buddsoddi mewn economi leol a bywiog, a hyrwyddo bywydau iach ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae’n darparu gweledigaeth glir o sut y byddwn ni’n gweithio gyda thrigolion a phartneriaid i gyflawni ein dyheadau ni ar y cyd dros y 5 mlynedd nesaf i ddarparu tai o ansawdd da mewn cymunedau diogel ac iach, wrth sicrhau canlyniadau pendant i bobl leol hefyd.

Mae’r cynlluniau uchelgeisiol hyn wedi’u datblygu yn unol â’n taith gyffrous ni o drawsnewid fel Cyngor, ac maen nhw’n cyd-fynd â’n cynlluniau Llunio Lleoedd ni, a fydd yn arwain at fuddsoddi sylweddol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ein nod ni yw adeiladu ar y cynnig tai presennol yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn gwella’r dewis o dai i alluogi pobl i symud drwy eu bywydau nhw a dod o hyd i lety addas wrth i’w hamgylchiadau nhw newid. Bydd ein cynlluniau ni’n darparu dewis ac ansawdd, waeth beth fo’u hincwm a’u hoedran nhw, wrth hybu byw’n annibynnol.

Rydyn ni’n cydnabod bod canlyniadau’r strategaeth hon hefyd yn gallu creu’r potensial i ymestyn llawer ymhellach na darparu tai yn unig. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y gorau o unrhyw fuddsoddiad er mwyn darparu buddion llawer ehangach i’n cymunedau lleol ni ac i adael etifeddiaeth barhaus. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cadwyni cyflenwi lleol i ysgogi’r economi a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi.

Fel sefydliad, rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030. Fel Cyngor, rydyn ni’n deall yr heriau y mae ein trigolion ni’n eu hwynebu wrth ddod o hyd i dai fforddiadwy sydd o ansawdd da, yn ddiogel ac yn diwallu eu hanghenion nhw. Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod amrywiaeth o faterion eraill yn effeithio ar ein trigolion ni, gan gynnwys tlodi tanwydd a bwyd, diweithdra ac iechyd gwael. Mae llawer o’r materion hyn wedi cael eu gwaethygu gan bandemig COVID-19.

Mae’r Agenda ar gyfer Newid yn nodi ein haddewid ni i hyrwyddo atebion datblygu cynaliadwy a darparu cymunedau gwyrddach ac iachach yn unol â’r ymrwymiad hwn. Wrth symud ymlaen, byddwn ni’n sicrhau bod cartrefi presennol yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni, drwy raglen ôl-osod wedi’i thargedu, a bod cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu i safonau effeithlonrwydd ynni uwch.

Yn olaf, cafodd y Strategaeth hon ei datblygu yn ystod pandemig COVID-19 ac mae’r effeithiau tymor hwy ar gyfer tai yn aneglur. Mae’r pandemig wedi dangos yr effaith anghymesur ar aelwydydd bregus, pobl hŷn ac aelwydydd incwm isel; mae’r effaith hon yn debygol o gael ei theimlo am flynyddoedd lawer i ddod. Mae’r pandemig wedi sicrhau dadl gymhellol bod tai o ansawdd da yn hawl sylfaenol a bod buddsoddiad hirdymor, mewn tai dros dro a gwirioneddol fforddiadwy i helpu’r rhai sydd â’r angen tai mwyaf, yn hanfodol.

Bydd y buddsoddiad sy’n cael ei ddarparu mewn cartrefi a chymunedau fel rhan o fframwaith Llunio Lleoedd y Cyngor yn helpu adeiladu dyfodol gwydn a chynaliadwy wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19.

Y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai

Ein gweledigaeth ar gyfer y cynnig tai ym mwrdeistref sirol caerffili

Bydd ein cynnig tai yn un fforddiadwy a deniadol. Bydd yn cefnogi ansawdd bywyd gwych, sicrhau cysylltiad economaidd, yn ffisegol ac yn gymdeithasol ac mewn cymdogaethau y gallwn ymfalchïo ynddynt.

Bydd y cartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu yn gwella dewis ac ansawdd. Bydd y Cartrefi Newydd yn garbon sero-net a thrwy ôl-osod byddwn yn darparu cartrefi a fydd yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Bydd y cartrefi presennol yn derbyn y buddsoddiad sydd ei angen arnynt ar gyfer eu diogelwch, eu cynhesrwydd a’u hygyrchedd ffisegol.

Bydd cynnig diogel, gweddus a fforddiadwy ar gael p’un a yw pobl yn prynu neu’n rhentu yn y sector rhent cymdeithasol neu breifat.

I’r rhai sydd angen llety arbenigol, y rhai mewn angen, sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, bydd opsiynau a chymorth ar gael.

Bydd ein Cartrefi a’n cymunedau yn darparu seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel ac yn hybu iechyd da.

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon bydd y Cyngor yn gweithio gyda’n partneriaid, i gefnogi cymunedau amrywiol i ffynnu a darparu gwasanaethau sy’n cyflawni anghenion ac uchelgeisiau pob un o’n trigolion.

Mae gennym bum blaenoriaeth strategol wedi eu hadnabod er mwyn helpu i gyflawni’r weledigaeth:

Creu dewisiadau gwell

Rydym yn canolbwyntio ar Atebion sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, gan symud oddi wrth bolisïau cyffredinol ac ymgysylltu mwy gyda thrigolion er mwyn i ni allu deall anghenion pobl yn well, datblygu atebion wedi’u teilwra sy’n hybu cydraddoldeb ac sy’n lleihau anghydraddoldeb. Bydd hyn yn cynnig cynigion newydd i brynwyr am y tro cyntaf, gweithwyr allweddol, pobl sydd angen addasiadau, pobl ganol oed a hŷn a phobl sy’n rhentu eu cartref.

Creu Lleoedd Gwych i Fyw

Rydym yn credu y bydd dyluniad da a chreu lleoedd cynaliadwy y gellir byw ynddynt yn helpu i greu cymdogaethau cadarn a pharhaol gyda thai y mae pobl eu heisiau. Bydd ein cynlluniau adfywio a buddsoddi yn ceisio ail-gydbwyso marchnadoedd tai ar draws y Fwrdeistref Sirol. Ar y cyd byddwn yn buddsoddi mewn deunyddiau a thechnolegau ynni effeithlon sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol mewn Cartrefi newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, gan gyflawni ar yr Argyfwng hinsawdd sydd wedi’i ddatgan gan y Cyngor.

Creu cartrefi iach a chymdogaethau bywiog

Mae ein Strategaeth Tai Lleol yn cwmpasu deiliadaethau i gynnig cymorth, cyngor ac atebion i wella ansawdd ac iechyd bywydau a chartrefi pobl. Byddwn yn hybu model Gofalu am Gaerffili a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Landlordiaid Preifat i wella’r cynnig i denantiaid a defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i fynd i’r afael â llety o safon wael.

Darparu cartrefi newydd

Mae Caerffili ‘Ar Agor am Fusnes’ ac yn cydnabod, er bod heriau cyflawni yn bodoli, mae penderfyniad a chynllun i greu atebion arloesol a fydd yn sefydlu modelau a chyllid er mwyn cyflwyno tai newydd mewn cymunedau. Bydd y Cyngor yn adeiladu cartrefi Cyngor newydd ac yn buddsoddi yn y farchnad dai i gynorthwyo darparwyr tai i adeiladu mwy o gartrefi.

Cefnogi anghenion tai arbenigol

Bydd prosbectws llety arbenigol yn llywio datblygiadau newydd sy’n cefnogi llwybrau cadarnhaol at annibyniaeth i bobl ag anghenion cymhleth. Byddwn yn canolbwyntio ar atal digartrefedd a chysgu allan drwy ddarparu cyngor arbenigol ac amserol a chynyddu’r dewisiadau tai sydd ar gael.

Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u hategu gan dystiolaeth o angen am dai yn y Fwrdeistref Sirol a’r hyn yr ydym wedi’i glywed gan ein trigolion a’n partneriaid.

Yn ogystal â’r pum blaenoriaeth, rydym yn ymrwymedig i’r themâu trawsbynciol canlynol sy’n adlewyrchu ein cymunedau a’n gwerthoedd:

Creu dewisiadau gwell

Mae rhai pobl yn dewis prynu, tra bod eraill yn rhentu cartref ac mae angen i bobl wneud dewisiadau gwahanol trwy gydol eu bywyd. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl i allu cael mynediad i gartref diogel a fforddiadwy o ansawdd da, waeth a ydynt yn rhentu neu'n prynu.

Cyflawni’r strategaeth

Mae’r strategaeth yn cael ei hategu gan gynllun gweithredu, a ddatblygwyd mewn partneriaeth, sy’n cyflwyno’r hyn a fydd yn cael ei wneud, pryd a chan bwy, i gyflawni ar bob un o’r blaenoriaethau allweddol. Byddwn yn parhau i fonitro ein cynnydd, yn gwahodd proses graffu er mwyn gwella ansawdd a meincnodi perfformiad.

Mae hyn yn golygu bod angen sicrhau bod dewis o gartrefi ar draws Caerffili o ran maint a math o dai ac am brisiau a rhenti gwahanol.

Mae byw lle gallwch fforddio a chael diogelwch, yn helpu pobl i roi gwreiddiau i lawr a chael sylfaen sefydlog, ymdeimlad o gymuned a pherthyn ac felly mae ansawdd rheoli cartrefi rhent hefyd yn effeithio ar ddewis.

Trwy ddefnyddio'r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, byddwn yn gosod allan gynlluniau i greu cynnig tai mwy cytbwys i wahanol grwpiau o bobl. Bydd ein blaenoriaethau yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu atebion i helpu i ddiddymu’r rhwystrau y mae pobl yn eu profi yn ein marchnad dai ar hyn o bryd. Bydd hyn yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn ategu iechyd a llesiant. Rydym eisiau sicrhau bod yna ddewisiadau tai i bawb sy’n byw yng Nghaerffili, o’r rhai sy’n prynu eu cartref cyntaf i aelwydydd sydd eisiau uwchraddio wrth i’w teulu dyfu, a chanfod y ‘maint cywir’ i bobl yn ddiweddarach yn eu bywyd.

Cymorth i bobl sydd eisiau prynu tŷ

Mae gan y landlordiaid cymdeithasol sy’n gweithio yng Nghaerffili brofiad blaenorol da o ddarparu opsiynau perchentyaeth fforddiadwy. Rydym yn awyddus i ehangu’r cynnig hwn ac felly rydym yn cyflwyno cynnyrch Perchentyaeth Cost Isel i bobl sy’n dyheu am fod yn berchennog ar eu cartref eu hunain ond nad ydynt yn gallu fforddio prynu heb gymorth ariannol. Bydd hyn yn galluogi pobl i brynu tŷ, wedi’u darparu drwy gytundebau adran 106 neu drwy gartrefi sydd wedi’u hadeiladu gan y Cyngor, a bydd yn cynnig benthyciad ecwiti o hyd at 30%, a fydd yn lleihau’r pris i brynu cartrefi newydd. Bydd yn cael ei hyrwyddo i brynwyr tro cyntaf incwm isel a chanolig a gweithwyr allweddol i allu bod yn berchen ar eu cartref fforddiadwy eu hunain ac, yn ystod oes y strategaeth hon, byddwn yn ystyried cyflwyno cynnyrch tebyg ar gyfer eiddo sydd ar y farchnad dai bresennol.

Rydym yn awyddus i ddenu mwy o bobl i symud i ogledd y Fwrdeistref Sirol a byddwn yn ymchwilio i gynnyrch posibl a allai helpu i gyflawni hyn. Rydym yn awyddus i ddenu Prynwyr am y Tro Cyntaf, tenantiaid sydd eisiau prynu, aelwydydd sydd newydd gael eu creu, graddedigion sy’n dychwelyd i Gaerffili a gweithwyr allweddol. Gallai ddilyn model ‘cartrefu’ sy’n cynnig cartrefi am bris sy’n is na’u gwerth ar y farchnad ond sydd angen buddsoddiad a gallai hyn ffurfio rhan o’r strategaeth cartrefi gwag.

Cymorth i bobl sy’n berchen ar eu cartref eu hunain

Rydym o’r farn y gallai heriau fforddiadwyedd fod yn cyfyngu ar aelwydydd wrth i’w teuluoedd dyfu a byddwn yn profi hyn yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Os yw hyn yn wir, rydym yn awyddus i ystyried a yw’n bosibl darparu cymorth drwy fenthyciad ecwiti ar gyfer prynu eiddo mwy. Byddai’n gweithio yn yr un ffordd â’r benthyciad ecwiti Perchentyaeth Cost Isel a byddai ar gael ar gyfer cartrefi newydd a phresennol.

Pan fydd aelwydydd yn berchen ar eu heiddo eu hunain ac mae angen gwneud addasiadau helaeth er mwyn cefnogi gofynion tai arbenigol aelodau’r teulu, gall y Cyngor ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl; y grant uchaf sydd ar gael yw £36,000. Mae yna achlysuron pan fydd diffyg a byddwn yn archwilio’r posibilrwydd o gynnig benthyciad ecwiti er mwyn pontio’r bwlch hwn. Gellir ei ddefnyddio hefyd pan fydd cartrefi sy’n anaddas i’w haddasu a bod angen symud i dŷ newydd ond nad yw’n fforddiadwy.

Yn ddiweddar, cafodd y cyfle Hawl i Brynu i denantiaid cymdeithasol ei ddileu yng Nghymru a byddwn yn ceisio cefnogi tenantiaid sydd am brynu cartref i wneud hynny trwy'r atebion perchentyaeth hyn.

Cymorth i bobl sy’n rhentu cartref yn y sector rhentu preifat

Mae’r Sector Rhentu Preifat yn cynrychioli tua 12% o’r holl gartrefi ar draws Caerffili. Mae’n opsiwn tai y mae llawer o aelwydydd yn ddibynnol arno yn awr, ac mae ein tystiolaeth yn cadarnhau mai dyma yw’r broses naturiol i lawer o aelwydydd sydd newydd gael eu creu. Mae ein tystiolaeth yn dangos bod lefelau rhent yn codi, canlyniad marchnad boblogaidd a phrinder eiddo.

Rydym eisiau sicrhau bod y sector hwn yn darparu’r eiddo a’r gwasanaethau rheoli gorau posibl, ac mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod lle i wella. Gwyddom fod y sector wedi’i ddominyddu gan dai teras hŷn, sydd angen buddsoddiad yn aml, ac mae gan lawer ohonynt lefelau rhent isel ac mae yna tua 200 o Dai Amlfeddiannaeth, sy’n aml o ansawdd isel ond nad ydynt yn gorfod cael trwydded. Pan fyddwn yn derbyn cwynion, maent yn dueddol o ymwneud â rheoli tenantiaeth, sy’n awgrymu y gallai fod angen rhywfaint o gymorth pellach ar landlordiaid.

Rydym yn awyddus i wella’r cynnig sydd ar gael yng Nghaerffili ac felly byddwn yn:

Cymorth i bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol

Mae tua 20% o bobl yng Nghaerffili yn byw mewn tai cymdeithasol. Y landlord mwyaf yw’r Cyngor ond mae cartrefi’n cael eu darparu hefyd gan Linc Cymru, Grŵp Pobl a chymdeithasau tai United Welsh a Wales & West.

Mae ein tystiolaeth yn dangos i ni fod angen i ni gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac yn arbennig darparu mwy o gartrefi llai (1 ystafell wely) a chartrefi mwy (4 ystafell wely) ond mae’r gofynion yn wahanol ar draws Caerffili a bydd angen i ddarpariaeth yn y dyfodol gadw hyn mewn cof. Bydd ein sylfaen dystiolaeth wedi’i diweddaru yn ystyried anghenion pobl sydd ar ein rhestr aros yn ogystal ag adborth o ymchwil sylfaenol, er mwyn i ni allu cael dealltwriaeth gywir o angen yn y dyfodol a’r ddarpariaeth bresennol.

Er bod gennym lai o gartrefi cymdeithasol llai a mwy, mae gan y cyngor ormod o gartrefi 3 ystafell wely a gorddarpariaeth o gartrefi 3 ystafell wely mewn rhai lleoliadau ac rydym yn ystyried gwahanol opsiynau i gwblhau estyniadau a thrawsnewid atigau er mwyn cynyddu’r nifer o ystafelloedd gwely a thrawsnewid rhai cartrefi yn fflatiau llai. Byddwn yn ystyried opsiynau i werthu stoc dros ben i brynwyr am y tro cyntaf neu i aelwydydd sy’n tyfu a defnyddio’r dderbynneb i ddarparu cartrefi newydd llai a mwy. Fel rhan o’r gwaith o wella’r defnydd gorau o’n stoc, rydym wedi datblygu dealltwriaeth fanwl o allu pobl i gael mynediad at gartrefi y mae’r Cyngor yn berchen arnynt ac rydym wedi sefydlu rhestr ganolog sy’n diweddaru stoc a chategorïau meddygol ar gyfer yr holl dai cymdeithasol, sy’n galluogi ein Tîm Atebion Tai i gyfateb anghenion tenantiaid yn well gydag eiddo. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid landlordiaid cymdeithasol i wneud yr un peth.

Drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda landlordiaid cymdeithasol, byddwn yn herio pob darparwr tai cymdeithasol, gan gynnwys y Cyngor, i weithio at safonau rheoli cyson sy’n ‘codi’r safon’ a’n cynnig i denantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol. Rydym yn awyddus i’r gwasanaeth ar draws Caerffili fod yn arloeswr arfer da, gan ddatblygu’r cymorth a gynigir yn awr ar denantiaethau er mwyn lleihau’r angen am gamau gorfodi. Rydym eisiau edrych i weld sut y gallwn fesur iechyd ein cymdogaethau, cefnogi cymunedau cydnerth a hyrwyddo’r canlyniadau cadarnhaol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddwn yn datblygu dangosyddion perfformiad a rennir i fonitro ein heffaith a’n llwyddiant.

Bydd y Cyngor yn chwyldroi ei wasanaethau drwy dechnoleg a buddsoddiad technegol a fydd yn rhoi mwy o sylw ar y cwsmer. Byddwn yn defnyddio data a gwybodaeth am denantiaid i gefnogi dadansoddeg ragfynegol fel dull o nodi angen yn y dyfodol a theilwra gwasanaeth. Byddwn yn cyflwyno gwasanaethau mewn cymunedau drwy hybiau i gwsmeriaid a gweithio’n hyblyg a chreu mwy o gyfleoedd i denantiaid a lesddeiliaid ymgysylltu drwy gyfleoedd ar y rhyngrwyd, i reoli eu cyfrifon ac archebu atgyweiriadau. Bydd cwsmeriaid yn gallu trefnu i nifer o ymholiadau gael sylw mewn un cysylltiad a bydd gan staff rheng flaen yr offer a’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i weithredu ar draws ffiniau adrannol.

Darparu cynnig gwell yn ddiweddarach mewn bywyd

Mae ein poblogaeth yn heneiddio. Yn 2033, bydd 23.5% o’r boblogaeth yn y grŵp 65 oed a hŷn, cynnydd o 19.3% yn 2018. Bydd lle a sut mae pobl hŷn yn byw yn ddibynnol ar eu hangen, dewis, ffordd o fyw a’u hamgylchiadau ariannol unigol, fel unrhyw grŵp oedran arall. Bydd y mwyafrif o bobl hŷn yn parhau i fyw yn eu cartref presennol wrth iddynt heneiddio ond bydd eraill yn dymuno symud neu bydd angen iddynt symud. Bydd yna bobl hŷn sy’n byw’n annibynnol ar hyd eu hoes, tra bydd angen gofal a chymorth arbenigol ar rai pobl.

Rydym yn gwerthfawrogi pobl yn ddiweddarach mewn bywyd, rydym eisiau hybu cydraddoldeb rhwng y cenedlaethau, er mwyn i drigolion allu cyfrannu ac elwa ar ffyniant cyson a mwynhau ansawdd bywyd da.

Mae ein tystiolaeth yn dweud wrthym fod mwyafrif y bobl hŷn eisiau parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain, tra bod eraill eisiau symud. Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn golygu y bydd angen pwyslais o’r newydd ar sicrhau bod cefnogaeth ar gael i alluogi pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain ond i’r rhai sydd am symud, bydd ystod amrywiol o dai ar gael.

Bydd hyn yn golygu y bydd angen adeiladu cartrefi fel cartrefi am Oes a’u bod yn cael eu cynllunio gydag anghenion gofal posibl a hygyrchedd mewn cof. Mae angen darparu opsiynau llawer gwell hefyd i’r rhai sy’n dymuno symud i gartref o faint mwy priodol, mewn lleoliad sy’n eu galluogi i gael mynediad cyfleus at wasanaethau a chyfleusterau lleol.

Gan weithio gyda phartneriaid, byddwn yn cyflwyno llwybr sy’n nodi sut y byddwn yn cynllunio a datblygu cynnig tai ar gyfer pobl hŷn. Bydd yn seiliedig ar ymgysylltu â phobl hŷn a chydnabod, er bod angen opsiynau tai newydd, bydd y mwyafrif o bobl hŷn yn awyddus i heneiddio yn eu cartref presennol ac y byddant yn gwneud hynny. Byddwn yn:

Creu lleoedd gwych i fyw

Cefnogi cydraddoldeb, buddsoddiad a chyfleoedd

Drwy ein hymrwymiad i Fframwaith Llesiant a Llunio Lleoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol byddwn yn annog, hybu a chefnogi buddsoddiad sy’n ‘creu lleoedd gwych i fyw ynddynt’. Rydym eisiau i leoedd gael eu hysbrydoli gan y bobl sy’n byw yno, hybu cymdeithasgarwch, mwy o ysgolion gwych a mynediad at ofal iechyd rhagorol. Dylai fod gan leoedd gysylltiadau da er mwyn i bobl allu cael mynediad at swyddi a hyfforddiant o ansawdd uchel, cynnig manwerthu a hamdden a thai o ansawdd da. Gwyddom nad yw pob man yn cael eu creu yn gyfartal a bod gennym leoliadau â phroblemau economaidd-gymdeithasol strwythurol hir dymor lle bydd buddsoddiad wedi’i dargedu yn ysgogi newidiadau sylweddol, yn aml y tu hwnt i’r buddsoddiad ei hun, a chreu cymorth i fusnesau lleol a chreu cyflogaeth leol.

Rydym wedi cyflwyno gweledigaeth a chyfle i fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy ddull cydgysylltiedig strategol a nodwyd yn ein ‘Strategaeth Adfywio -Sylfaen ar gyfer Llwyddiant . Yma, rydym yn cysylltu penderfyniadau buddsoddi gyda chanlyniadau wedi’u targedu a gwneud y gorau o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda’r buddsoddiad yn y Fargen Ddinesig, Tasgu’r Cymoedd a ffrydiau cyllido pellach.

Mae dull di-ildio ar gyfer mynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf dwfn y mae’r Fwrdeistref Sirol yn eu hwynebu, yn nodi gwelliannau i gysylltedd trafnidiaeth, cynyddu lefelau sgiliau pobl ymhellach, cefnogi pobl i ddod o hyd i waith a rhoi’r cymorth sydd ei angen ar fusnesau i arloesi a thyfu. Elfen allweddol yn y cynigion yw’r Metro, system drafnidiaeth newydd ar gyfer y rhanbarth a fydd yn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig cyflymach a mwy aml gan ddefnyddio trenau, bysiau a’r rheilffordd, gan gysylltu pobl, lleoedd a swyddi.

Rydym yn awyddus i alinio’r Strategaeth hon gyda’r blaenoriaethau yn y Strategaeth Adfywio, er mwyn cau’r bwlch rhwng Gogledd a De y Fwrdeistref Sirol. Bydd y cynnig tai yn ategu hyn; cynnig preswyl sy’n cefnogi Caerffili sy’n fwy ffyniannus, iach, gwydn a chyfartal.

Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau’r cynnig tai cywir yn nhermau math, maint, deiliadaeth a phris a hynny mewn cymdogaethau sy’n gynaliadwy yn nhermau poblogrwydd, troseddau, yr amgylchedd a mynediad at wasanaethau. Mae’r rhyng-ddibyniaeth sy’n bodoli rhwng y strategaethau adfywio a thai yn hollbwysig. Canlyniad allweddol i’r ddwy yw cynyddu lefelau incwm er mwyn gallu fforddio cartrefi gwell a gwasanaethau.

Mae cyflawni hyn yn golygu cynorthwyo trigolion presennol i gael swyddi â chyflogau gwell, annog gweithwyr proffesiynol/rheolwyr ifanc a’u teuluoedd i aros yn yr ardal a denu mwy o drigolion i symud i’r ardal. Mae hyn yn her arwyddocaol i ni a deallwn y bydd ond yn bosibl i ni ei chyflawni drwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill a byddwn yn gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol hefyd i sefydlu sut i greu’r effaith fwyaf wrth adfywio tai yn nhermau cartrefi newydd a chefnogi’r economi sylfaenol.

Anghydbwysedd ein marchnadoedd tai

Ar hyn o bryd mae amrywiadau mawr yn bodoli ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae’r dewis o dai sydd ar gael ym Mlaenau’r Cymoedd yn gyfyngedig iawn ac, mewn rhai pentrefi, mae hyd at 90% o’r tai yn dai teras sy’n dyddio cyn 1914 sydd o ansawdd is yn gyffredinol ac sy’n creu heriau wrth geisio cyflawni safonau ynni modern ac nid yw’n bosibl eu haddasu ar gyfer anghenion byw teuluoedd modern. Mae gan y mwyafrif o’r cartrefi 3 ystafell wely, gyda dewisiadau cyfyngedig o ystafelloedd llai a mwy. Er bod y prisiau yn fwy fforddiadwy ar y cyfan, gall hyn effeithio ar hyfywedd cynlluniau tai newydd ac felly mae llai o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, sy’n lleihau dewis ymhellach. Wedi dweud hynny, mae ein tystiolaeth yn awgrymu y bydd pobl yn symud yma ar gyfer y math cywir o eiddo ac rydym o’r farn y gallai’r pandemig Covid1-9 gynnig llwyfan ar gyfer galw yn y gogledd wrth i fwy o bobl ddewis byw mewn lleoliadau mwy gwledig a gweithio gartref.

Mae Coridor Cysylltiadau’r Gogledd wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad cyhoeddus a phreifat sylweddol, gan drawsnewid y rhan hon o’r Fwrdeistref Sirol a denu datblygiadau tai a swyddi newydd. Mae hyn wedi arwain at fwy o amrywiaeth yn y stoc tai yn nhermau’r math o gartrefi sydd ar gael ond mae angen nodi mwy o dir er mwyn adeiladu rhagor o dai. Mae diffyg cyflenwad o gartrefi newydd yn ogystal â phoblogrwydd yr ardal yn golygu bod prisiau wedi’u gwthio’n uwch ac nid yw llawer o bobl yn gallu fforddio i brynu neu rentu cartrefi. Mae’n bosibl y bydd y sefyllfa hon yn gwaethygu ymhellach oherwydd bod y Brif Dref, Ystrad Mynach, yn ganolfan gyflogaeth sylweddol ac mae wedi’i nodi, ochr yn ochr â Chaerffili, fel Hwb Strategol gan Dasglu Gweinidogol Cymoedd De Cymru, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol; ac mae hyn yn debygol o greu galw ychwanegol am gartrefi newydd.

Ym Masn Caerffili mae’r marchnadoedd gwerth uchaf yn y Fwrdeistref Sirol, gyda chysylltiadau cryf i farchnad dai Caerdydd. Mae Basn Caerffili wedi bod yn ganolbwynt datblygu tai ac mae amrywiaeth gwell o stoc tai yma bellach, o gymharu â lleoliadau eraill. Yn yr un modd â Choridorau Cysylltiadau’r Gogledd, mae’r galw a’r prisiau uwch wedi cael effaith negyddol ar fforddiadwyedd ond mae’r ardal yn fwy fforddiadwy na Chaerdydd ac mae’n denu trigolion na allant fforddio prisiau yn y brifddinas. Gallai ehangu’r dewis o gartrefi i’w rhentu a’u prynu ddenu aelwydydd pellach.

Mae ardal farchnad Islwyn Isaf wedi’i chynnwys yng Nghoridor Cysylltiadau’r De yn y strategaeth Cynllun Datblygu Lleol, ochr yn ochr â Basn Caerffili. Fodd bynnag, yn nhermau’r farchnad dai mae’r ddwy ardal yn farchnadoedd tai gwahanol, gydag Islwyn Isaf yn cysylltu’n dda â marchnad dai Casnewydd yn hytrach na Chaerdydd a gyda lefelau rhent preifat yn agos at goridorau’r gogledd na’r lefelau uchaf yng Nghaerffili.

Mae’r anghydbwysedd hwn yn ein marchnadoedd yn cyfyngu ar y dewis sydd ar gael i bobl osod gwreiddiau yng Nghaerffili. Mae’r amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf yn seiliedig ar 2018 yn dangos bod y Fwrdeistref Sirol yn colli grwpiau oedran iau ac mae cadw a denu’r aelwydydd hyn gyda chynnig economaidd a thai yn flaenoriaeth. Mae’r un data hefyd yn cadarnhau bod twf aelwydydd hŷn a chreu cynnig tai yn ddiweddarach mewn bywyd yr un mor bwysig.

Ail-gydbwyso ein marchnadoedd

Mae yna 5 uwchgynllun sy’n nodi’r fframwaith buddsoddi gofodol i gyflawni’r canlyniadau cadarnhaol yn y Strategaeth Adfywio. Mae’r rhain ym Masn Caerffili, Ystrad Mynach Blaenau’r Cymoedd, Coed Duon Uchaf a Choridor Trecelyn i Risga.

Bydd adfywio wedi’i arwain gan dai yn cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o gyflawni llawer o’r canlyniadau hyn.

Wrth i’r sylfaen dystiolaeth gael ei diweddaru, bydd blaenoriaethau tai yn cael eu datblygu sy’n darparu gofynion tai manwl yn y marchnadoedd hynny y gwyddom fod bylchau yn y cyflenwad drwy gyd-gynhyrchu er mwyn adlewyrchu uchelgeisiau pobl leol.

Byddwn yn datblygu canllawiau manwl ar gyfer buddsoddwyr yn ein marchnad a byddwn yn eu hybu drwy ein hwb datblygwyr sy’n nodi:

Addasu canol trefi at ddibenion eraill

Fel y rhan fwyaf o drefi yng Nghymru, mae’r trefi ar draws Caerffili yn profi newidiadau eithriadol yn arferion defnyddwyr. Mae’n rhaid i ganol trefi esblygu ac mae effeithiau’r pandemig Covid-19 yn debygol o ddwysáu’r esblygiad hwnnw. Mae darparu ar gyfer ‘byw-gweithio-chwarae’ ochr yn ochr â siopa wedi’i alluogi gan dechnoleg yn cynrychioli’r rôl amrywiol sydd ei hangen ar ganolfannau i oroesi. Bydd economïau dydd, min nos a nos yn gynigion mwy cyffredin wrth i bobl weithio mewn ffyrdd hyd yn oed yn fwy hyblyg a bydd ein hadferiad yn dilyn y pandemig Covid-19 yn blaenoriaethu ein dull canol trefi yn gyntaf.

Gwelwyd buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf yn Ystrad Mynach, Coed Duon, Rhisga, Caerffili a Bargod, fodd bynnag, mae angen buddsoddiad parhaus gan y sector preifat a chyhoeddus os bydd busnesau canol trefi am lwyddo a ffynnu. Mae cynlluniau Gweithredu Canol Tref yn cael eu cynhyrchu i gydlynu cyfleoedd datblygu mawr i amrywio’r cynnig presennol sydd ar gael mewn Canol Trefi a chadw mwy o’r gwariant yn yr economi leol.

Mae Caerffili wedi derbyn £700,000 o gyllid buddsoddiad adfywio wedi’i dargedu gan Lywodraeth Cymru a bydd yn buddsoddi mewn prosiectau canol trefi sy’n hybu adfywiad economaidd ac sy’n creu’r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu.

Un canlyniad pwysig fydd creu canol trefi sy’n lleoedd deniadol i fyw ynddynt. Yn ystod oes y Strategaeth hon byddwn yn cyflwyno mwy o gyfleoedd i fyw mewn canol trefi, uwchben siopau ac yn hybu datblygiadau defnydd cymysg ac yn ymchwilio i’r galw drwy’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Bydd cartrefi yng nghanol trefi yn helpu i fynd i’r afael â nifer o amcanion allweddol, gan gynnwys y prinder acíwt o gartrefi; amrywio’r cynnig tai, cynyddu’r gwariant manwerthu lleol ac ychwanegu bywyd gyda’r nos ac ar benwythnosau. Pan fydd angen ein cymorth ar fuddsoddwyr yn ein canol trefi i gynnal canolfannau ffyniannus, byddwn yn gweithio i gyflawni hyn.

Cefnogi lleoedd a dyluniad o ansawdd da

Bydd llunio lleoedd a datblygiad cynaliadwy yn ystyriaeth bwysig wrth ddewis safleoedd i’w cynnwys yn yr 2il Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Mae cefnogi lleoedd a dyluniad o ansawdd da yn creu lleoedd y mae pobl yn dymuno byw ynddynt ac felly byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu ‘Rhestr wirio i Gaerffili’ a byddwn yn ei defnyddio yn ein holl weithgarwch cynllunio a llunio lleoedd i wneud yn siŵr ein bod yn ystyried yr holl elfennau pwysig o sut i ddatblygu lleoedd o ansawdd da. Gallai rhestr wirio o’r fath gynnwys:

Cyflawni targedau di-garbon, hybu arloesedd a dyluniad rhagorol

Hefyd, mae ein gwasanaeth Priffyrdd wedi paratoi’r canllaw dylunio Priffyrdd sy’n nodi safonau ar gyfer dylunio ffyrdd mewn datblygiadau.

Creu cartrefi iach a chymdogaethau bywiog

Mae effaith cartref diogel a chynnes ar iechyd a lles yn rhyfeddol. Mae’n gwella canlyniadau iechyd cyffredinol ac yn galluogi pobl i gynnal annibyniaeth; dyma’r llwyfan i bobl allu adeiladu eu dyfodol.

Gall atal salwch corfforol a meddyliol a lleihau derbyniadau mewn ysbytai; gall ein cefnogi i wella’n fwy cyflym a galluogi pobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn amserol. Mae iechyd da yn ased y bydd y Cyngor yn ei gefnogi ac yn ei ddatblygu a bydd cartrefi a chymdogaethau o ansawdd uchel yn helpu i gyflawni hyn.

Yn anffodus, nid yw pawb yn cael yr un cyfleoedd i gael iechyd da. Mae’r rhai sy’n oedrannus neu’n ifanc, wedi’u hynysu, heb rwydwaith cymorth, ac oedolion ag anableddau yn fwy tebygol o gael eu heffeithio. Gall buddsoddi mewn tai, yn arbennig ar gyfer pobl agored i niwed, gefnogi iechyd gwell a lleihau costau gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym eisiau canolbwyntio ar gyfleoedd cydweithredol sy’n gallu helpu i greu cartrefi a chymdogaethau iach.

Ein hymrwymiad i gofalu am gaerffili

Drwy’r Cynllun Llesiant, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili yn ymrwymedig i wella llesiant pob un o’r trigolion sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydnabod bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau yn cael eu darparu pan fydd trigolion mewn angen; ar bwynt argyfwng. Mae angen i ni newid y sefyllfa hon i fod yn fwy ataliol ei natur, er mwyn nodi problemau a mynd i’r afael â hwy cyn y bydd angen ymyrraeth ar unigolion. Bydd ein hymrwymiad i Gofalu am Gaerffili yn gwneud hynny.

Mae model arfaethedig Gofalu am Gaerffili wedi’i gynllunio i greu hyder a chysylltu cymunedau, gwella gwydnwch, llesiant a lleihau anghydraddoldebau. Bydd yn helpu i dargedu adnoddau a chymorth, drwy atebion sy’n canolbwyntio ar bobl a chymunedau, hybu annibyniaeth a chynyddu rheolaeth pobl dros eu bywydau eu hunain. Mae’n golygu symud asedau o fewn cymunedau, er enghraifft sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn i unigolion sy’n rhannu profiadau bywyd tebyg allu cefnogi ei gilydd i greu newid cadarnhaol, parhaol.

Y weledigaeth tymor hwy yw i ystod llawer mwy o wasanaethau gydweithio ‘o dan ambarél’ Gofalu am Gaerffili er mwyn cefnogi ymyrraeth a gwaith atal cynnar a chyflawni anghenion pob un o’n trigolion a chefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed. Mae un pwynt cyswllt ar gyfer symleiddio’r ymatebion drwy borth cyffredinol (drws ffrynt i wasanaethau drwy dîm cydlynu ac ymateb canolog) a gwasanaeth brysbennu (gwasanaeth diagnostig) yn ategu’r cynnig.

Ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol, byddwn yn hyrwyddo, cyfranogi, cefnogi ac yn cyfeirio trigolion drwy ein cyswllt o ddydd i ddydd gan gwmpasu model Gofalu am Gaerffili i ‘fusnes fel arfer’. Byddwn yn nodi ein ‘rhaglen gysylltu’ gan nodi lle a sut y gallwn ymgysylltu â thrigolion a thenantiaid yn Gofalu am Gaerffili; gallai hyn ddigwydd pan fyddwn yn darparu cyngor a chymorth i denantiaid mewn dyled, pan fyddwn yn ymweld â thenant yn y sector rhentu preifat sydd wedi cwyno am ansawdd eu cartref neu pan fyddwn yn ymweld â pherchennog sydd angen addasiad i’w cartref. Byddwn yn gwneud i’n cysylltiad â thrigolion gyfrif.

Hybu iechyd da drwy gyngor a chymorth

Ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol, byddwn yn cydlynu ac yn integreiddio ein gwasanaethau atal presennol. Mae gwaith atal integredig yn canolbwyntio nid yn unig ar ffactorau ffordd o fyw (unigol) ond hefyd ar yr amgylchedd byw ffisegol a phroblemau cymdeithasol, er enghraifft dyled a straen. Byddwn ni a’n landlordiaid cymdeithasol partner yn parhau i ddarparu ein rhaglenni cymorth i denantiaid er mwyn creu perthnasoedd cryfach gyda chymunedau, er mwyn datblygu gwytnwch. Bydd ein ffocws ar adeiladu ar y gwaith cydweithredol a phartneriaeth er mwyn darparu gwaith rheoli a chynnal cymdogaethau gwych drwy’r pandemig Covid-19 er mwyn:

Gwella ansawdd yn y sector preifat

Mae mynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd a llesiant gwael drwy wella amodau tai yn y sector preifat yn un o amcanion y Cynllun Corfforaethol. Bydd gwella ansawdd tai yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill, ac iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol. Er enghraifft, mae yna dystiolaeth sylweddol sy’n dangos cysylltiad rhwng cartrefi oer a llaith â chlefydau anadlol ac asthma.

Gall hyn fod yn agenda heriol iawn, mae Tai’r Sector Preifat yn cynrychioli tua 80% o aelwydydd yng Nghaerffili ac adnoddau cyfyngedig sydd gan y Cyngor ond gall y canlyniadau fod yn arwyddocaol. Mae buddsoddi yn nhai'r sector preifat yn gallu gwneud cyfraniad pwysig i wella amodau tai, cynyddu annibyniaeth, atal digartrefedd, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, cynyddu’r cyflenwad tai, ehangu dewis a chreu cymdogaethau cynaliadwy.

Yn ystod y 2-3 blynedd nesaf, bydd ein hymyriadau Tai’r Sector Preifat yn cynyddu, wedi’i gefnogi gan waith rhyngadrannol ac ethos buddsoddi i arbed. Byddwn yn sefydlu gweithgor arbenigeddau amrywiol, a fydd yn cynnwys gwasanaethau oedolion a phlant, iechyd, diogelwch cymunedol gyda thasgau penodol o greu cyfleoedd tai buddsoddi i arbed drwy ariannu mentrau peilot ar y cyd a fydd yn mynd i’r afael ag amodau tai ac arferion gwael landlordiaid er mwyn cefnogi canlyniadau gwell i bobl.

Bydd y gwaith yn adeiladu ar ein buddsoddiad presennol sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw yn y sector preifat i dalu am welliannau ac addasiadau i’w cartrefi. Rydym yn cynnig ystod o fenthyciadau a grantiau di-log er mwyn gwneud cartrefi yn ddiogel a chynnes. Byddwn yn parhau ein partneriaeth â Gofal ac Atgyweirio, a fydd yn galluogi aelwydydd i dderbyn cymorth ychwanegol drwy ystod o fentrau, gan gynnwys y Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym a’r Grant Byw’n Annibynnol.

Cefnogi effeithlonrwydd ynni a chynhesrwydd fforddiadwy

Yn gynharach yn ein Strategaeth Tai Lleol fe wnaethom nodi ein hymrwymiad i fod yn garbon niwtral net erbyn 2030 ac mae’r Strategaeth Datgarboneiddio ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn nodi ein blaenoriaethau a’n cynlluniau. Mae hyn yn cyflwyno goblygiadau arwyddocaol ar gyfer y cartrefi presennol yng Nghaerffili.

Yr her yw i’r Cyngor sicrhau bod y cartrefi presennol yn gallu cyflawni uchelgeisiau’r strategaeth datgarboneiddio. Er ei bod yn bosibl adeiladu cartref newydd sy’n garbon niwtral neu’n sero carbon (pan fydd y tŷ yn cynhyrchu cymaint (neu fwy) o ynni nac y mae’n ei ddefnyddio), mae’n llawer mwy anodd a drud i wneud hyn i gartrefi presennol. Datgarboneiddio yw’r peth cywir i’w wneud. Mae gwaith ail-osod carbon isel a di-garbon yn canolbwyntio ar ailfodelu cartrefi hŷn i gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle er mwyn mynd i’r afael â niwtraliaeth garbon. Yn ogystal â’r manteision o ran newid yn yr hinsawdd, mae’r buddsoddiad hwn yn helpu pobl i wresogi cartrefi yn rhatach, gan ddiddymu tlodi tanwydd ac mae’n helpu i gefnogi ein hiechyd corfforol - anadlol, rhiwmatig - ac iechyd meddwl - gorbryder ac iselder yn uniongyrchol. Mae’n hybu iechyd a llesiant.

Rydym yn sicrhau’r swm uchaf o gyllid sydd ar gael gan lywodraeth ganolog a chyflenwyr ynni i gynnal mesurau arbed ynni yn y sector preifat a chyhoeddus. Byddwn yn darparu cyngor i bobl ynglŷn â mesurau arbed ynni a helpu pobl i helpu eu hunain. Bydd hyn yn gweithio drwy’r cynnig gwasanaeth cyhoeddus Siop Un Cam a fydd yn darparu cyngor yn y cymunedau ac a fydd yn cyfeirio trigolion at asiantaethau grantiau priodol er mwyn cynyddu’r defnydd ohonynt. Er enghraifft, rydym yn hybu ECO, menter effeithlonrwydd ynni sy’n cael ei harwain gan y llywodraeth i helpu i leihau carbon a mynd i’r afael â thlodi tanwydd i’r trigolion mwyaf agored i niwed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

O ran y cartrefi y mae’r Cyngor yn berchen arnynt, rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwelliannau ffabrig yn gyntaf ac ystyried dull ôl-osod tai cyfan pan fydd yn bosibl er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a sicrhau arbedion costau i denantiaid. Gan adeiladu ar y £261 miliwn a wariwyd i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, rydym yn rhagweld y bydd £139 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yng nghartrefi’r Cyngor, yn ystod y pum mlynedd nesaf, er mwyn cynnal y stoc tai, ymgorffori’r agenda datgarboneiddio a sicrhau’r incwm grant uchaf.

Gyda landlordiaid cymdeithasol byddwn yn cefnogi tenantiaid i wella effeithlonrwydd ariannol gwresogi eu cartrefi, a chynnig cyngor gyda’r bwriad o leihau gwariant aelwydydd.

Mynegai cartrefi ac iechyd cymdogaethau caerffili

Mae dyluniad cartref a chymuned yn gyfranogwr allweddol i iechyd a lles y bobl sy’n byw ynddynt. Mae hyn yn cynnwys ffactorau fel golau dydd, tymheredd, ansawdd aer, cynllun mewnol ac ystod eang o ffactorau cymdogaeth fel yr amgylchedd naturiol, amwynderau a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae ein gofyniad i adeiladu cartrefi newydd yn darparu her a chyfle i sicrhau ein bod yn sicrhau’r iechyd a’r lles gorau, yn ogystal ag ymateb i’r angen am dai. Credwn ei bod yn bosibl cyflawni’r ansawdd a’r nifer.

Pan fydd y Cyngor yn adeiladu, byddwn yn ystyried sut y bydd cartrefi newydd yn cefnogi iechyd da yn ogystal â chreu lleoedd gwych a byddwn yn annog datblygwyr a landlordiaid cymdeithasol i wneud yr un peth. Bydd hyn yn ystyried:

Ac i gymdogaethau presennol, rydym yn bwriadu cyflwyno mynegai cynaliadwyedd cymdogaethau iach sy’n cefnogi agenda gwytnwch Gofalu am Gaerffili. Bydd hyn yn rhestr wirio er mwyn gallu mesur cymdogaethau ac ystyried cynlluniau gwella. Byddant yn ystyried cerddedadwyedd, mynediad at fannau gwyrdd ac amwynderau, mynediad at siopau iach ac yn y blaen. Byddwn yn gweithio gyda’n landlordiaid cymdeithasol partner drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i ddatblygu a gweithredu hyn.

Ein hagwedd at ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cael effaith andwyol iawn ar fywydau pobl, yn achosi iddynt deimlo’n ddiymadferth, anobeithiol ac mae’n cael effaith aruthrol ar eu hiechyd a’u lles. Deallwn yr heriau hyn ac er mwyn adlewyrchu’r nifer o achosion sy’n cael eu hadrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u natur gymhleth yn genedlaethol ac yng Nghaerffili, rydym wedi cynyddu ein hadnoddau i ddelio â hyn.

Rydym yn ymrwymedig i weithio gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill i gytuno ar fesurau effeithiol i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau: cefnogi trigolion agored i niwed, i weithredu’n gadarn a phrydlon pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd a, phan fydd yn bosibl, adsefydlu’r drwgweithredwyr yn ôl yn ein cymunedau.

Darparu cartrefi newydd

Mae angen i ni ddarparu mwy o gartrefi i bobl yng Nghaerffili er mwyn i drigolion Caerffili a newydd-ddyfodiaid allu dod o hyd i gartref addas a dymunol, y gallant ei fforddio. Bydd cartrefi newydd yn cael eu darparu ledled cymunedau, gan ddod â chynnig tai gwell i bawb.

Gall hyn fod yn anodd oherwydd mae yna heriau yn ein marchnad dai, gan gynnwys ansawdd daear gwael, ardaloedd â gwerthoedd gwerthu isel a ffactorau naturiol fel topograffi a’r perygl o lifogydd sy’n golygu bod rhai safleoedd yn fwy anodd eu datblygu nac eraill. Mae angen i ni ailddiffinio ein ffordd o feddwl er mwyn i ni ganfod atebion, datblygu modelau newydd a mynd i’r afael â’r heriau hyn. Mae angen i ni fod yn fwy hyblyg wrth ddehongli ein polisïau, dangos cysondeb ar draws ein hadrannau a hybu diwylliant o blaid datblygu sy’n dangos bod Caerffili ‘ar agor am fusnes’.

Datblygu ail gynllun datblygu lleol newydd

Y seilwaith polisi ategol a fydd yn galluogi mwy o ddatblygiadau yw’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac, erbyn diwedd 2024, byddwn wedi datblygu 2il Gynllun Datblygu Lleol Newydd . Bydd hyn yn cyflwyno’r blaenoriaethau ar gyfer tai yn gynhwysfawr ar draws Caerffili, yn nhermau niferoedd a blaenoriaethau gofodol. Bydd amseriad cyflwyno’r CDLl newydd yn cyd-fynd â’r gwaith o ddatblygu’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol , y fframwaith 20 mlynedd ar ddefnydd tir a bydd angen i’r 2il Gynllun Datblygu Lleol alinio ac ymateb i hyn.

Byddwn yn defnyddio’r broses o ddatblygu’r 2il CDLl Newydd fel cyfle i weithio ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr i nodi lleoliadau newydd ar gyfer tai, modelau cyflenwi a chyfleoedd ariannu. Pan fyddwn yn diweddaru ein Hasesiad o’r Farchnad Dai Leol, bydd yn cynnwys gwybodaeth am amgylchiadau tai a dyheadau pobl leol, a fydd yn helpu i hysbysu blaenoriaethau yn y dyfodol.

Fel rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd Cynllun Datblygu Strategol yn cael ei baratoi sy’n uno’r gwaith cynllunio strategol ar gyfer y rhanbarth er mwyn darparu dull galluogi ar gyfer twf economaidd. Bydd Cynllun Datblygu Strategol statudol yn darparu sicrwydd i ddatblygwyr, buddsoddwyr a chymunedau bod penderfyniadau strategol allweddol ar dai, trafnidiaeth, cyflogaeth a seilwaith yn cael eu cymryd ar lefel ranbarthol, a chaniatáu'r un pryd i benderfyniadau allweddol ar gynigion cynllunio gael eu cymryd yn lleol.

Yn y cyfnod hyd at fabwysiadu’r 2il Gynllun Datblygu Lleol Newydd, bydd y Cyngor yn parhau i fynd i’r afael â’r diffyg yn y ddarpariaeth dai drwy gamau gweithredu rhagweithiol, gan gynnwys:

Hyrwyddo ein bod ar agor am fusnes

Mae’r Cyngor wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Tai sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant datblygu a landlordiaid cymdeithasol. Cafodd y grŵp ei sefydlu i sicrhau bod ffigurau cwblhau tai yn cael eu cofnodi’n gywir ac ystyried amseriad a chyflwyno safleoedd Cynllun Datblygu Lleol a safleoedd â chaniatâd cynllunio. Bydd y Grŵp hefyd yn ymwneud â pharatoi Trywydd Tai fel rhan hanfodol o’r 2il Gynllun Datblygu Lleol Newydd. Byddwn yn defnyddio’r grŵp i’n helpu i ddatblygu adnodd ar-lein i ddatblygwyr a landlordiaid cymdeithasol er mwyn sicrhau dealltwriaeth well o’r broses datblygu tai a ffordd fwy hwylus o ymdrin â’r broses. Bydd yn cynnwys y dystiolaeth o angen, polisïau cynllunio, dulliau cyflenwi, cyllid, cyfleoedd tir a chysylltiadau allweddol yn y Cyngor.

Nodi a chyflwyno safleoedd newydd

Rydym yn ymrwymedig i nodi a chyflwyno safleoedd yn fwy rhagweithiol ar gyfer darparu tai. Byddwn yn cefnogi datblygiad cynaliadwy, gan barhau ag agwedd tir llwyd yn gyntaf. Ein blaenoriaeth fydd nodi safleoedd newydd lle mae pobl leol eisiau byw a byddwn yn profi sut y gallai’r pandemig Covid-19 ddylanwadu ar y safleoedd lle maent eisiau gweld tai newydd yn cael eu hadeilad. Bydd y safleoedd hyn yn cael eu cynnwys yn yr 2il Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Byddwn yn cynnal adolygiad o’r holl dir ac ystâd y mae’r Cyngor yn berchen arnynt neu’n eu rheoli, fel rhan o adolygiad corfforaethol Strategaeth #Tîm Caerffili. Bydd hyn yn lleihau yn sylweddol y nifer o asedau i’r cyhoedd y mae’n berchen arnynt a thrwy gyd-leoli gwasanaethau gyda chyrff cyhoeddus eraill, gallwn ailddefnyddio’r asedau hynny ar gyfer tai.

Byddwn yn gweithio gyda thirfeddianwyr i nodi tir posibl; ond bydd hyn yn fwy creadigol na dim ond galw am safleoedd. Byddwn yn creu safleoedd, drwy brynu a dymchwel, defnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol pan fydd perchnogaeth tir yn llesteirio twf. Byddwn yn defnyddio’r Gronfa Caffael Safleoedd Strategol ac yn ailgynllunio’r defnydd tir o gyflogaeth i dai yng nghanol trefi; drwy fuddsoddiad uniongyrchol y Cyngor, gallwn ysgogi gwerth drwy gyfleoedd datblygu.

Darparu mwy o dai fforddiadwy

Bydd darparu cartrefi modern, o ansawdd da ac sy’n wirioneddol fforddiadwy, i’w rhentu a’u gwerthu, ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan, yn gwella ansawdd bywyd ac yn creu cymunedau cryfach a mwy cydlynol. Mae’r rhwystrau at ddarparu tai fforddiadwy yn adlewyrchu’r rhai ar gyfer darparu tai ar y farchnad a byddwn yn ystyried pob cyfle i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, defnyddio’r holl gyllid sydd ar gael ac archwilio dulliau gweithredu gwahanol gan gynnwys defnyddio derbyniadau cyfalaf o werthiannau tir i dalu am safleoedd mwy anodd ac sydd â gwerth is.

Mae argymhellion ‘Adroddiad yr Adolygiad Annibynnol o Dai Fforddiadwy’ yn llywio ein dull gweithredu, adroddiad a oedd yn darparu cyfleoedd newydd i gynyddu’r cyflenwad ac ansawdd tai fforddiadwy a galluogi awdurdodau lleol i adeiladu. Mae ein landlordiaid cymdeithasol partner yn cyflwyno cyfleoedd newydd i ddarparu tai fforddiadwy; mae eu huchelgeisiau ar gyfer twf wedi’u nodi yn eu strategaethau datblygu ac mae angen i ni weithio’n agosach i’w cynorthwyo i gyflawni eu huchelgeisiau. Byddwn yn ceisio sicrhau’r lefel uchel o gyllid ar gyfer tai fforddiadwy ac yn ceisio mwy o sicrwydd o ran cyllid yn y tymor hwy, er mwyn gallu blaengynllunio yn well.

Bydd yr Asesiad newydd o’r Farchnad Dai Leol yn nodi’r angen, y galw a’r uchelgeisiau a byddwn yn datblygu prosbectws diwygiedig ar gyfer tai fforddiadwy sy’n seiliedig ar hyn, gyda landlordiaid cymdeithasol, i gefnogi’r trafodaethau cyflenwi a chynllunio. Bydd yn nodi tystiolaeth ar gyfer gofynion rhent a gwerthu fforddiadwy a sefydlu beth sy’n ‘wirioneddol fforddiadwy’ i bobl leol. Gwyddom fod yna rai lleoliadau lle mae swm sylweddol o dai fforddiadwy eisoes ar gael, er enghraifft Blaenau Cwm Rhymni a lleoliadau eraill lle byddem eisiau gweld mwy o ddarpariaeth, er enghraifft ardal Coridor Cysylltiadau’r Gogledd ac yn ardal Basn Caerffili. Bydd y sylfaen dystiolaeth wedi’i diweddaru yn adolygu’r gofynion tai fforddiadwy, yn seiliedig ar hyfywedd a’r ddarpariaeth bresennol er mwyn helpu i gyflawni hyn.

