Prosiect Organig - Bwyd a Gwastraff o'r Ardd

Manylion cyswllt

Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd
Depo Canolog
Ystâd Ddiwydiannol Caebarlys
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 311556
Ffacs: (01495) 312537

E-bost: Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd

 

Partneriaid

Cliciwch ar logo i fynd i wefan yr Awdurdod

Wyddech chi?

Mae traean y bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw. Er mai bagiau te ac esgyrn pysgod yw rhywfaint o hyn, bwyd sy'n berffaith iawn y gellid bod wedi ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono.

Yng Nghymru rydym yn gwario ac yna'n gwastraffu rhyw £600 miliwn ar fwyd y gellid fod wedi ei fwyta. £420 y flwyddyn i bob cartref yw hynny ar gyfartaledd, ac i gartrefi â phlant mae hyd yn oed yn fwy, sef £610 y flwyddyn.

Trwy ailgylchu'ch gwastraff bwyd byddwch yn lleihau maint y bwyd mewn safleoedd tirlenwi. Mae bwyd sy'n pydru mewn safleoedd tirlenwi'n cynhyrchu nwy methan, sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd a, gan fod cost anfon gwastraff bwyd i safleoedd tirlenwi'n codi, byddwch yn helpu'r Cynghorau a'u preswylwyr i arbed arian hefyd.

Yng Nghymru rydym yn taflu 410,000 o dunelli o fwyd a diod bob blwyddyn, sy'n anhygoel. Nid yw 90% ohonom yn sylweddoli faint o fwyd rydym yn ei daflu.

Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu mai llysiau a ffrwythau ffres yw rhyw 40% (wrth ei bwysau) o'r bwyd sy'n cael ei daflu y gellid bod wedi ei fwyta.

Pe baem ni'n peidio â gwastraffu'r holl fwyd hwn, gallem atal digon o allyriadau carbon deuocsid (CO2) bob blwyddyn i fod yn gyfwerth â mynd ag 1 o bob 5 car oddi ar ffyrdd Cymru.

Mae Cymru'n cynhyrchu digon o wastraff i lenwi Stadiwm y Mileniwm bob 20 diwrnod. Yr her fwyaf i ni yw ystyried y gwastraff hwn yn adnodd. Mae popeth rydym yn ei daflu'n cynnwys deunyddiau gwerthfawr a'r potensial i gynhyrchu ynni.

Ffigurau ailgylchu diweddaraf

Cyfraddau ailgylchu a chompostio oddi wrth y partneriaid:

  • Caerffili 44%
  • Torfaen 43%
  • Blaenau Gwent 29%

Partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yw Prosiect Organig Blaenau’r Cymoedd. Mae’r awdurdodau wedi ymuno i ganfod ffordd hirdymor i ddelio â gwastraff bwyd a gwastraff o’r ardd (organig). Mae yna gyfle i’r Bartneriaeth arwain trwy esiampl wrth reoli ein gwastraff fel adnodd ac wrth ddangos ein hymrwymiad i greu cymoedd gwyrddach a lleoedd gwell i fyw a gweithio.

Yng Nghymru rydym yn taflu mwy na 410,000 o dunelli o fwyd a diod bob blwyddyn. Mae awdurdodau ledled Cymru wedi dechrau casglu gwastraff bwyd o stepen eich drws. Nawr mae angen i ni ddefnyddio’r dechnoleg orau i’w drin.

Mae Prosiect Organig Blaenau’r Cymoedd wedi ystyried nifer o ddewisiadau o ran technoleg i ddelio â’ch gwastraff bwyd a’ch gwastraff o’r ardd.

Mae tri dewis o ran technoleg ar gael i’r prosiect, sef Compostio Caeedig, Treulio Anaerobig a Rhesgompostio.

Dewisiadau o ran technoleg

Treulio anaerobig

Mae proses treulio anaerobig yn cael ei defnyddio i drin gwastraff bwyd. Mae’r dechnoleg yn copïo proses naturiol trwy ddefnyddio microbau sy’n digwydd yn naturiol i ddadelfennu’r gwastraff. Mae hyn yn cynhyrchu ffynhonnell ynni sy’n gwbl adnewyddadwy. Mae hefyd yn cynhyrchu gweddillion treuliad anaerobig, a gellir defnyddio’r rhain fel gwrtaith a chyflyrydd pridd.

Dyma’r dechnoleg sydd orau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trin gwastraff bwyd. Ar ei lefel fwyaf sylfaenol mae technoleg treulio anaerobig yn gweithio’n ddigon tebyg i ni. Mae’n llyncu bwyd, ei dreulio a’i droi’n ynni. Bydd y pŵer i redeg y gwaith treulio anaerobig yn dod o’r broses treulio fewnol.

Cliciwch yma i weld diagram o'r broses Treulio Anaerobig

Compostio Caeedig

Proses sy’n trin gwastraff bwyd a gwastraff o’r ardd ar yr un pryd yw Compostio Caeedig. Mae wedi’i seilio ar broses naturiol compostio. Mae’r gwastraff yn cael ei rwygo a’i wlychu i greu deunydd llaith. Yna mae’r broses compostio’n cael ei dwysáu trwy bwmpio aer a dŵr i mewn i’r gwastraff ac ar yr un pryd monitro’r tymheredd yn fanwl i sicrhau y cynhelir tymheredd o 60° o leiaf am ddau ddiwrnod. Mae’r broses compostio caeedig yn cynnig ffordd syml o droi ein gwastraff yn gompost. Gellir defnyddio hwn i wella ein parciau a’n gerddi.

Rhesgompostio

Proses sy’n trin gwastraff o’r ardd yw rhesgompostio. Mae’r gwastraff yn cael ei rwygo a’i sgrinio i gael gwared ar halogyddion. Mae’r compostio’n broses fiolegol lle mae micro-organebau’n prosesu gwastraff organig ym mhresenoldeb ocsigen yn yr awyr agored. Mae’r broses yn cynhyrchu compost sy’n cael ei ddefnyddio mewn prosiectau amaethyddol, garddwriaethol ac adfer tir.