FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cofrestru anifeiliaid perfformio

Os ydych yn arddangos neu’n hyfforddi anifeiliaid i’w harddangos mewn unrhyw adloniant mae’r cyhoedd yn bresennol ynddo (boed am dâl ai peidio) rhaid ichi fod wedi’ch cofrestru gyda’r awdurdod lleol yr ydych yn byw yn ei ardal. Gellir archwilio’r fangre lle caiff yr anifeiliaid perfformio eu hyfforddi neu eu harddangos ar unrhyw adeg resymol gan un o swyddogion y cyngor neu gwnstabl. Gwneir trefniadau cofrestru gwahanol ar gyfer unigolion sydd heb gartref sefydlog. O dan amgylchiadau o’r fath, gellir gwneud ymholiadau gydag unrhyw awdurdod lleol.

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Sut i wneud cais

Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar lein.

Gwneud cais am dystysgrif neu gofrestriad ar gyfer arddangos neu hyfforddi anifeiliaid perfformio

Dweud wrthym am newid i’ch tystysgrif neu gofrestriad 

Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)

Cydsyniad mud

Os nad ydych wedi clywed oddi wrthym ymhen 14 diwrnod gallwch weithredu fel pe bai’ch cais wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r cyfnod yn dechrau pan ddaw’r holl ddogfennau i law a phan gaiff y ffi berthnasol ei thalu.

Cysylltwch â ni