Arweinlyfr newydd i Gelligaer

image

Mae arweinlyfr newydd wedi’i gyhoeddi gan brosiect y Gaer Rufeinig. Mae gan y llyfr 2 adran – testun awdurdodol am y Gaer Rufeinig a gwibdaith drwy hanes Gelligaer.

Mae Richard Brewer o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru wedi diweddaru’r arweinlyfr am y Gaer Rufeinig, gan roi dehongliad newydd o’r pethau a ganfuwyd ar y safle. Mae hefyd yn cynnwys darluniau newydd o’r ffordd y byddai’r gaer wedi edrych yn ei chyfnod efallai ac amrywiaeth o’r lluniau gwych a dynnwyd yn y cyfnod Edwardaidd pan gloddwyd y safle.

Mae’r ail adran yn olrhain stori Gelligaer o gyfnod pobl yr Oes Efydd a adawodd eu marc ar safleoedd megis Carn Bugail, hyd ehangiad diweddar y pentref a chau Glofa Penallta. Mae’n cyfeirio at straeon allweddol megis stori Ysgol Lewis ac Eglwys St Catwg ac mae darluniau rhagorol i gyd-fynd â nhw.

I gael copi, galwch yn Neuadd St Catwg lle gallwch hefyd gael copi o’r daflen teithiau cerdded newydd, neu ewch i’r Adran Hanes, lle gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn Cymraeg o’r canllaw.

 

Gelligaer – Lansio Llyfr

image

Mae Stori Rufeinig Gelligaer yn adnabyddus – ond beth am y straeon goruwchnaturiol a ganfu Malcolm Jones wedi iddo ddod o hyd i Ddarn Arian Rhufeinig?

Mae wedi teithio i geisio cwblhau’r stori – wedi’i sbarduno gan alwad perchennog blaenorol y darn - ac erbyn hyn mae’r stori wedi’i hysgrifennu yn “Walking in their Footsteps” a fydd wedi’i lansio yng Ngelligaer ar Chwefror 3ydd. Dewch draw i glywed stori unigryw Malcolm - ac efallai y cewch eich perswadio bod ysbryd y Rhufeiniaid yn dal yn fyw yng Ngelligaer.

Tafarn yr Harp, Gelligaer, Dydd Iau Chwefror 3ydd am 7pm.

 

Gwaith i gychwyn ar osod ffens newydd

image

Ar ôl misoedd o gynllunio, bydd y gwaith yn cychwyn ar Ragfyr 8fed i osod ffens newydd ar draws safle’r Gaer Rufeinig - i ddangos bod y cae yma’n safle i ran bwysig iawn o dreftadaeth Gelligaer.

Mae’r ffens wedi’i seilio ar hen gynllun a ganfuwyd o amgylch Eglwys St Catwg, ond mae eiconau wedi’u hychwanegu at y cynllun i adlewyrchu gorffennol Rhufeinig yr ardal. Bydd yn ymarferol hefyd ac yn cadw’r ceffylau a’r defaid yn ddiogel. Mae’r ffens wedi’i lunio’n bwrpasol ac yn cael ei gynhyrchu gan Tiltview Engineering Ltd, sydd wedi’u seilio ar Ystad Ddiwydiannol Penallta.