Cynnwys Dinasyddion
Mathau o gynnwys
Beth yw hwn?
Teclyn gwybodaeth yw hwn. Mae llawer ffurf ar gynnwys a nodir rhai ohonynt isod.
Beth yw ei ddiben?
Mae dau brif ddefnydd i’r teclyn.
- Gellir cyfeirio ato
- Gellir dewis y math o gynnwys sydd yn gweddu orau ar gyfer eich prosiect.
Ffurfiau ar Gynnwys Dinasyddion
- Cyngor dinasyddion: sampl cynrychioliadol o bobl leyg a alwyd ynghyd gan sefydliad er mwyn gofyn am eu barn. Mae gan y "Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Glinigol" (NICE) gyngor dinasyddion, sydd yn cwrdd ers mwy na dwy flynedd.
- Rheithgor dinasyddion: panel bach o bobl nad ydynt yn arbenigwyr, gyda’r un strwythur â rheithgor troseddol. Mae’r grŵp yn mynd ati i archwilio’n fanwl ryw fater sydd o bwys i’r cyhoedd ac yn cyflwyno "dyfarniad".
- Archfarchnadoedd gallant fod yn lle da i ddod o hyd i groestoriad da o’r cyhoedd a’r fantais gyda’r rhain yw eu bod yn fan lle gellir dod o hyd i bobl nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan ym mywyd y gymuned.
- Recriwtio ar y stryd dyma ddull a ddefnyddir i ganfod pobl a’u hannog i ymuno â fforymau, a mantais y dull hwn yw y gellir dod o hyd i bobl nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan ym mywyd y gymuned.
- Grwpiau ffocws daw grŵp bach o ddinasyddion ynghyd a chynhelir trafodaeth dan arweiniad. Sesiynau unigol yw’r rhain fel arfer er y cynhelir nifer ar yr un pryd mewn gwahanol leoliadau.
- Llunio gweledigaeth gymunedol ceir cyfres o gyfarfodydd gyda grwpiau o gymuned benodol, neu sydd â rhyw fater arall yn gyffredin iddynt neu sydd yn dod â hwy at ei gilydd, i gynhyrchu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y dyfodol; mae’n debyg iawn i’r dull adfywio o gynllunio real.
- Theatr Fforwm dyma ffurf ryngweithiol o theatr sydd yn annog y gynulleidfa i ryngweithio ac yn archwilio gwahanol ddewisiadau ar gyfer ymdrin â phroblem neu fater. Defnyddir Theatr Fforwm yn aml gan grwpiau sydd yn eithriedig neu’n ddi-rym.
- Papurau Ymgynghori: anfonir y rhain allan gyda chais i bobl ateb drwy gyflwyno eu sylwadau am ryw fater. Gellir ychwanegu atynt drwy drefnu digwyddiadau i drafod y mater ymhellach.
- Arolygon: gellir eu gwneud ar bapur, ar y ffôn, yn bersonol, ar e-bost neu ar-lein ac fel arfer maent at ffurf rhestr o gwestiynau gosodedig. Er enghraifft gellir defnyddio’r dull hwn i geisio barn pobl ar gomisiynu, cynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
- E-ymgynghori: ymgynghoriadau ar-lein sydd yn defnyddio’r rhyngrwyd i ofyn i grŵp o bobl beth yw eu barn ar ryw fater. Gellir anfon gwybodaeth am y mater dan sylw at nifer di-ben-draw o bobl neu gellir lawrlwytho’r wybodaeth ar-lein ac ymateb mewn e-bost neu trwy gynnig sylwadau ar y wefan.
Mae mwy o wybodaeth am y rhain a mathau eraill o gynnwys drwy ddefnyddio hwn.