Newyddion a Digwyddiadau

Manylion cyswllt

Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd
Depo Canolog
Ystâd Ddiwydiannol Caebarlys
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 311556
Ffacs: (01495) 312537

E-bost: Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd

 

Partneriaid

Cliciwch ar logo i fynd i wefan yr Awdurdod

Wyddech chi?

Mae traean y bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw. Er mai bagiau te ac esgyrn pysgod yw rhywfaint o hyn, bwyd sy'n berffaith iawn y gellid bod wedi ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono.

Yng Nghymru rydym yn gwario ac yna'n gwastraffu rhyw £600 miliwn ar fwyd y gellid fod wedi ei fwyta. £420 y flwyddyn i bob cartref yw hynny ar gyfartaledd, ac i gartrefi â phlant mae hyd yn oed yn fwy, sef £610 y flwyddyn.

Trwy ailgylchu'ch gwastraff bwyd byddwch yn lleihau maint y bwyd mewn safleoedd tirlenwi. Mae bwyd sy'n pydru mewn safleoedd tirlenwi'n cynhyrchu nwy methan, sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd a, gan fod cost anfon gwastraff bwyd i safleoedd tirlenwi'n codi, byddwch yn helpu'r Cynghorau a'u preswylwyr i arbed arian hefyd.

Yng Nghymru rydym yn taflu 410,000 o dunelli o fwyd a diod bob blwyddyn, sy'n anhygoel. Nid yw 90% ohonom yn sylweddoli faint o fwyd rydym yn ei daflu.

Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu mai llysiau a ffrwythau ffres yw rhyw 40% (wrth ei bwysau) o'r bwyd sy'n cael ei daflu y gellid bod wedi ei fwyta.

Pe baem ni'n peidio â gwastraffu'r holl fwyd hwn, gallem atal digon o allyriadau carbon deuocsid (CO2) bob blwyddyn i fod yn gyfwerth â mynd ag 1 o bob 5 car oddi ar ffyrdd Cymru.

Mae Cymru'n cynhyrchu digon o wastraff i lenwi Stadiwm y Mileniwm bob 20 diwrnod. Yr her fwyaf i ni yw ystyried y gwastraff hwn yn adnodd. Mae popeth rydym yn ei daflu'n cynnwys deunyddiau gwerthfawr a'r potensial i gynhyrchu ynni.

Ffigurau ailgylchu diweddaraf

Cyfraddau ailgylchu a chompostio oddi wrth y partneriaid:

  • Caerffili 44%
  • Torfaen 43%
  • Blaenau Gwent 29%

Digwyddiadau

Wrth i ddigwyddiadau gael eu trefnu, rhoddir y manylion yma.

Newyddion

23.01.2012

Mae cam 'Gwahoddiad i Gyflwyno Datrysiadau Manwl' y broses gaffael newydd ei gwblhau. Cafodd y ddau gyda'r sgôr uchaf eu dethol a'u gwahodd drwy gam 'Cyflwyniad i Gyflwyno Tendrau Terfynol' y broses gaffael.

Darllen mwy

17.03.2011

Heddiw, datgelodd y Cynghorydd Keith Barnes, cadeirydd y cydbwyllgor ac Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd Cyngor Blaenau Gwent fod y prosiect wedi cwblhau cam 'Gwahoddiad i Gyflwyno Datrysiadau Amlinellol' y broses gaffael ar gyfer contract hirdymor i ddelio gyda gwastraff bwyd a gwastraff gwyrdd.

Darllen mwy

04.09.2010

Cynlluniau newydd ar gyfer cyfleuster gwastraff gwerth £7 miliwn yng Nghymru
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu cyfleuster gwastraff gwerth miliynau o bunnoedd yn y cymoedd. Mae cynghorau Torfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili wedi ymuno i edrych ar y ffyrdd o atal gwastraff bwyd a gwastraff o'r ardd (organig) rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac o gyflawni targedau anodd ar gyfer ailgylchu.

Darllen mwy

14.05.2010

Gallai canolfan gwastraff organig y cymoedd fynd i Lyn Ebwy
Gallai canolfan i drin gwastraff organig o gartrefi ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Chaerffili gael ei hadeiladu yng Nglyn Ebwy ar ôl i gynlluniau ar gyfer safle yn y Cwm fynd i'r gwellt. Mae cyngor Blaenau Gwent yn cynnig tir ar Ystâd Ddiwydiannol Waun y Pownd fel safle posibl ar gyfer Prosiect Gwastraff Organig Blaenau'r Cymoedd.

Darllen mwy

02.09.2009

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cyfleuster gwastraff gwerth miliynau o bunnoedd
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu cyfleuster gwastraff gwerth miliynau o bunnoedd yn y cymoedd. Mae cynghorau Torfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili wedi ymuno i edrych ar y ffyrdd o atal gwastraff bwyd a gwastraff o'r ardd (organig) rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac o gyflawni targedau anodd ar gyfer ailgylchu.

Darllen mwy

02.09.2009

Datgelu cynlluniau ar gyfer gwaith gwastraff gwyrdd
Mae tri chyngor yng nghymoedd y de wrthi'n creu cynlluniau i adeiladu gwaith i drin gwastraff bwyd a gwastraff o'r ardd o 140,000 o gartrefi. Mae cynghorau Torfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili'n dweud y bydd y cyfleuster yn eu helpu i gyflawni targedau ar gyfer ailgylchu.

Darllen mwy

02.09.2009

Gallai gwaith gwastraff gwyrdd ddod i'r Cymoedd
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu cyfleuster gwastraff gwerth miliynau o bunnoedd yn y Cymoedd. Mae cynghorau Torfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili wedi ymuno i edrych ar y ffyrdd o atal gwastraff bwyd a gwastraff o'r ardd (organig) rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac o helpu i gyflawni targedau ar gyfer ailgylchu.

Darllen mwy

26.08.2009

LlCC yn cyhoeddi hysbysiadau contract ar gyfer pedair Partneriaeth Cyhoeddus-Preifat i drin gwastraff
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad contract cyhoeddus ar gyfer pedwar contract trin gwastraff o dan ei Rhaglen Trin Gwastraff Bwyd a Gwastraff Gwyrdd.

Darllen mwy