News Centre

Dweud eich dweud ar ddyfodol Canolfan Hamdden Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 15 Tach 2023

Dweud eich dweud ar ddyfodol Canolfan Hamdden Pontllan-fraith
Bydd ymgynghoriad 6 wythnos sy’n canolbwyntio ar ddyfodol Canolfan Hamdden Pontllan-fraith yn cychwyn yr wythnos nesaf.
 
Heddiw (15.11.23), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i ofyn am adborth gan y gymuned ar gynlluniau i gau'r cyfleuster yn barhaol.
 
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ddydd Llun 20 Tachwedd ac yn rhedeg tan ddydd Mercher 3 Ionawr 2024. Bydd y Cyngor yn trefnu nifer o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn ogystal ag ymgysylltu wedi'i dargedu â defnyddwyr presennol y cyfleuster 3G a rhanddeiliaid allweddol eraill.
 
Yn ogystal, bydd tudalen we bwrpasol gyda chwestiynau cyffredin yn cael eu lansio a bydd copïau caled o'r arolwg hefyd ar gael mewn lleoliadau allweddol.
 
Bydd adborth o'r ymgynghoriad yn helpu i lunio argymhellion a fydd yn cael eu cynnwys mewn adroddiad pellach i'r Cabinet eu hystyried yn y Flwyddyn Newydd.
 
Caeodd Canolfan Hamdden Pontllan-fraith ei drysau ym mis Mawrth 2020 cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel canolfan frechu drwy gydol y pandemig. Nid yw wedi ailagor ar gyfer defnydd hamdden ers y cyfnod hwn ac mae'r rhan fwyaf o gyn-ddefnyddwyr y ganolfan wedi symud i gyfleusterau eraill yn yr ardal gyfagos.
 
Mae buddsoddiad sylweddol wedi’i wneud (gyda chynlluniau pellach) dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu cyfleusterau chwaraeon modern, addas i'r diben ar draws y Fwrdeistref Sirol. Yn benodol, bydd amrywiaeth o gyfleusterau newydd trawiadol ar gael cyn bo hir mewn 'Canolfan ar gyfer Dysgwyr sy’n Agored i Niwed' sy'n cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith. Bydd y cyfleusterau hyn yn cynnwys neuadd chwaraeon 4 cwrt gyda chyfleusterau newid cysylltiedig a chae hyfforddi 3G, a fydd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned y tu allan i oriau ysgol.
 
"Mae Canolfan Hamdden Pontllanfraith bron yn 50 mlwydd oed ac mae ganddi ôl-groniad cynnal a chadw o bron i hanner miliwn o bunnoedd," meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan." Rwy'n sylweddoli y gall cau unrhyw gyfleuster cymunedol fod yn anodd, ond pan edrychwch chi ar y buddsoddiad enfawr sydd wedi'i gyflawni gan ein Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol uchelgeisiol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhagor wedi'i gynllunio, mae'n amlwg gweld bod gennym ni ddigon o gyfleusterau modern ac addas i'r diben eraill ar gael."
 
"Felly, rydyn ni am ofyn am farn y gymuned gyfan fel rhan o broses ymgynghori ffurfiol. Mae'n debygol wedyn y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y flwyddyn newydd unwaith y byddwn ni wedi ystyried yr holl adborth yn ofalus," ychwanegodd. 
 
O ddydd Llun 20 Tachwedd, mae modd dod o hyd i'r dudalen we bwrpasol gyda dolenni i'r arolwg yma: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/canolfan-hamdden-pontllan-fraith

Bydd nifer o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal fel rhan o'r ymgynghoriad. Mae croeso i drigolion alw heibio am sgwrs gydag aelod o dîm ymgysylltu'r Cyngor yn:
 
Lleoliad: Dyddiad Amser
Canolfan Mileniwm Penllwyn – digwyddiad Nadolig Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 6pm – gorffen
Eglwys y Bedyddwyr Elim, Pontllanf-raith Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 5.30pm – 7.00pm
Eglwys y Bedyddwyr Elim, Pontllan-fraith Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023 5.30pm – 7.30pm
 
Yn ogystal, mae dwy sesiwn galw heibio ar-lein wedi’u trefnu:
 
Ar-lein Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 12.00pm-1.00pm
Ar-lein Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 11.00am – 12 hanner dydd
 
Gofynnir i breswylwyr sy'n dymuno mynychu un o'r sesiynau ar-lein e-bostio ymgysylltiadcyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda'r dyddiad dethol, a bydd dolen i fynychu'r sesiwn ar-lein yn cael ei darparu.
 
Gofynnir i bobl sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r sesiynau galw heibio gysylltu â'r tîm drwy ymgysylltiadcyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 07933 174352.
 
Mae rhagor o fanylion am fuddsoddiad y Cyngor gwerth £3 miliwn mewn cyfleusterau newydd ar gael yma: https://www.caerffili.gov.uk/news/news-bulletin/october-2023/investing-in-your-community?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau