Casglu gwastraff swmpus
Cyn i chi ofyn i ni gasglu unrhyw eitemau nad ydych eu heisiau ystyriwch y canlynol:
-
Os yw eitem mewn cyflwr da ac y gall gael ei hailddefnyddio, bydd y Fenter Dodrefn Gymunedol yn casglu dodrefn ac eitemau trydanol am ddim. Byddant hefyd yn casglu oergelloedd/rhewgelloedd am £16. I drefnu casgliad ffoniwch 01685 846830.
-
Gallech fynd â’r eitem i’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref agosaf. Ar gyfer gwastraff y cartref yn unig mae hwn. Os oes angen i chi ddefnyddio fan i gludo eitem(au) i’r safle, bydd ffi yn cael ei chodi dan y Cynllun Trwydded Faniau newydd.
-
Bydd nifer o gwmnïau yn aml yn mynd â’ch hen eitemau i ffwrdd wrth ddosbarthu’r rhai newydd. Yn aml maen nhw’n gwneud hyn am ddim, neu am ffi fechan, a dylech ei drefnu â’r cyflenwr.
Gwasanaeth casglu'r cyngor
Taliadau 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021
Eitemau (Mae enghreifftiau’n cynnwys drysau, celfi’r ystafell wely, byrddau/cadeiriau)
|
Pris (2020/21)
|
1, 2 neu 3 eitem
|
£16
|
4 eitem
|
£21
|
5 eitem
|
£26
|
6 eitem (uchafswm)
|
£31
|
Rydym hefyd yn casglu eitemau eraill, ond mae’r ffioedd canlynol yn cael eu codi am gerbydau, cludiant, casglu a gwaredu. Mae’r gost ar gyfer y canlynol yn unigol felly ffoniwch am bris.
- Sied Gardd (hyd at 6’x8’, wedi’i ddatgymalu)
- Piano (wedi’i ddatgymalu)
- Piano (wedi’i ddatgymalu)
- Rheiddiadur
- Gwresogydd thermol (gyda briciau)
- Gwresogydd thermol (heb friciau)
- Systemau Gwres Canolog
- Pren
- Landeri
- Gwastraff gardd swmpus
Trefnu casgliad
Er mwyn diogelu staff rheng flaen y gwasanaeth casglu gwastraff a chadw at ganllawiau cyfredol y Llywodraeth o ran cadw pellter cymdeithasol, rydym wedi cyflwyno'r mesurau diogelwch canlynol:
-
Os yw aelod o'r cartref wedi arddangos, neu yn arddangos symptomau coronafeirws ar hyn o bryd, peidiwch ag archebu casgliad
-
Os yw aelod o'r cartref wedi arddangos symptomau ond wedi cwblhau'r cyfnod ynysu o 14 diwrnod, gwnewch yn siŵr bod yr eitemau rydych eisiau iddynt gael eu casglu yn cael eu glanhau'n drylwyr cyn iddynt gael eu casglu â hylif neu glytiau gwrthfacterol (chwistrell gwrthfeirysol).
-
Cyfyngir y gwasanaeth i ddodrefn y cartref a nwyddau gwynion yn unig. Os gallwch chi storio'r eitemau nes bod mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi'u hysgafnu, gwnewch hynny.
-
Rhaid cadw pellter cymdeithasol rhwng trigolion a gweithwyr yn ystod y casgliad. Os na ellir cyflawni hyn, ni fydd y casgliad yn cael ei wneud
-
Rhaid gosod eitemau wrth ymyl y palmant y noson cyn neu fore'r casgliad trefnedig. Am resymau diogelwch, ni allwn gynnig unrhyw gymorth gyda hyn. Os ydych chi'n cael anhawster symud eich eitem/eitemau i ymyl y palmant, bydd angen i chi gadw'r eitem(au) nes i'r gwasanaeth arferol ailddechrau.
I drefnu casgliad, ffoniwch yr adran Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.
Sylwer: Nid ydym bellach yn casglu rhewgelloedd. Gallwch gysylltu â
'Furniture Revival' ar 01685 846830 a fydd yn casglu am ffi o £16.
Gallwch dalu dros y ffôn drwy gerbyd debyd neu gredyd neu gydag arian parod yn unrhyw un o’n swyddfeydd sy’n derbyn arian parod.
Byddwn fel arfer yn casglu eitemau o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cael taliad a byddwch yn cael gwybod y dyddiad a’r amser casglu.
Cofiwch:
- Un eitem yw rhywbeth fel bwrdd, cadair, cwpwrdd ac ati.
- Ni fyddwn yn dod i’ch cartref; rhaid i chi adael yr eitemau y tu allan. Wrth ofyn am y casgliad, cewch wybod y lle mwyaf addas i adael yr eitem(au) yn dibynnu ar y math o eiddo sydd gennych.
- Mi fyddwn ond yn casglu eitemau a gofnodwyd pan wnaed y cais. Caiff eitemau ychwanegol eu gadael yn yr eiddo.
- Os yw eitemau yn wlyb ac yn mynd yn rhy drwm (er enghraifft, carped gwlyb ac is-garped) efallai ni fyddant yn cael eu casglu er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch staff.
- Os na chaiff eich eitem(au) eu casglu am unrhyw reswm (fel tywydd garw, cerbydau'n torri lawr ac ati) byddwn yn ceisio cysylltu â chi. Gwneir pob ymdrech i'w chasglu'r diwrnod gwaith nesaf.
- Gall ad-daliadau ar gyfer canslad ond gael ei brosesu os byddwch yn gwneud hynny mwy na dau ddiwrnod gwaith cyn y casgliad a drefnwyd.
- Ni allwn roi gostyngiad.
- Byddwn ond yn casglu eitemau rydych wedi talu amdanynt. Gallwch ychwanegu eitemau ychwanegol ond bydd angen i chi roi gwybod i ni o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn casglu
Gwastraff gardd swmpus
Gall holl wastraff yr ardd gael ei ailgylchu AM DDIM yn ein holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu ar gyfer gwastraff gardd swmpus fel coed a changhennau. Cysylltwch â Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff am bris ar gyfer y gwasanaeth hwn. Ewch i’r adran gwastraff swmpus am fanylion.