Cynnwys Dinasyddion a’r Problemau
Cynnwys Dinasyddion er mwyn eu Defnyddio

Beth yw hwn?

Mae’r teclyn hwn yn cynnwys nifer o sylwadau a dolennau.

Beth yw ei ddiben?

Mae’r Teclyn hwn yn eich helpu i feddwl beth yw bwriadau’r llywodraeth wrth iddynt annog cynnwys pobl.

Goblygiadau Cynnwys Dinasyddion er mwyn eu Defnyddio

Dyma boster Ffrangeg gan fyfyrwyr. Yn Gymraeg: “Rydw i’n cymryd rhan, rwyt ti’n cymryd rhan, mae o’n cymryd rhan, rydyn ni’n cymryd rhan, rydych chi’n cymryd rhan…mae nhw’n cael yr elw.”

Daw’r poster a’r geiriau o’r wefan hon:

http://lithgow-schmidt.dk/sherry-arnstein/ladder-of-citizen-participation.html

Mae’r ddolen hon yn eich arwain at lawer o wybodaeth ddiddorol, ac at ysgol Arnstein yn arbennig.

Labelwyd ffon gyntaf ar Ysgol Arnstein yn ‘defnyddio’ – cydnabyddiaeth bod cynnwys dinasyddion weithiau’n ymwneud yn bennaf â hybu diddordebau’r llywodraeth. Mae testun meddwl yn yr adrannau canlynol.

Ysgol Arnstein

Dinasyddol ynteu gymwynasgar?

A ddylai’r Wladwriaeth ymwneud yn fwriadus â phob agwedd ar fywyd? Mae rhai’n credu bod terfyn i reolaeth ac ymyrraeth y wladwriaeth. Er enghraifft, a ddylai’r Wladwriaeth ymdrechu i’n troi ni’n ‘gymdogion da’?

Pobl hŷn fel gwirfoddolwyr dinesig da - a di-dâl

Mewn cymdeithas sydd yn heneiddio, pwy fydd yn edrych ar ôl yr holl hen bobl? Pwy fydd yn talu am ofalu amdanynt?

Cred rhai y bydd pobl hŷn yn gorfod gofalu, fwyfwy, am ei gilydd a hynny heb dâl. Mae rhai pobl o’r farn mai math o flacmel moesol yw dinasyddiaeth er mwyn gorfodi pobl hŷn i wirfoddoli.

Gellwch ddysgu mwy yn yr Adolygiad o Ymchwil (PDF, 451k) ar dudalen 32