Cynnwys Dinasyddion
Arfarnu

Beth yw’r rhain?

Teclynnau ac awgrymiadau ar gyfer arfarnu prosiect cynnwys dinasyddion.

Beth yw eu diben?

Gellir defnyddio’r teclynnau hyn wrth feddwl pa fath o BOBL yr ydych yn ceisio eu cynnwys neu eu perswadio i gymryd mwy o ran, a thuag at ddiwedd yr hyn y byddwch yn ei wneud – boed yn weithdy diwrnod neu’n brosiect estynedig.

Arfarnu

Mae arfarnu ynddo’i hun yn weithgaredd sylweddol. Mae’n rhan bwysig o unrhyw brosiect cynnwys, ac yn caniatáu i chi weithio allan pa mor effeithiol fu eich gwaith a beth y byddech yn ceisio’i wella pe baech yn ei wneud eto.

Yn y Prosiect Cynnwys 50+ rhoddwyd sylw i’r canlynol:

  • Cofnodi’r hyn a wnaethom – y prosesau
  • Cofnodi manylion y rhai a gymerodd ran
  • Cofnodi ymatebion a phrofiadau’r bobl hynny.

Mae’r arfarniadau hyn yn yr adroddiadau prosiectau peilot.

Prosesau cofnodi

Mae arfarniadau’n aml yn ymwneud mwy â materion ymarferol, y nifer yn bresennol etc, ond mae’n hawdd anwybyddu’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd pan oedd y prosiect yn cael ei gynnal.

Er enghraifft, pe bai rhywun arall am ailadrodd prosiect y dywedwyd ei fod yn un llwyddiannus, bydd angen gwybod pwy wnaeth beth a pha bryd ac ati. Os na fydd cofnod hollol onest ar gael o’r hyn a ddigwyddodd ni fydd y gwaith da’n cael ei wella a bydd y syniadau gwael yn cael eu rhoi ar waith eto.

Mae pen draw i’r hyn y gellir ei gofnodi. Rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng yr hyn a wnewch ac a gyflawnwch, a’r hyn a gofnodwch. Ond mae rhai arferion da syml, er enghraifft cadw a dosbarthu nodiadau da am y cyfarfodydd.

Mae’r Adroddiadau Prosiectau Peilot yn gwneud dau beth, Yn gyntaf, maent yn cyflwyno digon o wybodaeth i bawb sydd am wneud yr un gwaith ag a wnaethon ni. Yn ail, maent yn dempled ar gyfer cofnodi cyfranogiad dinasyddion.

Cofnodi Manylion Dinasyddiaeth Pobl

Dyma dempled PDF a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer cofnodi manylion pobl a oedd yn cymryd rhan yn y treialon.