Cwestiynau a Ofynnir Fwyaf

Manylion cyswllt

Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd
Depo Canolog
Ystâd Ddiwydiannol Caebarlys
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 311556
Ffacs: (01495) 312537

E-bost: Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd

 

Partneriaid

Cliciwch ar logo i fynd i wefan yr Awdurdod

Wyddech chi?

Mae traean y bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw. Er mai bagiau te ac esgyrn pysgod yw rhywfaint o hyn, bwyd sy'n berffaith iawn y gellid bod wedi ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono.

Yng Nghymru rydym yn gwario ac yna'n gwastraffu rhyw £600 miliwn ar fwyd y gellid fod wedi ei fwyta. £420 y flwyddyn i bob cartref yw hynny ar gyfartaledd, ac i gartrefi â phlant mae hyd yn oed yn fwy, sef £610 y flwyddyn.

Trwy ailgylchu'ch gwastraff bwyd byddwch yn lleihau maint y bwyd mewn safleoedd tirlenwi. Mae bwyd sy'n pydru mewn safleoedd tirlenwi'n cynhyrchu nwy methan, sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd a, gan fod cost anfon gwastraff bwyd i safleoedd tirlenwi'n codi, byddwch yn helpu'r Cynghorau a'u preswylwyr i arbed arian hefyd.

Yng Nghymru rydym yn taflu 410,000 o dunelli o fwyd a diod bob blwyddyn, sy'n anhygoel. Nid yw 90% ohonom yn sylweddoli faint o fwyd rydym yn ei daflu.

Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu mai llysiau a ffrwythau ffres yw rhyw 40% (wrth ei bwysau) o'r bwyd sy'n cael ei daflu y gellid bod wedi ei fwyta.

Pe baem ni'n peidio â gwastraffu'r holl fwyd hwn, gallem atal digon o allyriadau carbon deuocsid (CO2) bob blwyddyn i fod yn gyfwerth â mynd ag 1 o bob 5 car oddi ar ffyrdd Cymru.

Mae Cymru'n cynhyrchu digon o wastraff i lenwi Stadiwm y Mileniwm bob 20 diwrnod. Yr her fwyaf i ni yw ystyried y gwastraff hwn yn adnodd. Mae popeth rydym yn ei daflu'n cynnwys deunyddiau gwerthfawr a'r potensial i gynhyrchu ynni.

Ffigurau ailgylchu diweddaraf

Cyfraddau ailgylchu a chompostio oddi wrth y partneriaid:

  • Caerffili 44%
  • Torfaen 43%
  • Blaenau Gwent 29%

Rydym yn deall bod datblygu unrhyw fath o dechnoleg newydd yn newid, a bod newid yn codi cwestiynau. Isod mae atebion i rai o’r cwestiynau a all fod gennych am y technolegau newydd. Os oes gennych gwestiynau na chânt eu hateb isod, mae croeso i chi gysylltu â ni.

  1. Pam mae angen i ni adeiladu cyfleusterau newydd i drin ein gwastraff?

    Ni ddylem drin gwastraff fel rhywbeth yr ydym yn ei daflu, ond yn hytrach dylem ei drin fel adnodd. Bydd cyfleusterau newydd i drin gwastraff yn troi gwastraff organig yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy. Trwy adeiladu cyfleusterau newydd gallwn drin ein gwastraff mewn ffordd gynaliadwy, lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, a helpu i sicrhau cyflenwad ynni Cymru.

  2. Pam na allwn ni barhau i anfon ein gwastraff i safleoedd tirlenwi?

    Nid yw tirlenwi'n ddewis cynaliadwy. Mae lle'n prinhau ac mae'n annhebygol iawn y byddwn yn gallu creu safleoedd newydd. Mae taflu ein gwastraff yn syth i safleoedd tirlenwi'n wastraff ar yr holl ddeunyddiau crai ac ynni a aeth i mewn i wneud y cynhyrchion a ddefnyddiwn. Mae anfon ein gwastraff i safleoedd tirlenwi hefyd yn creu methan, nwy ty gwydr nerthol sydd 23 gwaith yn fwy difrodol i'r amgylchedd na charbon deuocsid.

  3. Pryd bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu hadeiladu?

    Mae'r amserlenni ar gyfer y prosiect yn dynn. Rydym yn gobeithio dyfarnu'r contract ym mis Mai 2012 a bydd angen i'r cyfleuster fod wedi'i adeiladu ac yn weithredol erbyn 2013/2014.

  4. Pa mor fawr bydd y cyfleuster?

    Bydd hyn yn dibynnu ar faint o wastraff a gaiff ei anfon i'r cyfleuster.

  5. Beth yw treulio anaerobig?

    Mae treulio anaerobig yn cael ei ddefnyddio i drin gwastraff bwyd. Mae'r dechnoleg yn copïo proses naturiol trwy ddefnyddio microbau a geir yn naturiol i ddadelfennu'r gwastraff. Mae hyn yn cynhyrchu ffynhonnell ynni sy'n gwbl adnewyddadwy. Mae hefyd yn cynhyrchu gweddillion treuliad anaerobig, a gellir defnyddio'r rhain fel gwrtaith a chyflyrydd pridd.

  6. Beth yw gweddillion treuliad anaerobig?

    Sylwedd sy'n llawn maetholion a gaiff ei gynhyrchu gan dreulio anaerobig ac y gellir ei ddefnyddio fel gwrtaith yw'r gweddillion hyn. Nid compost mohono, er bod ganddo rai nodweddion tebyg.

  7. Sut bydd y bartneriaeth yn cyfathrebu gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol?

    Mae'r bartneriaeth wedi ymrwymo i weithredu rhaglen strwythuredig o gyfathrebu er mwyn sicrhau ymgysylltu effeithiol, amserol a chyson gyda'r cyhoedd a gyda rhanddeiliaid allweddol.

  8. Ble bydd y cyfleuster yn mynd?

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ei gwneud yn ofynnol i'r bartneriaeth gynnig safle sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus a fyddai'n addas i'r cyfleuster. Mae'r prosiect wedi gwneud gwaith dethol ac asesu safleoedd, sydd wedi penderfynu ar y safle mwyaf priodol, a gaiff ei gynnig i ymgeiswyr. Ni wyddys eto ai'r safle a gynigir bydd safle terfynol y cyfleuster gan y bydd hyn yn dibynnu ar y contractwr a gaiff ei ddewis.