News Centre

​Cynlluniau marchnad cyffrous wedi'u datgelu

Postiwyd ar : 11 Hyd 2022

​Cynlluniau marchnad cyffrous wedi'u datgelu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu cynlluniau cyffrous i greu datblygiad marchnad newydd deniadol yng nghanol tref Caerffili.

Yn ôl y cynllun, sy'n rhan o lasbrint adfywio ehangach ar gyfer y dref, bydd marchnad newydd brysur ar dir yn Park Lane yn cael ei chreu. Mae ôl troed y farchnad newydd yn cynnwys safle hen adeilad Specsavers a gafodd ei ddymchwel yn ddiweddar gan y Cyngor gyda chymorth ariannol menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, y newyddion cyffrous, “Bydd y datblygiad marchnad arfaethedig hwn yn helpu rhoi bywyd newydd i’r dref ac mae'n rhan o Uwchgynllun Caerffili 2035 a fydd yn helpu trawsnewid y canol tref strategol allweddol hwn dros y blynyddoedd i ddod.”

“Bydd y bwriad i gau Neuadd y Farchnad ar Pentrebane Street yn arwain at greu’r datblygiad marchnad newydd, addas i’r diben hwn ar safle mwy amlwg. Bydd hyn hefyd yn hwyluso darparu datblygiad defnydd cymysg newydd ar Pentrebane Street a fydd yn darparu cartrefi newydd y mae mawr eu hangen a gofod masnachol a manwerthu newydd ar y llawr gwaelod.”

Bydd y farchnad newydd, yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn darparu 28 o unedau ar raddfa fach, o fewn cynwysyddion llongau wedi’u trosi, a lle ar gyfer masnachwyr marchnad dros dro ychwanegol. Bydd y safle hefyd yn cynnal lleoliad digwyddiadau allanol i wella ymhellach yr atyniadau i ymwelwyr sydd ar gael yng nghanol y dref.

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jamie Pritchard, “Bydd y farchnad newydd yn helpu masnachwyr lleol i dyfu ac ehangu eu busnesau wrth ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hefyd. Wedi’i lleoli ar y ffordd drwodd i gerddwyr rhwng y gyfnewidfa drafnidiaeth a’r castell, bydd y farchnad mewn sefyllfa allweddol i ddenu ymwelwyr i’r dref, gan helpu rhoi Caerffili ar y map fel cyrchfan gyffrous a bywiog yn Ne Cymru.”

“Mae’r rhain yn wir yn gynlluniau cyffrous, ond byddwn i'n annog pobl leol i barhau i gefnogi’r masnachwyr presennol yn neuadd y farchnad ar Pentrebane Street, gan fod y cynigion hyn yn debygol o gymryd peth amser i’w datblygu.”

Marchnad newydd – Ffeithiau a Ffigurau:

  • 28 o unedau masnachol bach newydd.
  • Gan gynnwys 7 bar a bwyty newydd cyffrous.
  • Lle ar gyfer 15 o stondinau marchnad dros dro ychwanegol ar gyfer marchnadoedd misol neu wyliau lleol.
  • Lle ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau cerddoriaeth awyr agored.
  • Ardaloedd eistedd yn yr awyr agored mewn dull ‘neuadd-farchnad’ dan do.
  • Ffryntiad ar gyfer Cardiff Road i helpu gwella'r stryd fawr sydd eisoes yn llwyddiannus ymhellach.

Mae cais cynllunio ar gyfer y farchnad newydd i fod i gael ei gyflwyno i'w ystyried ac mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i lansio i geisio barn ar y cynigion. Gallwch chi gael mynediad at yr arolwg yma:

https://news.workman.co.uk/s/49844e56ddac6407e5eee146c695dc543707dbbc

Mae disgwyl y bydd y farchnad newydd yn agor yn gynnar yn haf 2023.

Mae cynlluniau ar gyfer datblygiad gwesty newydd yn y cyffiniau hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o'r uwchgynllun adfywio ehangach. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o bartneriaid eraill i gyflwyno'r glasbrint uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer y dref o'r enw Rhaglen Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035. Am ragor o fanylion, ewch i’r wefan bwrpasol: https://www.caerphillytown2035.co.uk/



Ymholiadau'r Cyfryngau