News Centre

Coroni Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd yn Bencampwyr Undeb Rygbi Ysgolion Cymru Dan 11

Postiwyd ar : 23 Mai 2022

Coroni Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd yn Bencampwyr Undeb Rygbi Ysgolion Cymru Dan 11
Llwyddodd Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd i ennill o 50 pwynt i 15 yn erbyn Ysgol Gynradd Brynaman yn Rownd Derfynol 10-bob-ochr Grŵp Iau Cwpan John Rees, yn Stadiwm Principality.

Mae eu teitl newydd bellach yn golygu mai nhw yw'r ‘tîm rygbi gorau yng Nghymru’ ar gyfer eu categori oedran.

Mae'r tîm yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 6, yn bennaf, gyda dau ddisgybl o Flwyddyn 5. I gyrraedd y rownd derfynol, fe chwaraeodd Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd mewn twrnamaint yn Nyfnant – gan ennill pob un o'u pedair gêm, sgorio 19 o geisiau ac ildio dim.

Gyda chymorth eu tri hyfforddwr – Mr George (pennaeth), Mr Yates (athro) a Mr Morgan (rhiant) – a'r canolwr, Sam Morgan, yn gapten, fe wnaeth y tîm gipio Tlws Coffa John Rees.

Meddai Mr Craig George, Pennaeth Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd, “Rwy'n hynod o falch o gymuned gyfan yr ysgol – nid yn unig y chwaraewyr a gamodd i'r cae, ond hefyd pawb a ddaeth draw i gefnogi'r ysgol. Mae cael ein coroni'n Bencampwyr Ysgolion Cymru Dan 11 yn gamp anhygoel ac yn dangos gwaith caled y chwaraewyr a'r hyfforddwyr.

“Diolch o galon i bawb sydd wedi gweithio gyda'r tîm eleni, i Undeb Rygbi Cymru am drefnu profiad mor anhygoel ac i Ysgol Brynaman am gêm wych yn y rownd derfynol. Roedd cael chwarae yn Stadiwm Principality yn gwireddu breuddwyd i'r chwaraewyr, gan gael cyfle i gerdded yn ôl traed rhai o'u harwyr nhw. Rwy'n siŵr y bydd gan lawer o'r chwaraewyr ddyfodol disglair ym myd rygbi.”


Ymholiadau'r Cyfryngau