News Centre

Ysgol Iau Cwmaber yn dathlu statws platinwm

Postiwyd ar : 25 Ion 2022

Ysgol Iau Cwmaber yn dathlu statws platinwm
Mae disgyblion yn Ysgol Iau Cwmaber wedi profi eu rhinweddau gwyrdd ar ôl ennill gwobr eco bwysig.
 
Mae Ysgol Iau Cwmaber wedi ennill gwobr fawreddog y Faner Platinwm am y 5ed tro, ar ôl ennill tair Gwobr y Faner Werdd yn flaenorol diolch i raglen addysg amgylcheddol, Eco-Sgolion.
 
Mae Eco-Sgolion yn rhaglen ryngwladol sy’n cael ei rhedeg yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
 
Mae’r rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i fod yn arweinwyr o newid yn eu cymuned, gan eu helpu nhw i ddysgu am fyw’n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang wrth roi’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w hysgol, eu hamgylchedd lleol a’r gymuned ehangach, megis lleihau gwastraff a defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw'n iach a materion sbwriel.
 
Fel rhan o’u hasesiad Platinwm Eco-Sgolion, bu i Ysgol Iau Cwmaber alluogi pob disgybl i gael gwell dealltwriaeth o’u hawliau fel plant yn yr hinsawdd bresennol. Oherwydd ei Chwricwlwm Adfer, roedd yr ysgol yn teimlo ei bod yn bwysig canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol. Cymerodd yr holl randdeiliaid ran mewn arolwg a chyfrannodd y disgyblion o bob dosbarth at benderfynu pa waith yr oedd pob dosbarth am ei wneud. Roedd yr ysgol hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod ‘Siart Teimladau’ yn cael ei sefydlu a’i ddefnyddio ym mhob dosbarth i helpu iechyd a lles y plant yn ystod y flwyddyn anodd hon. Roedd nifer o gystadlaethau, e.e. dylunio stamp newydd, posteri i'w harddangos yn yr ysgol a phoster gwybodaeth ar gyfer y gymuned. Mae disgyblion wedi gweithio gyda’r gymuned ehangach drwy gynhyrchu posteri llawn gwybodaeth i egluro ‘Hawliau'r Plentyn’ a sut mae’r hawliau hyn yn effeithio ar bob un ohonom ni.
 
Dywedodd Mrs Dann, Eco-gydlynydd, “Rydw i mor falch o’r gwaith mae’r Eco-Gyngor a’r ysgol gyfan wedi ei wneud. Rydym i gyd wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill ein 5ed Baner Blatinwm; Fel Eco-ysgol, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i archwilio sut y gallwn ni ddatblygu ein cynaliadwyedd ni.”
 
Dywedodd Fran Watkin, Swyddog Addysg Cadwch Gymru’n Daclus, “Mae’r Faner Platinwm yn gyflawniad nodedig iawn ac mae’n amlygu brwdfrydedd ac ymrwymiad Ysgol Iau Cwmaber tuag at ddatblygu cynaliadwy. Mae ymroddiad yr Eco-bwyllgor dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn ysbrydoledig. Hoffwn i longyfarch a diolch i’r holl ddisgyblion a staff a gymerodd ran am eu gwaith caled nhw!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, “Yng Nghyngor Caerffili, rydyn ni wedi ein plesio ag Ysgol Iau Cwmaber ac wedi gwirioni ar eu cyflawniadau. Mae’r Faner Platinwm yn adlewyrchiad o ymroddiad yr holl staff a disgyblion dan sylw.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Eco-Sgolion, ewch i https://accounts.keepwalestidy.cymru/cartref


Ymholiadau'r Cyfryngau