Teclyn yw hwn i’ch ysgogi i feddwl am y ffaith fod y dull o gynnwys neu ymgysylltu’n gallu bod ynddo’i hun yn destun ar gyfer ymgysylltu.
Mae dau ddefnydd i’r Teclyn. Yn gyntaf, mae’n ein hatgoffa bod pobl yn wahanol ac mae angen eu cynnwys fel dinasyddion mewn gwahanol ffyrdd. Yn ail, mae’n eich gorfodi i feddwl am y mathau o gynnwys sydd ar gael oherwydd gall hynny ddylanwadau ar barodrwydd pobl i gymryd rhan.
Dyma ddwy stori fer sydd yn ymddangos hefyd yn adran Rhwystrau y PECYN CYMORTH.
Mae Beryl wedi gweld poster yn hysbysebu cyfarfod ynglŷn â gwneud y strydoedd yn ddiogelach i bobl hŷn. Bydd y cyfarfod am 7.30 yr hwyr ar y 30ain Tachwedd rywle tua milltir o gartref Beryl. Byddai’n hoffi mynd ond nid oes ganddi ffordd o gyrraedd yno. Mae ei harthritis yn ddrwg. A boed hynny fel y bo, y tro diwethaf iddi fynd i gyfarfod fel hyn, chafodd hi ddim cyfle i ddweud dim.
Mae Sam hefyd wedi gweld poster yn hysbysebu cyfarfod ynglŷn â gwneud y strydoedd yn ddiogelach i bobl hŷn. Bydd y cyfarfod hwn am 2 y pnawn ar y 20fed Mehefin. Mae Sam yn gweithio’n llawn amser ac yn gofalu am ei fam oedrannus - ac am ei wyrion. Mae Sam yn poeni am ddiogelwch ar y strydoedd a bu’n weithgar gyda’r cynllun Gwarchod Cymdogaeth ond does ganddo ddim amser - yn arbennig yn ystod y dydd.