News Centre

Cynigion cyffrous i drawsnewid Canol Tref Caerffili

Postiwyd ar : 25 Ion 2022

Cynigion cyffrous i drawsnewid Canol Tref Caerffili
Mae Arweinydd Cyngor Caerffili wedi datgelu glasbrint cyffrous ar gyfer trawsnewid canol tref Caerffili a’r ardal gyfagos yn y dyfodol, cefnogir gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynghorydd Philippa Marsden wedi cyhoeddi manylion pecyn uchelgeisiol o brosiectau adfywio a fydd yn helpu trawsnewid y dref dros y blynyddoedd nesaf.

Mae prif elfennau rhaglen ‘Caerffili 2035’ yn cynnwys:
  • Cyfnewidfa drafnidiaeth newydd gwerth £30 miliwn yng nghanol y dref
  • Datblygiad manwerthu a phreswyl cymysg mawr gwerth £15 miliwn
  • Adeiladu gwesty bwtîc newydd yn Park Lane
  • Buddsoddiad o £5 miliwn mewn cyfleusterau newydd i ymwelwyr yng nghastell hanesyddol Caerffili
  • Cynlluniau i greu ardal hamdden newydd uchelgeisiol yn cynnig cyfleoedd hamdden, manwerthu, masnachol a busnes newydd yng nghanol y dref.

“Rydyn ni'n gyffrous i lansio’r glasbrint hir ddisgwyliedig hwn i ailddatblygu tref Caerffili fel rhan o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru,” dywedodd y Cynghorydd Marsden. “Mae prosiect Caerffili 2035 yn gynllun uchelgeisiol sy’n nodi dyheadau i addasu ac esblygu’r dref dros y 15 mlynedd nesaf. Cyfres o uchelgeisiau craidd, gan gynnwys meysydd ymyrraeth allweddol a set glir o brosiectau sy'n gallu cael eu datblygu a'u gweithredu i arwain twf, i wneud Caerffili yn ganol tref fwy amrywiol a llwyddiannus."

Dywedodd y Cynghorydd  Eluned Stenner, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Adfywio, “Dros y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt, byddwn ni'n gweld buddsoddiad sylweddol i drawsnewid canol tref Caerffili a, drwy weithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n gobeithio y bydd cyflawni’r prosiectau hyn yn cynorthwyo’r ymdrech i adfer yn sgil COVID-19 ac yn sicrhau bod Caerffili yn parhau i fod yn lle gwych i wneud busnes, nawr ac yn y dyfodol.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chaerffili i adfywio canol y dref fel un o gamau gweithredu allweddol Tasglu’r Cymoedd. Mae’r Cynllun Llunio Lleoedd rydyn ni’n ei ariannu bellach yn dwyn ffrwyth, ac mae rhaglen o fuddsoddiadau y gallwn ni ei helpu drwy ein cronfa Trawsnewid Trefi ni, a fydd yn gwneud llawer i sicrhau bod Caerffili yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”

Aeth yn ei blaen, “Bydd y buddsoddiad hwn yn ategu ein Strategaeth Llunio Lleoedd gyfredol ni sy’n golygu bod £500 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r cynlluniau cyffrous hyn ar ein gwefan bwrpasol ni, Llunio Lleoedd www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/"

Bydd rhagor o wybodaeth am yr elfennau amrywiol o fewn glasbrint Caerffili 2035 yn cael ei chyhoeddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros y misoedd nesaf wrth i wahanol agweddau o'r cynllun yn symud ymlaen.

I weld manylion prosiectau Caerffili 2035, ewch i'r wefan bwrpasol: https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau