Nod y wefan hon yw cynnig teclynnau a gwybodaeth y gall pobl hŷn eu defnyddio os ydynt am ddweud eu dweud, a hefyd gan y gweithwyr proffesiynol sydd am eu cynnwys yn fwy effeithiol.
Os ydych am weld y wefan hon yn Saesneg, cliciwch yma
Dyma adran am y pecyn cymorth, beth sydd ynddo a beth all ei wneud i chi, megis cynllunio prosiect ymgysylltu - ynghyd ag enghreifftiau o rai o’n prosiectau ni.
Dyma hanes byr y Prosiect Ymgysylltu â Dinasyddion 50+. Mae’n dweud wrthych beth a ddigwyddodd yn ystod y prosiect, beth a wnaed a chan bwy, pam a sut y gwnaethant hynny!
Amlygir adran wahanol o’r wefan bob mis rhag ofn nad ydych wedi dod ar ei thraws – er enghraifft, yr ymchwil cefndirol, proffiliau cynlluniau peilot neu rwystrau rhag cynnwys. Felly, cadwch eich llygaid yn agored a’ch llygoden yn barod i fynd!
Bob mis, bydd dolen yma at wefan arall a allai, yn ein barn ni, fod o ddefnydd i chi.
"Mae’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n amhosibl a’r hyn sy’n bosibl ym mhenderfynoldeb rhywun.”
Martina Navratilova