Parciau a gerddi hanesyddol 

Mae Parciau a Gerddi Hanesyddol yn cyfrannu at leoliadau adeiladau rhestredig hanesyddol, a rhoddir gwerth arnynt fel ‘gweithiau celf’, efallai oherwydd eu bod wedi'u creu gan ddylunydd enwog, neu oherwydd eu bod o ddiddordeb garddwriaethol neu eu cysylltiad â pherson neu ddigwyddiad nodedig, ac fel canolbwynt ar gyfer hunaniaeth y gymuned ac ymdeimlad o frogarwch. Ceir hefyd ymgyrch gynyddol o blaid cydnabod a thrysori cymeriad a nodweddion unigryw lleol a gweithio tuag at sicrhau amgylchedd cynaliadwy. Mae parciau a gerddi hanesyddol yn gwneud cyfraniad pwysig i'r amgylchedd, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod, eu cadw a'u gwarchod.

Maent wedi'u cynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru – Morgannwg a Gwent. Fodd bynnag, rhestr gynghorol ydyw ac nid oes iddi unrhyw bwerau statudol. Nod cynhyrchu'r gofrestr yw cynnig gwybodaeth am barciau a gerddi hanesyddol er mwyn cynorthwyo'r gwaith o'u gwarchod a'u cadw.

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod eich parc neu'ch gardd hanesyddol sy'n gofrestredig nid yn unig yn bwysig ichi, ond mae hefyd yn bwysig i'ch cymuned leol ac i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. 

Nid yw'r broses gofrestru statudol yn cyflwyno unrhyw gyfundrefnau caniatâd newydd. Bydd parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, a'u lleoliadau, yn parhau i gael eu diogelu drwy'r system gynllunio. Mae hyn yn golygu bod awdurdodau cynllunio lleol yn ystyried parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a'u lleoliadau wrth baratoi cynlluniau datblygu lleol ac wrth wneud penderfyniadau cynllunio. 

Diben cofrestru yw gwarchod a diogelu nodweddion hanfodol parciau a gerddi hanesyddol, ond nid oes angen i hyn fod yn rhwystr rhag newid. Er bod eich parc neu'ch gardd hanesyddol sy'n gofrestredig yn ased gwerthfawr ac unigryw, mae'n debyg ei bod eisoes wedi newid dros amser, ac efallai y bydd angen ichi ei newid ymhellach. Mae a wnelo cadwraeth â rheoli newid yn ofalus. Mae hyn yn golygu dod o hyd i'r ffordd orau o ddiogelu a gwella nodweddion arbennig eich parc neu'ch gardd hanesyddol sy'n gofrestredig fel y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol werthfawrogi a mwynhau'ch parc neu'ch gardd.

Mae'r parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fel a ganlyn:

Gwesty'r Maes Manor
Rhif cyfeirnod: PGW (Gt) 54
Cyfeirnod grid: ST 173 988
Cymuned: Coed Duon
Gradd: II
Y prif reswm dros ei raddio: Gardd wedi'i chadw'n dda a ddyluniwyd gan T H Mawson
Math o safle: Gardd Edwardaidd derasog ffurfiol; gardd â wal o'i chwmpas
Prif gyfnodau'r gwaith adeiladu: Tua 1907

Plasty'r Fan

Rhif cyfeirnod: PGW (Gm) 13 (CAE)
Cyfeirnod grid: ST 166 868
Cymuned: Y Fan
Gradd: II
Y prif reswm dros ei raddio: Olion gardd Duduraidd derasog â wal o'i chwmpas sy'n gysylltiedig â thŷ pwysig o'r cyfnod.
Math o safle: Gardd derasog â wal o'i chwmpas.
Prif gyfnodau'r gwaith adeiladu: Tua 1907

Castell Rhiw'r-perrai 

Rhif cyfeirnod: PGW (Gm) 17 (CAE)
Cyfeirnod grid: ST 219 863
Cymuned: Rhydri
Gradd: II
Y prif reswm dros ei raddio: Castell ffug anarferol o'r cyfnod Jacobeiadd cynnar o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol gyda'i barc ceirw ac olion strwythurol gerddi ffurfiol cyfoes. Mae'r safle yn cynnwys mwnt anghysbell ar ben bryn sydd o ddiddordeb hanesyddol pwysig, sef safle hafdy o'r ail ganrif ar bymtheg. Yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif crëwyd y gerddi cymhleth, gyda thŷ gwydr, sydd wedi goroesi i raddau helaeth, fel canolbwynt iddi. Math o safle: Parc ceirw a pharc tirwedd; gerddi ffurfiol a pharc difyrrwch; safle hafdy.
Prif gyfnodau'r gwaith adeiladu: 1626–55; 1785–89; 1909–13; 1920au

Cefn Mabli

Rhif cyfeirnod: PGW (Gm) 11 (CAE)
Cyfeirnod grid: ST 223 840
Cymuned: Rhydri
Gradd: II
Y prif reswm dros ei raddio: Mae cryn dipyn o barc, coetiroedd a gardd derasog plasty pwysig ym Morgannwg wedi goroesi, gyda nodweddion yn dyddio o ddechrau'r ddeunawfed ganrif i ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae llethrau serth a choed derw aeddfed rhan ddeheuol y parc yn creu safle prydferth ar gyfer y plasty, sydd i'w weld o ardal eang tua'r de.
Math o safle: Gardd derasog ffurfiol; parc difyrrwch anffurfiol; parc tirwedd; gardd â wal o'i chwmpas.
Prif gyfnodau'r gwaith adeiladu: Diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg; 1709–35; y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cysylltwch â ni