News Centre

Cyngor Caerffili yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus ar-lein

Postiwyd ar : 22 Rhag 2021

Cyngor Caerffili yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus ar-lein
Cyngor Caerffili yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus ar ôl i siopwyr ar-lein yn y Deyrnas Unedig brynu 80 miliwn o eitemau ‘siomedig’ yn seiliedig ar adolygiadau gwych
 
Mae'r Cyngor yn annog trigolion i fod yn ofalus wrth siopa Nadolig ar-lein ar ôl i Safonau Masnach Cenedlaethol ryddhau ystadegau sy'n dangos bod siopwyr yn y Deyrnas Unedig wedi prynu bron i 80 miliwn o eitemau ar ôl darllen adolygiadau disglair ar-lein, dim ond i gael eu siomi'n fawr pan gyrhaeddodd y nwyddau.
 
Mae data newydd, sydd wedi'u rhyddhau gan Safonau Masnach Cenedlaethol wrth i dymor y Nadolig gychwyn, yn dangos sut mae ein hymddiriedaeth mewn adolygiadau ar-lein yn ysgogi ymchwydd yn nifer y troseddwyr sy'n defnyddio adolygiadau ffug i wneud elw cyflym drwy werthu nwyddau a gwasanaethau o ansawdd gwael.
 
Yn achos 56% o siopwyr ar-lein, mae adolygiadau ar-lein yn ffactor sy'n eu helpu nhw i benderfynu wrth brynu cynnyrch neu wasanaeth, ac mae 67% o'r rhai sy'n defnyddio adolygiadau ar-lein yn fwy tebygol o brynu cynnyrch neu wasanaeth os oes ganddo sgôr pum seren, sy'n tynnu sylw at y ffydd y mae llawer yn ei gosod yn yr adolygiadau hyn.
 
Yn ôl amcangyfrif, mae adolygiadau ffug ar-lein yn gallu dylanwadu ar £23 biliwn o wariant defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Fodd bynnag, dangosodd yr ymchwil fod llawer o bobl yn methu â chymryd camau syml i osgoi cael eu twyllo. Dim ond un ym mhob pump sy'n gwirio'r amser rhwng adolygiadau ar-lein – os yw llawer o adolygiadau tebyg wedi'u postio mewn cyfnod byr o amser, efallai eu bod nhw wedi'u cyflwyno gan yr un person neu grŵp – tra mai dim ond 18% sy'n edrych ar hanes gweithgaredd adolygwyr a all hefyd ddarparu cliwiau nad yw rhywbeth yn iawn. Nid yw 87% o siopwyr sy'n defnyddio adolygiadau ar-lein yn defnyddio ategion porwr fel Fakespot a ReviewMeta i ganfod adolygiadau ffug.
 
Camerâu, dillad, peiriannau coffi, hyd yn oed deganau cathod – dyma ond rhai o’r cynhyrchion gydag adolygiadau gwych y mae pobl yn difaru eu prynu.
 
Sut i osgoi cael eich twyllo gan adolygiadau ffug ar-lein:
  • Amseru – gwiriwch sawl adolygiad tebyg sydd wedi'u huwchlwytho o fewn ychydig funudau neu oriau.
  • Hanes yr adolygydd – edrychwch ar weithgaredd yr adolygydd – os yw cyfrif wedi'i actifadu yn ddiweddar neu wedi adolygu ystod gul o gynhyrchion/gwasanaethau yn unig, gallai hyn nodi gweithgaredd amheus.
  • Iaith amwys – bydd adolygiadau dilys yn aml yn bersonol ac yn benodol i brofiad yr unigolyn o ddefnyddio'r eitem, tra bod adolygiadau ffug yn fwy tebygol o fod yn amwys, gan ddefnyddio geiriau ac ymadroddion generig fel ‘anhygoel’, ‘gwych’, ‘prynwch y cynnyrch hwn’.
  • Allwch chi gysylltu â nhw? – os yw adolygydd yn fodlon i chi gysylltu ag ef i ateb cwestiynau, a'i fod yn ymateb, mae'n arwydd da ei fod e'n ddilys
  • Defnyddiwch ategyn porwr – mae ategion yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddadansoddi adolygiadau, nodi gweithgaredd amheus ac awgrymu dewisiadau amgen gwell i ddefnyddwyr
  • Edrychwch y tu hwnt i'r sgôr sêr – er y gall sgôr sêr o 4.5 neu 5 fod yn ddangosydd da o ansawdd, peidiwch â dibynnu ar hynny'n unig – edrychwch ar yr adolygiadau hefyd a'u gwirio nhw yn erbyn yr awgrymiadau hyn.
 
Dywedodd Mike Andrews, Cydlynydd Cenedlaethol Tîm E-droseddu'r Safonau Masnach Cenedlaethol, “Mae adolygiadau ffug ar-lein yn niweidio busnesau cyfreithlon ac yn helpu'r rhai sy'n ceisio gwneud elw cyflym drwy werthu nwyddau gwael. Mae llawer o bobl a gymerodd ran yn ein harolwg ni wedi dweud wrthon ni eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu twyllo ar ôl llyncu adolygiadau ffug, yn aml yn sylweddoli bod yr adolygiadau'n amheus dim ond pan oedd yn rhy hwyr. Rydyn ni'n annog y rhai sy'n gwneud eu siopa Nadolig ar-lein i gadw llygad am adolygiadau ffug ar-lein ac i osgoi cael eu gadael ar eu colled.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, “Byddwn i'n annog yr holl drigolion i ddilyn y camau uchod er mwyn osgoi cael eu siomi wrth siopa ar-lein y Nadolig hwn. Mae'n destun pryder ac yn siomedig bod rhai pobl ddideimlad yn defnyddio adolygiadau ffug ar-lein i geisio twyllo pobl ddiarwybod o arian, yn enwedig ar adeg sydd i fod yn llawn hwyl.”
 
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael ei dargedu gan sgam, dylech chi roi gwybod i Action Fraud ar-lein yn www.actionfraud.police.uk/welsh neu drwy ffonio 0300 123 2040. I gael cyngor a gwybodaeth ar sut i wirio a allai rhywbeth fod yn sgam ar-lein, ffoniwch y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth, Scams Action, ar 0808 250 5050. Gall pobl hefyd amddiffyn eu cymdogion nhw drwy ymuno â Friends Against Scams, sy'n darparu hyfforddiant ar-lein am ddim i rymuso pobl i sefyll yn erbyn sgamiau.


Ymholiadau'r Cyfryngau