English | hawlfraint / ymwadiad | gwefeistr | hafan tudalen cbsc  
 
 

Pwll Glo Oakdale
Hen safle Pwll Glo Oakdale yw’r safle strategol hwn, a oedd yn cyflogi tua 2,000 o bobl yn ei hanterth. Ar ôl gweithredu am 81 mlynedd, caewyd y lofa yn 1989 oherwydd dirywiad y diwydiant glo yng Nghymru. Gwelodd yr awdurdod lleol y potensial i ddatblygu safle blaenllaw a fyddai, unwaith eto, yn dylanwadu ar economi’r rhanbarth, felly prynwyd y safle 400 erw.

Mae trawsnewidiad hen safle’r lofa wedi arwain at barc busnes o safon, a dymuna’r cyngor amlygu safon y buddsoddiad ar gyfer y dyfodol gyda cherflun coffa a fydd hefyd yn deyrnged i’r gorffennol.

Dewisodd plant ysgol a thrigolion lleol Oakdale y cynllun buddugol gan artist lleol, Steve Welchman, o’r enw ‘Troi, Troi Drachefn’.

Mae’r cynllun yn defnyddio hen olwyn weindio wedi ei thorri yn dair rhan i gynrychioli 3 siafft hen Lofa Oakdale. Codwyd cofeb Pwll Glo Oakdale w rth fynedfa isaf Parc Busnes Oakdale, ger Llwyfandir 4, sy’n creu nodwedd ddramatig ar ben isaf y Parc Busnes.

Fersiwn addas i argraffu Fersiwn addas i argraffu

Hanes
Hanes
Hanes