Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Y Cyngor    Cynrychiolwyr etholedig    Maer

 FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd ein ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 8:15yh ar 25/06/2022 a 4:30yb ar 26/06/2022, tra bod gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Our online forms will be unavailable between 8:15pm on the 25/06/2022 and 4:30am on 26/06/2022 whilst essential maintenance is carried out. We apologise for any inconvenience this may cause.

Maer

Councillor Carol Andrews

Maer Caerffili – Y Cynghorydd Carol Andrews

Penodwyd y Cynghorydd Carol Andrews yn Faer ar 3 Medi 2020 ac mae'n cymryd lle'r pennaeth dinesig sy'n ymadael, sef y Cynghorydd Julian Simmonds.

Derbyniodd Carol y swydd o fod yn Bennaeth Dinesig yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor - yr un cyntaf o bell - ddydd Iau 3 Medi.

“Mae’n fraint enfawr ymgymryd â rôl y Maer a gwasanaethu cymuned Bwrdeistref Caerffili.  Hoffwn dalu teyrnged i’n Maer ymadawol, y Cynghorydd Julian Simmonds, sydd wedi profi amgylchiadau eithriadol yn ystod ei amser yn y swydd.

Bydd fy merch Megan yn ymuno â mi i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gymryd lle fy mam a fu farw yn anffodus iawn yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i Megan am gamu i'r gofod enfawr a adawodd fy Mam, a oedd yn Gonsort yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Faer; rydym yn edrych ymlaen at gyflawni ein rolau newydd, er gwaethaf y cyfnod anarferol hwn.”

Cafodd Carol ei magu ym Margod gan ei rhieni, Susan a Leighton, lle mynychodd Ysgol Santes Gwladys Bargod ac Ysgol Gyfun Heolddu. Dechreuodd hyfforddiant nyrsio gyda Sefydliad Nyrsio a Bydwreigiaeth De-ddwyrain Cymru ym 1991 a chymhwyso fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ym 1994. Gweithiodd Carol mewn nifer o ysbytai yng Nghaerdydd ar ôl cymhwyso, cyn ymgymryd â Diploma mewn Bydwreigiaeth ym 1998 gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.

Yn dilyn hyn, treuliodd Carol 17 o flynyddoedd yn gweithio mewn ysgol uwchradd ym Merthyr Tudful, cyn dychwelyd i weithio mewn ysbyty – ar y wardiau yn Ysbyty Ystrad Fawr. Mae hi wedi gweithio ar Ward Bargod yr ysbyty am y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn ddiweddar wedi gofalu am gleifion â COVID-19.

Yn ogystal â'i merch, Megan, mae'n rhannu llysferch, Chelsea, â'i gŵr, Stephen. Bu gwleidyddiaeth o ddiddordeb i Carol ar hyd ei hoes a thrwy ei diweddar dad-yng- nghyfraith – sef cyn-Arweinydd y Cyngor, Harry Andrews MBE – fe ymunodd â'r blaid Lafur a chael ei hethol yn gynghorydd lleol yn 2017.

Cyhoeddwyd mai Dirprwy Faer Caerffili fydd y Cynghorydd June Gale, sy'n cynrychioli Bedwas, Tretomos a Machen.

Mae'r Maer yn croesawu gwahoddiadau i fynd i ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau lleol Cysylltwch â Swyddfa'r Maer i gael rhagor o wybodaeth. Efallai na fydd hi'n bosibl i'r Maer fynd i bob digwyddiad, ond os yw'r Maer ar gael, byddwn yn cysylltu â chi mewn da bryd.

Meiri Blaenorol Caerffili

  • 2019 - Julian Simmonds
  • 2018 - Michael Adams
  • 2017 - John Bevan
  • 2016 - Dianne Price
  • 2015 - Leon Gardiner
  • 2014 - David Carter
  • 2013 - Michael Gray
  • 2012 - Gaynor Oliver
  • 2011 - Vera Jenkins
  • 2010 - James Fussell
  • 2009 - John Evans
  • 2008 - Anne Collins
  • 2007 - Allen Williams
  • 2006 - Elizabeth Aldworth
Contact us
  • Email
  • Telephone
  • Address
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl