Awgrymiadau ynglŷn â chyfathrebu
Wrth gyfathrebu â pherson sydd yn uchelgeisiol, grymus, penderfynol, cadarn o ewyllys, annibynnol ac yn mynnu cyrraedd y nod:
- Byddwch yn eglur, yn gryno ac yn bendant a nodwch bethau’n fanwl
- Cadwch at y mater dan sylw
- Gwnewch yn siŵr bod gennych ddeunydd cefnogol mewn “pecyn” sydd wedi ei drefnu’n dda.
Dyma’r ffactorau a fydd yn creu tyndra neu anfodlonrwydd:
- Siarad am bethau nad ydynt yn berthnasol i’r mater dan sylw
- Gofalu bod modd i chi eich hun anwybyddu’r mater neu gynnwys materion aneglur
- Ymddangos yn anhrefnus.
Wrth gyfathrebu â pherson sydd yn ddengar, brwdfrydig, cyfeillgar, llawn mynegiant a gwleidyddol:
- Ceisiwch greu amgylchfyd cynnes a chyfeillgar
- Peidiwch ag ymdrin â llawer o’r manylion (rhowch y rheini i’r person yn ysgrifenedig)
- Gofynnwch gwestiynau “teimlo’ch ffordd” i’w denu i fynegi eu barn neu eu sylwadau.
Dyma’r ffactorau a fydd yn creu tyndra neu anfodlonrwydd:
- Bod yn swta neu’n oer neu beidio â dweud llawer
- Rheoli’r sgwrs
- Bwrw ymlaen trwy ddefnyddio ffeithiau, ffigurau, dewisiadau amgen a haniaethau.
Wrth gyfathrebu â pherson sydd yn amyneddgar, dibynadwy, solet, ymlaciedig a diymhongar, ac yn un y gellir rhagweld ei ymateb:
- Dechreuwch gyda sylw personol – rhywbeth i agor y drafodaeth
- Cyflwynwch eich achos mewn modd tawel ac nid mewn ffordd fygythiol
- Gofynnwch gwestiynau “Sut?” i’w denu i fynegi eu barn.
Dyma’r ffactorau a fydd yn creu tyndra neu anfodlonrwydd:
- Rhuthro i drafod y busnes dan sylw
- Bod yn ormesol neu ofyn llawer ohonynt
- Mynnu eu bod yn ymateb ar frys i’ch amcanion.
Wrth gyfathrebu â pherson sydd yn ddibynadwy, taclus, ceidwadol, gofalus a pharod i gydymffurfio ac yn berffeithydd:
- Paratoi eich “achos” ymlaen llaw
- Cadwch at y mater dan sylw
- Byddwch yn gywir ac yn realistig
Dyma’r ffactorau a fydd yn creu tyndra neu anfodlonrwydd:
- Bod yn ysgafnfryd, yn anffurfiol neu’n swnllyd
- Gwthio’n rhy galed neu fod yn afrealistig o ran amserlenni
- Bod yn anhrefnus neu’n flêr