Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Ymunodd gwesteion arbennig ag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden, i nodi agoriad swyddogol y ganolfan athletau cymunedol newydd yn Ysgol Gynradd Rhiw Syr Dafydd yn Oakdale. Mae'r safle trawiadol wedi bod yn weithredol am gyfnod byr fel cyfleuster ysgol a chymunedol ar gyfer clybiau sirol a chystadlaethau...
​Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r manylion am gynllun rhyddhad ardrethi dros dro newydd y bydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch yn elwa ohono o fis Ebrill 2022.
Mae hen uned Plumbsave yn Lôn y Twyn, Caerffili wedi'i hailddatblygu a'i thrawsnewid yn fragdy a microfragdy manyleb uchel newydd sbon.
Heddiw (Mawrth 1) bydd Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd sbon yn gweld cŵn yn cael eu gwahardd o feysydd chwaraeon wedi’u marcio yn Sir Caerffili er budd diogelwch chwaraewyr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain newydd, gyda'r nod o wneud y Fwrdeistref yn gynhwysol o ran y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymuno â nifer o fusnesau lleol i ddod â'r profiad siopa gorau i stepen eich drws.