Cynnwys Dinasyddion a’r Problemau
Y Gymuned

Beth yw’r rhain?

Dyma gasgliad o declynnau sydd yn ymdrin â’r mwyafrif o’r elfennau o fewn cynnwys cymunedau a dinasyddion, onid yw, ydy mae.

Beth yw eu diben?

Gellir defnyddio’r teclynnau ar gyfer:

  • Meddwl am faterion sydd yn rhai cymunedol
  • Teclynnau ar gyfer arferion da, sydd yn ddefnyddiol wrth gynnwys y gymuned
  • Awgrymiadau

Materion Cynnwys Cymunedau

Mae materion cymunedol yn aml yn ysgogi pobl i fod yn ddinasyddion gweithgar.

Dewiswyd y teclynnau canlynol i’ch helpu i gysylltu mater cymunedol â’r dull o gynnwys sydd yn debygol o fod fwyaf effeithiol.

Pa fater? Pa gymuned?

Mae rhai materion cymunedol, megis bygwth cau ysbyty, sydd yn amlwg yn ysgogi pobl i weithredu. Tuedda’r math hwn o gymuned i fod yn bentref neu dref. Mae mathau eraill o gymunedau sydd yn deillio o ddiddordeb sydd yn gyffredin i nifer o bobl, megis credoau crefyddol neu dueddfryd rhywiol.

Da o beth yw cadw mewn cof y math o gymuned yr ydych yn ymwneud â hi - cymuned ddaearyddol neu gymuned o ddiddordebau, neu gyfuniad o’r ddau.

Gall fod yn arbennig o anodd denu diddordeb pobl oherwydd eu bod yn aelodau o rai cymunedau.

Yn adroddiad Creu’r Cysylltiadau ar ‘The Citizen’s Voice’ (PDF, 541k) eir cyngor defnyddiol ynglŷn â recriwtio pobl o wahanol grwpiau.

Mae canolbwyntio ar y gymuned yn ogystal ag ar y mater dan sylw’n ein hatgoffa am bob elfen o gynnwys. Er enghraifft, cyfathrebu:

Gall gosod poster ar bostyn lamp gyda manylion cyfarfod fod yn ddull addas ar gyfer rhai pobl ond nid ar gyfer eraill.

Pan fyddwch yn deall beth yw’r mater cymunedol dan sylw, rhaid cael holl ddarnau’r jig-so cynnwys i’w lle.

Safonau Cenedlaethol ar Gyfer Cynnwys Cymunedau

Mae’r Alban wedi cyhoeddi safon o arferion da mewn cynnwys cymunedau:

http://www.communitiesscotland.gov.uk/stellent/groups/public/documents/webpages/otcs_008411.pdf

Awgrymiadau

Mae pobl yn fwy tebygol o gael eu denu i weithredu os:

  • 1. Yw’r mater dan sylw’n un sydd o bwys iddynt neu sydd yn agos at eu profiad personol.
  • 2. Gofynnir iddynt am eu mewnbwn ac os gwneir iddynt deimlo bod croeso i'w barn.
  • 3. Oes gan y corff sydd yn gofyn am eu barn rym i wneud rhywbeth ynglŷn â’r mater.
  • 4. Gwneir yn glir y bydd eu sylwadau’n cael eu hystyried, a’u hadlewyrchu cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, yn y penderfyniad a wneir neu’r hyn y penderfynir ei wneud ynglŷn â’r mater dan sylw.
  • 5. Yw’r ffurf ar gynnwys yn addas ar gyfer ei ddiben ac, yn arbennig, nad yw’n gofyn mwy gan y person na’r hyn sydd yn angenrheidiol. Rhaid cael cytbwysedd rhwng yr hyn y gofynnir i’r dinesydd ei roi i mewn a’r budd a ddaw iddo.
  • 6. Derbyniant yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd yn angenrheidiol iddynt gymryd rhan yn effeithiol.

[Ffynhonnell: Leach, S, Lowndes, V, Cowell, R a Downe, J (2005) Meta-Evaluation of the Local Government Modernisation Agenda: Progress Report on Stakeholder Engagement with Local Government. London, DU: Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog.]