News Centre

Dewch i helpu llywio ein dyfodol

Postiwyd ar : 01 Medi 2021

Dewch i helpu llywio ein dyfodol
Mae cyrff cyhoeddus yng Ngwent yn dechrau edrych ar ba wasanaethau a chyfleusterau fydd eu hangen yn y dyfodol i fodloni dyheadau ein cymunedau, ac rydyn ni angen i chi gymryd rhan.

Hoffem ni gael eich barn a'ch profiadau ynghylch ystod o bethau sy'n effeithio arnoch chi a'ch teulu, ffrindiau, gwaith a'ch cymuned.

Rydyn ni'n gwybod bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom ni ac efallai na fydd bywyd yn mynd yn ôl i'r arfer eto, felly, hoffem ni eich gwahodd chi i gyfarfod rhithwir i drafod eich dyfodol chi a dyfodol eich cymuned. Rydyn ni wedi trefnu dau gyfarfod ar gyfer pob ardal gymunedol yn y Fwrdeistref Sirol – un yn y bore (10.00am tan 11.30am) ac un gyda'r nos (6.00pm tan 7.30pm).

Cadwch le gan ddefnyddio'r ddolen Eventbrite isod
  • Cwm Rhymni Uchaf – dydd Mawrth 7 Medi 2021
  • Canol y Cymoedd – Dwyrain – dydd Iau 9 Medi 2021
  • Islwyn Isaf – dydd Iau 16 Medi 2021
  • Canol y Cymoedd – Gorllewin – dydd Mercher 22 Medi 2021
  • Basn Caerffili – dydd Mercher 29 Medi 2021

I ddiolch i chi am roi o'ch amser i helpu, bydd pawb sy'n llenwi'r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill penwythnos glampio i'r teulu yng Nghoedwig Cwmcarn neu docyn teulu i ymweld â Maenordy Llancaiach Fawr. Rydyn ni'n deall nad yw cyfarfodydd rhithwir yn gweithio i bawb, felly os yw hynny'n wir i chi, bydd ffyrdd arall o leisio'ch barn dros y misoedd nesaf. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi a chlywed am eich profiadau o fyw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Cysylltwch â ni ar caerphillywewant@caerffili.gov.uk 


Ymholiadau'r Cyfryngau