Cael cymorth gyda bwyd a hanfodion eraill
Dod o hyd i'ch banc bwyd agosaf chi
Os ydych chi’n cael trafferth bwydo eich teulu chi, mae eich banc bwyd lleol chi yn gallu darparu bwyd brys a help mewn argyfwng.
Talebau bwyd
Gallwch chi gael talebau oddi wrth Gyngor ar Bopeth, Canolfan Byd Gwaith a Mwy, meddygfeydd, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, ac rydych chi’n gallu eu defnyddio nhw yn eich banc bwyd lleol chi.
Prydau Ysgol am Ddim
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgol yn amser llawn.
Gwiriwch a ydych chi’n gymwys a gwneud gais ar-lein.
Banciau Bwyd Trussell Trust
Yn y rhan fwyaf o achosion, er mwyn cael mynediad at fanc bwyd Trussell Trust, dylech chi gael eich atgyfeirio gan dîm Gofalu am Gaerffili neu dîm Budd-daliadau'r Cyngor, eich gweithiwr cymorth neu un o'r gwasanaethau canlynol - Cyngor ar Bopeth, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, Pobl ac ati.
Mae banciau bwyd Trussell Trust hefyd yn darparu parseli bwyd i ddefnyddwyr sy'n galw heibio heb atgyfeiriad os ydyn nhw'n ystyried bod y person mewn angen. Bydd y banc bwyd wedyn yn atgyfeirio’r person at Gofalu am Gaerffili i'w brysbennu a chael unrhyw gymorth ychwanegol.
- Banc Bwyd Aberbargod (Cwm Rhymni Uchaf) - ar agor dydd Mercher (11am–1pm)
- Banc Bwyd Rhymni (Cwm Rhymni Uchaf) - ar agor dydd Mawrth (11am–1pm)
- Banc Bwyd Tredegar Newydd (Cwm Rhymni Uchaf) - ar agor dydd Iau (11am–1pm)
- Banc Bwyd Rhisga - ar agor dydd Mawrth a dydd Gwener (9.30am–11.30am)
- Banc Bwyd Taf Bargod, Nelson - ar agor dydd Llun i ddydd Gwener (9.30am–12pm)
- Banc Bwyd Coed Duon - ar agor dydd Iau (10am–12pm)
- Banc Bwyd Caerffili - ar agor dydd Mawrth a dydd Mercher (10am–1pm)
Cymorth arall o ran bwyd
Mae nifer o sefydliadau cymunedol sy'n gallu eich helpu chi i gael gafael ar fwyd rhad. Cysylltwch â Thîm Gofalu am Gaerffili i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael yn eich cymuned chi.