News Centre

COVID-19 - diweddariad i rieni a gofalyddion

Postiwyd ar : 05 Ion 2022

COVID-19 - diweddariad i rieni a gofalyddion

Annwyl Riant/Ofalydd

Rwy'n gobeithio eich bod chi'n cadw'n iawn.

Dros gyfnod y Nadolig, bu rhai datblygiadau sy'n effeithio ar ysgolion a bydd eich pennaeth chi yn cysylltu â chi i egluro sut y bydd y datblygiadau hyn yn effeithio arnoch chi.

Bydd rhai newidiadau yn effeithio ar bob un ohonoch chi ac roeddwn i'n meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol nodi'r rhain.

Profi

Bydd llawer mwy o brofion llif unffordd (LFT) yn cael eu defnyddio y tymor hwn. Bellach, bydd rhaid i ddisgyblion oed uwchradd a holl staff yr ysgol gael prawf bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener a chael prawf adwaith cadwynol polymerasau (PCR) ac ynysu os oes ganddyn nhw ganlyniad prawf LFT positif.

Os yw'ch plentyn chi yn cael ei enwi fel cysylltiad agos, bydd gofyn iddo wneud prawf LFT bob dydd am 7 diwrnod.

Os ydych chi'n rhiant i ddisgybl oed cynradd dros 5 oed, gallwch chi gael y profion hyn ar-lein drwy fynd i llyw.cymru/prawf-covid-19-cyflym-heb-symptomau neu o fferyllfeydd lleol sy'n cymryd rhan; mae'r rhestr ar gael ar y ddolen uchod. Os na allwch chi wneud hyn, mae gan ysgolion cynradd gyflenwad bach iawn ar gael ar gyfer argyfyngau.

Byddwn ni'n ehangu nifer y lleoedd lle gallwch chi gael profion LFT ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn fuan a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi maes o law.

Prinder staff

Byddwch chi'n ymwybodol o effaith COVID-19 ar bresenoldeb staff. Ar hyn o bryd, mae penaethiaid yn asesu eu sefyllfaoedd nhw ond, fel y gallwch chi ddychmygu, bydd hyn yn newid bob dydd ac nid yw staff cyflenwi ar gael bob amser. Bydd ysgolion yn gwneud eu gorau glas i fod ar agor ar gyfer dysgu ar y safle, ond mae'n fwyfwy tebygol y bydd angen symud i ddysgu o bell mewn rhai amgylchiadau. Efallai y bydd rhybudd yn eithaf byr, a gofynnwn ni am eich amynedd a'ch dealltwriaeth chi yn ystod y cyfnod hwn o darfu.Mae'n ofynnol bod gan ysgolion ddigon o staff a bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud yn unol ag asesiadau risg adolygedig ac mewn trafodaeth â'r awdurdod lleol. Bydd capasiti cyfyngedig i blant gweithwyr hanfodol wedi'u blaenoriaethu a disgyblion agored i niwed, ond bydd hyn yn cael ei bennu yn ôl capasiti staff ac, felly unwaith eto, byddwn ni'n gofyn am eich dealltwriaeth chi yn ystod y cyfnod hwn.

Prydau ysgol am ddim

Bydd y danfoniadau FSM yn digwydd wythnos yn dechrau'r 14eg o Chwefror. Bydd pob rhiant yn derbyn negeseuon testun yn cadarnhau eu diwrnod danfon unigol. Bydd y prydau bwyd a gyflwynir ar yr adeg honno yn cwmpasu'r gwyliau hanner tymor ac unrhyw ddiwrnodau y gallai plant fod wedi'u colli oherwydd y senarios dysgu o bell a grybwyllir uchod a chyfnodau ynysu. Gall rhieni gysylltu â'r adran arlwyo ar arlwyo@caerphilly.gov.uk neu 01443 864055 os ydyn nhw am drafod eu hopsiynau dosbarthu, trefnu clic a chasglu dewis arall neu oedi eu danfoniad am y cyfnod hwn.

Profi, Olrhain, Diogelu

Dylai unrhyw un sydd â chanlyniad prawf positif ddilyn y rheolau ynysu wedi'u nodi yma: llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu.

Fel y gwyddoch chi, bu cynnydd enfawr yn nifer yr achosion dros yr wythnosau diwethaf ac mae'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn brysur iawn ar hyn o bryd. Efallai y bydd neges destun yn cael ei hanfon atoch chi yn gofyn i chi lenwi ffurflen ar-lein. Mae'r e-ffurflen hon yn casglu data am bwy mae'ch plentyn chi wedi'i weld a ble mae eich plentyn chi wedi bod yn ystod ei gyfnod heintus. Ffurflen safonol yw hon a bydd yn gofyn cyfres o gwestiynau nad ydyn nhw'n naturiol yn gweddu i amgylchiadau eich plentyn chi, felly, ar gyfer y cwestiynau isod, byddem ni'n ddiolchgar pe baech chi'n darparu'r wybodaeth ganlynol:

  • A yw'n gyflogedig?  Atebwch YDY.
  • Beth yw ei statws cyflogaeth?  Dylech chi ddewis MYFYRIWR fel yr ateb i'r cwestiwn hwn
  • Beth yw ei brif le cyflogaeth?  Nodwch enw ysgol eich plentyn chi ar gyfer y cwestiwn hwn.

Mae'r wybodaeth hon yn bwysig iawn gan ei bod yn ein helpu ni i rybuddio'r ysgol o achos positif yn gyflym iawn a darparu'r cyngor cywir i unrhyw gysylltiadau rydych chi a'ch plentyn chi wedi'u nodi. Os yw'r wybodaeth hon ar goll, bydd oedi sylweddol wrth ddarparu cyngor i'r bobl gywir. Byddwn ni'n gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn y mater hwn. 

Diolchwn i chi am eich cydweithrediad parhaus.

Cofion

Keri Cole, Prif Swyddog Addys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili



Ymholiadau'r Cyfryngau