Maer
Maer Caerffili – y Cynghorydd Elizabeth M. Aldworth
Cafodd y Cynghorydd Elizabeth M. Aldworth ei Phenodi yn Faer ar 19 Mai 2022 ac mae’n cymryd lle’r pennaeth dinesig sy’n ymadael, sef y Cynghorydd Carol Andrews.
Derbyniodd Elizabeth y swydd o fod yn bennaeth dinesig yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ddydd Iau 19 Mai yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.
Mae cynrycholi Caerffili fel Maer yn gymaint o anrhydedd ac er fy mod wedi dal y swydd hon yn flaenorol yn 2006/07, mae’n fwy nag yr oeddwn erioed wedi’i ddisgwyl i gyflawni’r rôl hon nawr yn 2022. Rwy’n addo i gynnal y Cyngor a’i Thrigolion ac rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn wych.
Cafodd Liz ei magu yn Senghenydd ac mae ganddi atgofion melys iawn o’r Ysgol a’r cyfeillion y mae hi wedi’u gwneud dros y blynyddoedd. Yn dilyn cyfnod mewn Coleg Ysgrifenyddol, gweithiodd hi fel teipydd llaw-fer ysgrifenyddol yn y sector preifat yng Nghaerdydd ac yn lleol. Mae hi hefyd wedi bod yn Llywodraethwr Ysgol, yn Ymddiriedolwr ac yn Aelod Pwyllgor gyda nifer o sefydliadau lleol.
Ers 1991, mae Liz wedi gwasanaethu fel Cynghorydd yn Ardal Cwm Rhymni, Cynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen a Chynghorydd Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd Mike, gŵr Liz ers 47 blynedd, yn ei hebrwng wrth iddi gyflawni ei dyletswyddau dinesig. Maen nhw bellach yn byw yn Nhretomos, lle aeth eu dwy ferch i'r ysgol. Bellach, mae ganddyn nhw chwech o wyrion ac wyresau rhwng 4 a 27 oed.
Mae Liz wedi dewis codi arian ar gyfer #TurnABUHBPink yn ystod ei blwyddyn yn y swydd. Mae’r elusen yn codi arian i gefnogi Uned Gofal y Fron Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Ysbyty Ystrad Fawr.
Cafodd y Cynghorydd Mike Adams, sy’n cynrychioli Pontllan-fraith, ei gyhoeddi fel Dirprwy Faer.
Maer yn croesawu gwahoddiadau i fynd i ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau lleol. Cysylltwch â Swyddfa’r Maer i gael rhagor o wybodaeth. Efallai na fydd hi'n bosibl i'r Maer fynd i bob digwyddiad, ond os yw'r Maer ar gael, byddwn ni’n cysylltu â chi mewn da bryd.
Meiri Blaenorol Caerffili
- 2020 - Carol Andrews
- 2019 - Julian Simmonds
- 2018 - Michael Adams
- 2017 - John Bevan
- 2016 - Dianne Price
- 2015 - Leon Gardiner
- 2014 - David Carter
- 2013 - Michael Gray
- 2012 - Gaynor Oliver
- 2011 - Vera Jenkins
- 2010 - James Fussell
- 2009 - John Evans
- 2008 - Anne Collins
- 2007 - Allen Williams
- 2006 - Elizabeth Aldworth