Teclyn yw hwn ar gyfer meddwl am wirfoddolwyr a chynnwys dinasyddion.
Defnyddir y teclyn i wneud i chi feddwl pam y dylai pobl wirfoddoli i ymuno â phrosiect cynnwys.
Fel yr awgryma’r tabl hwn, dim ond oddeutu un o bob dau berson sydd yn cyflawni unrhyw weithred wleidyddol o gwbl. Gweler yr Arolwg o Ymchwil (PDF, 451k) am fwy ar hyn.
Gweithredu gwleidyddol yr adroddwyd amdano, 1986-2000 |
|||||
% yn dweud eu bod |
1986 |
1989 |
1991 |
1994 |
2000 |
Wedi arwyddo deiseb |
34 |
41 |
53 |
39 |
42 |
Wedi cysylltu â’u Haelod Seneddol |
11 |
15 |
17 |
14 |
16 |
Wedi cysylltu â’r radio, y teledu neu bapur newydd |
3 |
4 |
4 |
5 |
6 |
Wedi bod ar brotest neu wrthdystiad |
6 |
8 |
9 |
9 |
10 |
Wedi siarad â pherson dylanwadol |
1 |
3 |
5 |
3 |
4 |
Wedi cysylltu ag Adran o’r Llywodraeth |
3 |
3 |
4 |
3 |
4 |
Wedi ffurfio grŵp o bobl o gyffelyb anian |
2 |
3 |
2 |
3 |
2 |
Wedi codi mater mewn mudiad roeddent yn perthyn iddo |
5 |
4 |
5 |
4 |
5 |
Dim o’r rhain |
56 |
48 |
37 |
53 |
47 |
Nifer sylfaenol |
1548 |
1516 |
1445 |
1137 |
2293 |
Ffynhonnell: Bromley et al 2001: 201 tabl 9.1 |
Fel y dengys y dystiolaeth uchod, dim ond nifer fach iawn o bobl sydd yn debygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath a hynny, efallai, am nad ydynt yn ymwybodol o’r manteision a ddaw yn sgil cymryd rhan, neu am nad ydynt yn ymwybodol o’r cyfleoedd. Yn ystod ein prosiect fe ganfuwyd ei bod yn bwysig meddwl am y budd i’r gwirfoddolwyr ar gychwyn y prosiect, gan fod hynny’n help i gael mwy o bobl i gymryd rhan.