Mae gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghaerffili brofiad blaenorol rhagorol o ddarparu tai fforddiadwy i’w rhentu a’u gwerthu. Wrth symud yr agenda hwn ymlaen, rydym yn awyddus i atgyfnerthu ein cynnig i landlordiaid cymdeithasol i ganfod atebion er mwyn gallu darparu hyd yn oed mwy o dai fforddiadwy. Mae’r Cyngor wedi datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Linc Cymru, Grŵp Pobl a Chymdeithasau Tai United Welsh a Wales & West sy’n sicrhau trefniadau partneriaeth agosach ac sy’n cyflwyno ein hymrwymiad cyffredinol i weithio ar y cyd. Rydym yn ystyried hyn fel dull o ‘ail-gadarnhau ein perthynas’ gyda landlordiaid cymdeithasol, a fydd yn mynd y tu hwnt i ddarparu cartrefi newydd ac a fydd yn darparu buddiannau ehangach i denantiaid cymdeithasol o ran y ffordd mae cartrefi’n cael eu rheoli ac ansawdd y gwasanaeth a gynigir.

Mae Cartrefi Caerffili yn cyflwyno rhaglen uchelgeisiol newydd y Cyngor i adeiladu tai, a fydd yn cynyddu’r nifer o gartrefi yr ydym yn berchen arnynt. Rydym yn datblygu strategaeth datblygu pum mlynedd sy’n nodi ein cynlluniau i adeiladu a chaffael cenhedlaeth newydd o gartrefi sy’n diwallu’r angen lleol cynyddol am dai cymdeithasol newydd a fforddiadwy. Mae rhaglen ddatblygu Cydadeiladu Cartrefi Caerffili yn ymrwymo i ddarparu 400 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod oes y strategaeth hon. Rydym yn mabwysiadu ystod o fodelau a fydd yn darparu’n uniongyrchol ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, caffael safleoedd o’r farchnad agored, caffael cartrefi drwy ddatblygiadau adran 106, prynu cartrefi ar y farchnad bresennol a phrynu cartrefi gwag. Rydym hefyd eisiau cydweithredu â'n partneriaid cymdeithasau tai i nodi cyfleoedd a rennir ar gyfer datblygu cartrefi newydd.

Y cyngor fel buddsoddwr a phartner darparu tai

Rydym o ddifrif ynglŷn â chynyddu’r twf tai. Yn ystod oes ein Strategaeth Tai Lleol, byddwn yn profi offer newydd mewn partneriaeth â datblygwyr a landlordiaid cymdeithasol a fydd yn cyflymu’r ddarpariaeth o’r math o dai sydd ei angen ar Fwrdeistref Sirol Caerffili.

Un newid arwyddocaol fydd ein rôl fel buddsoddwr yn y farchnad dai. Rydym eisoes yn ymrwymedig i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd a byddwn yn datblygu modelau lle byddwn yn buddsoddi mewn tai ar y farchnad. Rydym yn treialu model prydles ar hyn o bryd fel dull amgen o ddarparu tai, a fydd yn galluogi’r Cyngor a’r datblygwr i gyflwyno safleoedd heriol a rhannu risg ac elw. Drwy weithio drwy ddull derbyniad cyfalaf gohiriedig, mae’r model yn darparu cartrefi fforddiadwy adran 106 yn unol â gofynion polisi a bydd modelau eraill gyda chanlyniadau tebyg yn cael eu hystyried.

Mae’r Cyngor wedi llwyddo i gael gafael ar gyllid i ddatgloi safleoedd strategol. Mae hyn yn aml yn canolbwyntio ar safleoedd mwy ac mae’r cyngor yn awyddus i archwilio sut y gallai ddefnyddio cyllid amgen, er enghraifft symiau gohiriedig i sicrhau ei amcanion ehangach o ddarparu mwy o dai fforddiadwy, helpu pobl i gael mynediad at berchnogaeth tai fforddiadwy a chefnogi pobl i gael mynediad at dai arbenigol a thai â chymorth. Yn ystod oes y strategaeth hon bydd y Cyngor yn cynnal gwerthusiad opsiynau i weld sut y gallai ddefnyddio ffynonellau cyllid gwahanol y cyngor i fuddsoddi mewn tai a sicrhau elw a fydd yn cefnogi ailfuddsoddiad, gan greu cronfa gylchol dros amser.

Modelau darparu newydd

Mae tai wedi’u harwain gan y gymuned yn cael ei gefnogi’n fawr yn y Fwrdeistref Sirol a gall gynnig amrediad eang o fuddiannau yn nhermau fforddiadwyedd, ansawdd a dwyster, ymgysylltiad cymunedol a chyfleoedd hyfforddiant. Rydym yn cydnabod buddion y sector adeiladu pwrpasol a hunan-adeiladu wrth amrywio'r stoc dai a byddwn yn nodi rhestr o safleoedd bach a fyddai'n addas i'w defnyddio, a fydd yn helpu i hwyluso pobl leol i adeiladu eu cartrefi eu hunain yn eu cymunedau.

Ailddefnyddio cartrefi gwag

Byddwn yn ailgyflwyno cartrefi gwag i’w defnyddio er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai ac ehangu’r dewis sydd ar gael, gwella cyflwr tai a bodloni’r angen am dai. Rydym yn treialu tîm cartrefi gwag penodol, wedi’u hategu gan Strategaeth Cartrefi Gwag newydd, a fydd yn canolbwyntio ar offer newydd i ddechrau ailddefnyddio cartrefi gwag. Mae gennym fwy na £2 filiwn o fenthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion i ddechrau ailddefnyddio cartrefi gwag. Byddwn yn ystyried ystod o fodelau amgen, er enghraifft prydlesu ac atgyweirio, atgyfeirio a modelau gwerthu a datblygir presenoldeb ar y we i ddarparu cyngor a chymorth i berchnogion a landlordiaid.

Mae’r Cyngor wedi dechrau ar raglen i nodi eiddo yr arferai’r Cyngor fod yn berchen arnynt, a werthwyd o dan y broses hawl i brynu a’u caffael gan ddefnyddio grant gan y llywodraeth, i ddechrau eu defnyddio fel tai cymdeithasol unwaith eto, a helpu’r Cyngor i gyflawni’r angen am dai.

Creu swyddi a chyfleoedd economaidd newydd

Mae gennym brofiad blaenorol llwyddiannus o ddarparu hyfforddiant a chyflogaeth drwy’r sector adeiladu a bydd y Strategaeth hon yn manteisio ar y cyfleoedd hynny. Rydym yn awyddus i gefnogi busnesau lleol, creu swyddi lleol a sicrhau ein bod yn gallu gwneud y defnydd gorau o’n ‘punt Caerffili’.

Bydd partneriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hyrwyddo’r agenda hon ymhellach. Bydd yn ymgysylltu â darparwyr tai fforddiadwy yn y rhanbarth, fel un rhwydwaith, a fydd yn datblygu strategaeth ranbarthol “Tai a Mwy” lle bydd buddiannau gwerth ychwanegol, er enghraifft hyfforddiant, adeiladu, prentisiaethau, gwytnwch ynni a chreu swyddi yn cael eu nodi’n glir a’u mabwysiadu.

Cefnogi anghenion tai arbenigol

Canlyniad ein Strategaeth Tai Lleol yw darparu cynnig tai gwell yng Nghaerffili ond ein pobl yw’r flaenoriaeth. P’un a ydym yn adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd, creu opsiynau i Brynwyr am y Tro Cyntaf neu ddatblygu llety symud ymlaen i bobl sy’n gadael gofal, rydym bob amser yn awyddus i ddarparu atebion sy’n canolbwyntio ar bobl, sy’n gwella bywydau pobl, datblygu dulliau arloesol a gwireddu ein gwerthoedd o ‘wneud pethau’n wahanol’.

Mae’r pandemig Covid-19 wedi profi i fod yn aflonyddwch cymdeithasol digynsail yn y cyfnod modern. Mae’r ymateb iechyd cyhoeddus wedi ymgorffori mesurau penodol i ddiogelu’r boblogaeth yn ffisegol rhag y feirws, yn ogystal â ffocws cynyddol ar gefnogi a diogelu iechyd meddwl y boblogaeth; mae’n amlwg bod effaith y pandemig a’r ymateb dilynol wedi’i brofi yn wahanol iawn gan wahanol grwpiau mewn cymdeithas ac mae wedi dwysáu anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes. Bydd ein Strategaeth yn ymateb wrth i effaith tymor hwy Covid-19 ddod yn gliriach ond gwyddom ei fod wedi arwain at nifer cynyddol o bobl sy'n cysgu allan a phobl sydd angen llety dros dro; mae hyn wedi cynyddu'r pwysau i ddod o hyd i lety addas yn sylweddol.

Mae gan Gaerffili unedau llety â chymorth o ansawdd uchel a thrwy’r Strategaeth hon byddwn yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn gallu cefnogi’r rhai ag anghenion mwy cymhleth, a darparu’r cymorth a’r llwybrau llety cywir. Ein blaenoriaeth yw hybu cymunedau a thenantiaethau cynaliadwy a’n prif ffocws yw sicrhau bod gennym y gwasanaeth cywir i gefnogi pobl er mwyn galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi neu pan na fydd hynny’n bosibl, mewn llety â chymorth sy’n ‘gynhwysol i bawb’ ac sy’n cyflawni eu hanghenion cymorth sylfaenol; a phan fydd pobl yn barod i symud ymlaen, byddant yn cael eu cefnogi i gyflawni hynny’n llwyddiannus.

Wrth ddatblygu atebion, rydym eisiau:

Gwyddom y rôl wych y mae llawer o ofalwyr teuluol yn ei chyflawni ac rydym yn bwriadu cynyddu argaeledd gofal seibiant i ofalwyr teuluol drwy gynnig mwy o leoliadau cymorth dydd drwy ddatblygu cyfleuster Canolfan Seibiant newydd bwrpasol ym Mhontllan-fraith fydd yn gallu darparu gwasanaethau seibiant o un lleoliad ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan.

Datblygu prosbectws llety arbenigol

Cynhelir asesiad o anghenion llawn er mwyn datblygu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer unigolion sydd angen llety arbenigol.

Bydd y sylfaen dystiolaeth yn cynnwys rhanddeiliaid a fydd yn cynnwys darparwyr gwasanaeth, defnyddwyr gwasanaeth a swyddogion er mwyn gallu pennu’r uchelgais a’r weledigaeth ar gyfer llety, modelau cymorth a deiliadaethau a lleoliad. Yna caiff hyn ei ffurfioli mewn prosbectws llety arbenigol sy’n canolbwyntio ar:

Defnyddir y prosbectws i ymgysylltu â’r farchnad a chomisiynu llety newydd.

Adolygiad llety

Bydd y sylfaen dystiolaeth o angen yn ein galluogi i gynnal adolygiad asesiad o lety ar sail model ‘buddsoddi i arbed’ er mwyn diffinio’r defnydd mwyaf priodol o’r llety sydd gennym yn awr. Gallai’r opsiynau gynnwys ailfodelu a datgomisiynu ac mae’n bosibl y bydd cynlluniau newydd yn cael eu comisiynu.

Bydd Grŵp Opsiynau Llety yn cael ei sefydlu i greu llwybrau unigol i bobl sydd angen llety arbenigol. Er enghraifft, bydd yn gweithio ochr yn ochr â phlant sy’n derbyn gofal o oedran iau, i gynllunio a chomisiynu llety. Drwy atgyfeirio yn gynharach yn y broses, gellir canfod eiddo ar gyfer unigolion neu gellir eu darparu drwy’r system gynllunio. Gellir gwneud hyn hefyd drwy Caerphilly Keys, gyda chymorth tenantiaeth priodol.

Datblygu strategaeth ddarparu tymor hwy

Byddwn yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol a darparwyr y farchnad i atgyfnerthu ein tystiolaeth am y math o lety arbenigol sydd ei angen yng Nghaerffili a nodi’r modelau cyllido a darparu ar gyfer llety symud ymlaen a datblygu cynlluniau tai â chymorth gwell gan gynnwys:

Cefnogi pobl sy’n ddigartref ac sy’n cysgu allan

Mae’r pandemig Covid-19 wedi dangos yn glir yr angen dybryd i wyrdroi’r cyfraddau cynyddol o ddigartrefedd a chysgu allan. Mae atal digartrefedd a mynd i’r afael â chysgu allan yn uno adnoddau’r Cyngor, landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid cymorth i ddarparu agwedd ‘Tai yn Gyntaf’ a fydd yn sicrhau llety hunangynhwysol parhaol gyda chymorth cymunedol dwys, hyblyg yn cael ei gynnig yn seiliedig ar anghenion y person.

Yn ystod Pandemig Covid, gwnaethom gefnogi bron i 1,000 o bobl i lety dros dro brys ac mae mwy yn parhau i gael eu cefnogi bob dydd. Mae llawer o bobl nad oeddent wedi gallu ymgysylltu â gwasanaethau o'r blaen bellach yn elwa o gefnogaeth a chyngor gan gynnwys cymorth iechyd meddwl a thriniaeth defnyddio sylweddau, gan osod y seiliau ar gyfer llwybr parhaol allan o ddigartrefedd. Rhaid i ni yn awr droi at gynllunio ar gyfer y dyfodol a helpu pobl i mewn i dai mwy parhaol.

Ein ffocws fydd symud i ffwrdd o ddibynnu ar lety dros dro anaddas a thuag at ddull ailgartrefu cyflym, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae Ailgartrefu Cyflym yn symud pobl i gartrefi sefydlog, diogel ac addas cyn gynted â phosibl fel yr ateb diofyn mewn sefyllfa lle nad oes modd atal digartrefedd.

Mae'n galw am dargedu rhai grwpiau y profwyd eu bod mewn mwy o risg o ddigartrefedd, megis pobl ifanc agored i niwed a phobl sy'n gadael gofal neu garchar. Mae hefyd am i'r ddyletswydd gyfreithiol i atal digartrefedd gael ei hymestyn ar draws y sector cyhoeddus ehangach, nid gwasanaethau tai yn unig. Bydd y ffocws cychwynnol ar ddatblygu protocol symud ymlaen ar gyfer ail-gartrefu'r rhai mewn llety brys/dros dro i mewn i lety parhaol mwy addas. Byddwn yn datblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym yn nodi sut y bydd ein gwasanaeth yn symud tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym. Byddwn yn:

Nodi’r adnoddau y bydd eu hangen arnom

Ein blaenoriaethau yw:

Gwella darparu gwasanaethau

Rydym yn bwriadu adolygu’r ffordd yr ydym yn cynnal asesiadau cychwynnol o’n cyfrifoldebau ar gyfer aelwydydd digartref er mwyn i ni allu ymateb yn fwy effeithiol. Rydym yn bwriadu adolygu sut yr ydym yn gwneud asesiadau a phenderfyniadau ar gam cynharach o ran beth yw dyletswydd y Cyngor a fydd yn ein galluogi i asesu gofynion pobl yn gyflymach a galluogi’r Cyngor i ganolbwyntio mwy ar gymorth ataliol drwy gyfeirio pobl at gyngor a chymorth pan fydd ei angen a chanolbwyntio ein hadnoddau ar y bobl hynny y mae angen cynnig llety iddynt.

Mynd i’r afael â chysgu allan a syrffio soffas

Mae cysgu allan yn broblem yr ydym eisiau mynd i’r afael â hi. Nodwyd 6 o bobl a oedd yn cysgu allan yn ystod y cyfrif olaf, ond mae’n debygol bod y niferoedd gwirioneddol yn uwch oherwydd ein natur wledig. Mae yna nifer o gleientiaid ag anghenion dwys iawn, ac maent yn aml yn cysgu allan am nad yw’r systemau a’r gwasanaethau presennol wedi cyflawni eu hanghenion. Drwy gynyddu ein tystiolaeth ar beth sy’n cyfrannu at achos sylfaenol Cysgu Allan byddwn yn datblygu ac yn darparu atebion hyfyw sy’n darparu cymorth a llety.

Er bod cysgu allan yn faes blaenoriaeth i’r Cyngor, mae syrffio soffas yn flaenoriaeth hefyd. Mae angen gwybodaeth well i ddeall graddau’r syrffio soffas sy’n digwydd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Byddwn yn archwilio’r raddfa a’r opsiynau posibl i gefnogi a lleihau syrffio soffas, yn ogystal â’r galw am Ddarpariaeth Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai a nodi unrhyw fylchau yn y cyflenwad. Mae’n bosibl y byddwn yn cymryd camau i gynnal dadansoddiad mwy manwl o angen yn y dyfodol er mwyn deall y galw a’r angen am gymorth sy’n gysylltiedig â thai.

Cynyddu’r ddarpariaeth o lety

Byddwn yn archwilio ac yn cynyddu’r cyfleoedd y gall y Sector Rhentu Preifat eu cynnig i ddarparu atebion i bobl ag angen tai. Rydym yn bwriadu ymgynghori â landlordiaid i ddeall beth yw’r heriau a’r rhwystrau iddynt hwy wrth ddarparu llety i aelwydydd sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a byddwn yn datblygu opsiynau sy’n cymell landlordiaid i weithio gyda’r Cyngor er mwyn i ni allu arfer ein dyletswydd yn effeithiol i’r sector Rhentu Preifat. Gallai hyn gynnwys yr awdurdod lleol yn gweithredu fel gwarantwr ar gyfer tenantiaethau, datblygu cynnig mwy deniadol i landlordiaid, er enghraifft taliadau rhent ymlaen llaw a chymorth os bydd cartrefi yn cael eu gwella ac yna’n cael eu cynnig am rent drwy Cartrefi Caerffili.

Rôl arwyddocaol i ni yw ehangu maint Caerphilly Keys, prosiect sy’n cael ei arwain gan ein Tîm Datrysiadau Tai sy’n helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid hirdymor ar gyfer eu heiddo, ac atal digartrefedd yr un pryd. Mae’r gwasanaeth am ddim i landlordiaid.

Drwy ein landlordiaid cymdeithasol a Cartrefi Caerffili, bydd y Cyngor yn sicrhau unedau ychwanegol yn y sector rhentu preifat, gan greu rhwydwaith o dai gwasgaredig sy’n caniatáu mwy o annibyniaeth a darparu datrysiadau tai parhaol i bobl.

Yr angen am safleoedd ar gyfer sipsiwn, roma a theithwyr

Nodwyd angen am safle parhaol yn yr Asesiad diwethaf o Lety Sipsiwn, Roma a Theithwyr – mae’r boblogaeth y gwyddom amdani yn y Fwrdeistref Sirol yn isel ac mae’r angen wedi bod ar sail dros dro yn y gorffennol, pan fydd grwpiau yn teithio drwy Gaerffili. Bydd y Cyngor yn parhau i adolygu’r penderfyniad hwn yn agos ac yn ategu’r sylfaen dystiolaeth bresennol er mwyn cynnal arolygon o anghenion llety ar bob gwersyll diawdurdod a sefydlir. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor wrthi'n cynnal Asesiad newydd, a fydd yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2022.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn parhau i gynnwys polisi ar sail meini prawf ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw geisiadau am safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr.