Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Tai    Yn ddigartref neu’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref?

Yn ddigartref neu’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref?

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref, mae'n ddyletswydd ar y Cyngor o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i ymchwilio i'ch sefyllfa a darganfod sut y gallwn o bosib eich helpu.

Cysylltwch â Thîm Opsiynau Tai Caerffili ar 01443 873552 i gael gwybodaeth am dai a'r opsiynau sydd ar gael i chi.

Os ydych yn cael eich bygwth â digartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf byddwn yn gweithio gyda chi i gymryd pob cam rhesymol i atal y digartrefedd rhag digwydd, naill ai drwy weithio gyda chi i gadw eich cartref presennol neu drwy ddod o hyd i lety arall.

Os ydych eisoes yn ddigartref, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i lety arall i chi, gan helpu am hyd at 56 diwrnod ar ôl i chi ddod yn ddigartref. Gelwir hyn yn ddyletswydd i liniaru digartrefedd.

Bydd disgwyl i chi weithio gyda'ch gweithiwr achos i gytuno ar gamau rhesymol a allai gynnwys:

  • cynnig llety addas gyda landlord preifat
  • cynnig o lety addas gyda chymorth
  • cymorth i sicrhau llety rydych wedi canfod eich hun
  • cynnig o dai cymdeithasol addas

Os ydych o hyd yn ddigartref ar ôl 56 diwrnod

Os nad ydym wedi gallu eich cartrefu a'ch bod wedi gwneud popeth y gofynnwyd i chi ei wneud, byddwn yn penderfynu a oes dyletswydd arnom i barhau i'ch cynorthwyo.

Os ydych wedi gwrthod cynnig llety addas, gan gynnwys yn y sector preifat, neu os nad ydych wedi dilyn y rhestr o gamau y cytunwyd arnynt, efallai na fydd gennych hawl i gael rhagor o gymorth.

Os ydych wedi dilyn y camau gweithredu y cytunwyd arnynt ac nad ydych wedi llwyddo i ddod o hyd i dŷ addas, byddwn yn ceisio darganfod a ydych yn un o'r grwpiau angen blaenoriaethol, ac a oedd eich digartrefedd o ganlyniad i rywbeth rydych wedi'i wneud neu wedi methu â'i wneud.

Ar ddiwedd y 56 diwrnod, os ydym yn fodlon eich bod yn un o'r grwpiau angen blaenoriaethol ac nad ydych yn ddigartref o fwriad, byddwn yn parhau i'ch helpu i ddod o hyd i gartref newydd.

Os nad oes gennych unman i aros

Os credwn y gallech fod yn gymwys, yn ddigartref a bod gennych angen blaenoriaethol ymddangosiadol ac na allwn ddatrys eich sefyllfa yn y tymor byr neu ganolig, ceisiwn ddarparu llety dros dro.

Os nad oes gennych unrhyw le diogel i aros byddwn yn gwneud popeth a allwn i ddod o hyd i rywle i aros ar sail dros dro tra byddwch yn gweithio gyda ni i ddod o hyd i ateb

Os darperir llety dros dro, efallai y gofynnir i chi adael:

  • os ydych yn torri amodau eich cytundeb
  • os ydych wedi gwrthod cynnig o lety addas, gan gynnwys llety rhent preifat
  • rydym yn penderfynu eich bod wedi gwneud eich hun yn fwriadol ddigartref
  • nid ydych wedi gwneud popeth y mae eich gweithiwr achos wedi gofyn i chi ei wneud
  • os oes gennych lety addas ar gael i chi

Prawf Digartrefedd Bwriadol

Rydym wedi dewis cymhwyso prawf digartrefedd bwriadol i'r holl grwpiau a restrir yn adran 70 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

  • Y grwpiau hyn yw:
  • Menyw feichiog
  • Person y mae plentyn dibynnol yn byw gydag ef/hi
  • Rhywun sy'n agored i niwed o ganlyniad i henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd ac ati
  • Rhywun sy'n ddigartref o ganlyniad i argyfwng, e.e. llifogydd, tân neu drychineb arall
  • Rhywun sy'n ddigartref o ganlyniad i gam-drin domestig
  • Person 16 neu 17 oed
  • Unigolyn rhwng 18 a 21 oed y tybir ei fod mewn perygl o gael ei ecsbloetio'n rhywiol neu'n ariannol
  • Person 18 a 21 oed a oedd yn derbyn gofal, yn cael eu lletya neu'n cael eu maethu gan awdurdod lleol tra'u bod o dan 18 oed
  • Rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac sy'n ddigartref ar ôl cael ei ryddhau o'r lluoedd arfog
  • Unigolyn sydd â chysylltiad lleol â'r awdurdod lleol, sy'n agored i niwed o ganlyniad i fod yn y ddalfa, ac sy'n ddigartref pan gaiff ei ryddhau o'r ddalfa.

Gwneud cais am dai cymdeithasol

Rydym bellach yn gweithredu 'Cofrestr Tai Cyffredin' lle gallwch wneud cais am dai cymdeithasol gyda'r cyngor a gyda landlordiaid tai cymdeithasol eraill ym mwrdeistref sirol Caerffili gydag ond un cais ar-lein.

Os hoffech wneud cais am dai cymdeithasol bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais am dŷ ar-lein. Ymwelwch â'n Hadran Ceisio am Dai am fanylion.

Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai

Os ydych chi'n byw yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, dros 16 oed ac yn ei chael hi'n anodd cadw'ch cartref, mewn perygl o golli'ch swydd, angen symud neu angen help gyda'ch cyllid, gallai'r Tîm Cefnogi Pobl gynnig cymorth i chi. Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai

Cysgodfeydd nos

Mae Llochesau Nos Eglwysi Caerffili yn darparu pryd cynnes a chroeso cyfeillgar yn ogystal â darparu llety brys i gadw pobl oddi ar y stryd yn ystod misoedd y gaeaf. Rhagwelir y bydd y Llochesau Nos yn agor ym mis Rhagfyr 2018. Cliciwch yma am fanylion.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch y dudalen hon

Tudalennau Cysylltiedig

Rhenti a budd-daliadau | Dod o hyd i gartref | Cynllun achub morgeisi | Pobl sy’n cysgu ar y stryd | Cyngor ar Dai

Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl