Gorchmynion Rheoleiddio Traffig
Beth yw Gorchmynion Rheoleiddio Traffig?
Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yw’r ddogfen gyfreithiol y mae’n ofynnol ei chael i gefnogi ystod o fesurau sy’n rheoli neu’n cyfyngu’r defnydd a wneir o ffyrdd cyhoeddus. Mae’r mesurau hynny’n cynnwys:
- Llinellau melyn dwbl
- Strydoedd unffordd
- Troadau a waherddir
- Lonydd bysiau
Pam y mae angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arnom?
Mae cyfraith y DU yn mynnu bod Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar gael er mwyn galluogi’r heddlu, neu’r cyngor yn achos llinellau melyn a lonydd bysiau, i orfodi’r cyfyngiadau hynny.
Creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
Er mwyn creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, rhaid dilyn y weithdrefn statudol ganlynol:
- Ymgynghori â’r gwasanaethau brys a chyrff cyhoeddus eraill. Gellir ymgynghori â grwpiau buddiant lleol, megis preswylwyr a masnachwyr, lle bo hynny’n briodol.
- Hysbysebu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drwy osod hysbysiad yn y wasg leol ac arddangos hysbysiadau ar y ffyrdd yr effeithir arnynt. Yna, caiff gwrthwynebiadau eu hystyried drwy’r weithdrefn briodol cyn penderfynu sut yr ymdrinnir â’r mater.
- Llunio a chyflwyno’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ffurfiol. Gall y broses gyfan gymryd misoedd lawer i’w chwblhau, yn enwedig os bydd gwrthwynebiadau’n golygu y bydd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei newid a’i ail-hysbysebu.
Yr hysbysiadau sydd ar waith ar hyn o bryd
Mae’r hysbysiadau canlynol ar waith ar hyn o bryd:
- Darpariaeth Arfaethedig a Diwygiadau i Orchmynion Traffig mewn amryw o leoliadau yn Wardiau Aberbargod, Bargod a Hengoed: Hysbysir | Gorchymyn | Datganiad O'r Rhesymau a Effaith Gyffredinol | Map 08&09A Bedwellty Road a Neuaddwen Street, Aberbargod | Map 10A Stryd yr Ysgol, Aberbargod | Map 19 Cardiff Road, Bargod | Map 115 Western Drive, Bargod | Map 20 Francis Street, Bargod | Map 53 Park Road, Hengoed | Map 54 Valley View, Cefn Hengoed
- Darpariaeth Arfaethedig a Diwygiadau i Orchmynion Traffig mewn amryw o leoliadau yn Ward Catwg Sant: Hysbysir | Gorchymyn | Datganiad O'r Rhesymau a Effaith Gyffredinol | Map Southview House Gelligaer | Map Gwaun-Fro Penpedairheol | Map Sorrel Drive Penpedairheol
- A472 Cylchfan Y Crown I Faes-Y-Cwmwr (Gorchymyn Terfyn Cyflymder) 2021: Hysbysir | Gorchymyn | Datganiad O'r Rhesymau a Effaith Gyffredinol | Map
- Gorchymyn Terfyn Cyflymder 40MYA B4251 Ynys-Ddu-Ddu I Wyllie: Hysbysir | Gorchymyn
- Croesfan Twcan Arfaethedig B4254 Ger Y Gyffordd Gyda Gwaun-Fro, Penpedairheol: Hysbysir
- Gordon Road - Gorchymyn Traffig Unffordd: Hysbysir | Gorchymyn | Datganiad O'r Rhesymau a Effaith Gyffredinol | Map
- Parth Terfyn Cyflymder 20 Mya A Mesurau Gostegu Traffig - Ysgol Gynradd Maes-Y-Cwmwr
- Croesfan Twcan Arfaethedid A472 Main Road, Maes-Y-Cwmwr
- Ystrad Mynach Lewis Street a’r Stryd Fawr | Ystrad Mynach Lewis Street a’r Stryd Fawr Gorchymyn Traffig Unffordd Arbrofol 2020 | Datganiad o'r Effaith Gyffredinol a Datganiad o'r Rhesymau | Gorchymyn Cyfreithiol