Archif Newyddion

Chwilio Newyddion

Archif Newyddion
Mae CB Refrigeration wedi bod mewn busnes ers dros 50 mlynedd, ac yn 2016, fe symudon nhw eu prif swyddfa i Gaerffili. Ers hynny, mae'r perchennog, Andrew Hall, wedi gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth gyda throsiant yn fwy na £4.3 miliwn bellach, gan gynyddu 25% eleni yn unig.
Gwahoddir ceisiadau am Arian Grant i nodi 75 mlynedd ers i'r MV Empire Windrush ddocio yn Tilbury.
Mae Maethu Cymru wedi siarad â phobl ifanc leol â phrofiad o ofal sydd wedi rhannu eu straeon i gefnogi Pythefnos Gofal Maeth. Mae’r ymgyrch yn ceisio annog mwy o bobl i ystyried maethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n wasanaeth dielw, yn hytrach nag asiantaethau maethu masnachol, gan y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ddyfodol plant a phobl...
Roedd yr haul yn tywynnu wrth i ganoedd o redwyr heidio i Gaerffili ar gyfer rasys blynyddol 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows ddydd Sul 14 Mai.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cydweithio â nifer o bartneriaid arbenigol i archwilio cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu a defnyddio hydrogen gwyrdd ar draws ei weithgareddau i gynorthwyo'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiad i fod yn garbon sero net erbyn 2030.
Mae Cyngor Caerffili ar daith i wella a newid. Rhan allweddol o'r broses hon yw ei uchelgais i ddatblygu swyddfeydd modern, addas i'r diben a fydd yn helpu i arbed arian a chaniatáu ffordd newydd o weithio yn y dyfodol.