Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Prydau ysgolion cynradd
Swyddi a hyfforddiant
Cynghorwyr a phwyllgorau
Canolfannau Hamdden
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mehefin 2022
Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2022
News Centre
Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2022
Postiwyd ar : 01 Meh 2022
Mae'r broses enwebu nawr ar agor ar gyfer y seremoni wobrwyo fawreddog sy'n cydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr ymroddedig a hyrwyddwyr cymunedol.
Mae Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr Caerffili, sy'n cael eu cynnal gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a'u trefnu mewn partneriaeth â Chyngor Caerffili, yn gyfle i ddiolch a rhoi cydnabyddiaeth i bobl a grwpiau lleol sy'n rhoi o'u hamser, eu hegni a'u sgiliau i helpu eraill a chael effaith gadarnhaol yn eu cymuned.
Bob dydd, mae miloedd o bobl yn rhoi o'u hamser i warchod yr amgylchedd, arwain gweithgareddau ieuenctid, gwarchod ein treftadaeth, helpu'r rhai mewn angen ac ymateb i argyfwng rhyngwladol. Gallwch chi enwebu unigolyn neu grŵp yn y categorïau canlynol:
Amgylcheddol
– Codi sbwriel, plannu coed ac ailgylchu yw rhai o'r ffyrdd mae gwirfoddolwyr yn annog cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy. Bydd y wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n mynd yr ail filltir i warchod y blaned.
Ieuenctid
– Mae pobl ifanc yn cael effaith gadarnhaol bob dydd ar gymdeithas, fel unigolion ac ar y cyd fel clybiau ieuenctid, grwpiau chwaraeon, Sgowtiaid a Geidiaid. Bydd y wobr hon yn cydnabod ymdrechion anhygoel ein dinasyddion iau.
Rhiant a Phlentyn
– Cylchoedd plant bach, diwrnodau chwarae, boreau coffi a Chymdeithasau Rhieni ac Athrawon yw rhai o'r ffyrdd mae rhieni'n gwirfoddoli i wella bywydau plant yn ein cymunedau. Bydd y wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n mynd yr ail filltir er budd y genhedlaeth nesaf.
Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr
– Cynlluniau busnes, asesiadau risg, cyllid a recriwtio gwirfoddolwyr. Bydd y wobr hon yn cydnabod gwaith ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr nad yw'n cael ei weld gan amlaf.
Cynaliadwyedd Bwyd
– Mae dosbarthu bwyd, ‘tun ar y wal’, a rhandiroedd cymunedol yn ein helpu ni i wastraffu llai o fwyd a helpu'r rhai mewn angen. Bydd y wobr hon yn gwobrwyo'r rhai sy'n gwneud i bethau ddigwydd.
Iechyd a Lles
– Mae iechyd corfforol a meddyliol yn bwysig i ni i gyd, ac mae gwirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i helpu eraill mewn lleoliadau iechyd ffurfiol a grwpiau cymunedol. Bydd y wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n ein helpu ni i deimlo'r gorau y gallwn ni.
Taith Ysbrydoliaeth
– Mae llawer o wirfoddolwyr yn goresgyn trychineb bersonol a brwydrau preifat i helpu eu cymunedau. Bydd y wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n ymdrechu i gael effaith gadarnhaol.
Cyfraniad Rhyngwladol
– Rhoi cymorth i ffoaduriaid, casglu cyflenwadau a gwirfoddoli dramor. Bydd y wobr hon yn cydnabod y rhai sy'n helpu gwneud y byd yn lle gwell.
Chwaraeon
– Hyfforddwyr, cystadleuwyr a phwyllgorau; mae angen tîm i redeg grŵp chwaraeon llwyddiannus. Bydd y wobr hon yn dathlu'r rhai sy'n rhoi o'u hamser i feithrin talent chwaraeon lleol.
Diwylliant a Threftadaeth Cymru
– Mae dosbarthiadau Cymraeg, sgyrsiau hanes, grwpiau ar-lein a phrosiectau adfer i gyd yn gwarchod ein treftadaeth a'n diwylliant er budd cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y wobr hon yn cydnabod gwaith y rhai sy'n sicrhau bod ein diwylliant yn ganolog i'n cymunedau bywiog.
Bydd seremoni wobrwyo arbennig i gydnabod yr enillwyr a'r rhai sy'n cael canmoliaeth uchel yn cael ei chynnal ym mis Medi, yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.
Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer gwobr, rhaid i unigolyn neu grŵp o wirfoddolwyr gyflawni eu gweithgaredd gwirfoddoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd panel o gynrychiolwyr cymunedol lleol yn dewis enillydd ac ail orau ym mhob categori, a byddan nhw'n cael eu gwahodd i'r seremoni wobrwyo ranbarthol.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw
dydd Gwener 1 Gorffennaf
.
I gael rhagor o wybodaeth neu i enwebu, ewch i
https://www.gavo.org.uk/post/time-to-celebrate-our-community-champions
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Ffiliffest 2024
Ffair Fai Bargod yn llwyddiant ysgubol ac yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Gwaith yn dechrau ar gynllun blaenllaw Rhisga ar gyfer byw bywyd hŷn
Gofalwyr maeth Caerffili yn dangos y 'gall pawb gynnig rhywbeth' i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ardal
Llwyddiant ysgubol yn ras 10 Cilomedr Caerffili 2024
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y