News Centre

Cyngor Caerffili a Heddlu Gwent yn lansio cynllun manwerthu i atal troseddau cyllyll

Postiwyd ar : 01 Rhag 2021

Cyngor Caerffili a Heddlu Gwent yn lansio cynllun manwerthu i atal troseddau cyllyll
Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y cyd â Heddlu Gwent, wedi bod yn ymweld â siopau yn y Fwrdeistref Sirol i'w cofrestru nhw i'r cynllun gwerthwyr cyfrifol, sy'n annog manwerthwyr i werthu cyllyll yn ddiogel ac atal gwerthu cyllyll i bobl o dan 18 oed.

Mae pob siop sy'n gwerthu cyllyll yn nhref Caerffili wedi cofrestru a byddwn ni'n parhau i weithio gyda masnachwyr ar draws gweddill y Fwrdeistref Sirol i godi ymwybyddiaeth.

Mae'n anghyfreithlon gwerthu cyllyll i unrhyw un o dan 18 oed ac, fel rhan o’r cynllun, mae manwerthwyr yn cytuno i fabwysiadu polisi ‘her 25’ a gofyn am weld cerdyn adnabod i sicrhau prawf oedran.

Fel rhan o'r fenter, mae swyddogion Heddlu Gwent wedi siarad â manwerthwyr am ‘gyllyll sombi’ gwaharddedig a'r drosedd o farchnata cyllell mewn ffordd sy'n awgrymu ei bod yn addas ar gyfer ymladd.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch y Cyhoedd, “Mae diogelwch ein trigolion o'r pwys mwyaf; bydd ein cydweithrediad â Heddlu Gwent yn sicrhau bod manwerthwyr yn gwerthu cyllyll yn ddiogel.

“Byddwn ni'n parhau i weithio tuag at godi ymwybyddiaeth o werthu cyllyll gyda manwerthwyr eraill.”


Ymholiadau'r Cyfryngau