Mae’r teclyn hwn yn cynnwys nifer o sylwadau, cwestiynau a dolennau.
Dyma declyn a fydd yn eich ysgogi i feddwl.
Mae pob un ohonom yn tueddu i gymryd manteision byw yn y DU yn yr 21ain ganrif yn ganiataol. Os trown ni at y teledu, gwelwn luniau o bob rhan o’r byd sydd yn ein hatgoffa o’r hyn sydd gennym i’w golli.
Rydym fel gwlad wedi cwffio am ein rhyddid democrataidd ac rydym yn parhau i wneud hynny heddiw. Ond gyda’r hawl i ryddid a hawliau eraill daw cyfrifoldebau hefyd. Ymdrin â phethau felly y mae dinasyddiaeth.
Fodd bynnag, mae’r byd yn newid, mae democratiaieth yn newid, mae dinasyddiaeth yn newid, ond a yw’r rhain yn newidiadau sydd yn annog pobl i weithredu ynglŷn â hwy? A barnu oddi wrth y niferoedd sydd yn pleidleisio mewn etholiadau, dichon mai ‘na’ yw’r ateb.
Dyma ychydig o gwestiynau a dolennau: