Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Newyddion    Newyddion    Rhagfyr 2020    Trefniadau ysgol ar gyfer y tymor newydd ym mis Ionawr 2021

News Centre

Trefniadau ysgol ar gyfer y tymor newydd ym mis Ionawr 2021

Postiwyd ar : 17 Rhag 2020

Trefniadau ysgol ar gyfer y tymor newydd ym mis Ionawr 2021

 

  • Dull gweithredu cyffredin ar gyfer ailagor ysgolion ym mis Ionawr

Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, ynghylch  y tymor newydd ym mis Ionawr, 2021, ysgrifennaf atoch er mwyn cadarnhau'r trefniadau ar gyfer ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'r penderfyniad hwn wedi'i seilio ar y nifer cynyddol o brinder staff oherwydd achosion cadarnhaol a rheiny sydd yn gorfod hunan-ynysu, ynghŷd â'r pryder bod y niferoedd hyn, wrth gwrs, y tu hwnt o anodd ei rhagweld ar gyfer wythnos gyntaf y tymor. Bydd yn rhaid adolygu pob asesiad risg.

Ysgolion cynradd, Trinity Fields, Y Ganolfan Ddysgu a lleoliadau EOTAS

Mae dydd Llun 4ydd Ionawr a dydd Mawrth, 5ed Ionawr yn ddiwrnodau dysgu hirbell ar gyfer pob ysgol, tra bod niferoedd staffio yn cael eu cadarnhau. Os yw ysgol wedi cynllunio diwrnod hyfforddiant mewn swydd, yna defnyddir y 5ed a'r 6ed ar gyfer diwrnodau dysgu hirbell. Bydd ysgolion unigol yn cyfathrebu trefniadau penodol.

Yn dilyn y diwrnodau dysgu hirbell, bydd darpariaeth wyneb yn wyneb ar gael ar gyfer gofal plant gweithwyr allweddol cymwys a disgyblion bregus, a bydd ysgolion yn cysylltu â grwpiau / dosbarthiadau eraill o ddisgyblion i ddechrau dysgu ar safle’r ysgol.

Bydd disgyblion nad ydynt ar y safle yn parhau i dderbyn darpariaeth dysgu o bell.

Bydd pob disgybl yn ôl yn yr ysgol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb erbyn dydd Llun, 18fed Ionawr, 2021, ar yr hwyraf ac eithrio'r dosbarthiadau sydd ar gau oherwydd hunan-ynysu neu brinder staff.

Ysgolion Uwchradd

Bydd dydd Llun 4ydd Ionawr a dydd Mawrth, 5ed Ionawr yn cael eu defnyddio fel diwrnodau dysgu hirbell ar gyfer pob ysgol, er mwyn cadarnhau niferoedd staffio. Os yw ysgol wedi cynllunio diwrnod hyfforddiant mewn swydd, yna defnyddir y 5ed a'r 6ed ar gyfer diwrnodau dysgu hirbell.

Yn dilyn y diwrnodau dysgu hirbell, bydd darpariaeth wyneb yn wyneb ar gyfer plant gweithwyr allweddol cymwys a disgyblion bregus a bydd ysgolion yn cysylltu â grwpiau blynyddoedd eraill o ddisgyblion i ddechrau ar eu dysgu ar safle’r ysgol, gan roi blaenoriaeth i flynyddoedd 11, 12 a 13.

Bydd pob disgybl yn ôl yn yr ysgol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb erbyn dydd Llun, 18fed Ionawr, 2021, ar yr hwyraf ac eithrio'r dosbarthiadau sydd ar gau oherwydd hunan-ynysu neu brinder staff.

Brydau Ysgol am Ddim

Bydd disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn parhau i dderbyn prydau yn ôl y drefn hyd at nawr. Bydd disgwyl i’r disgyblion sydd yn derbyn darpariaeth ar y safle ddod â phecyn bwyd.

Darpariaeth gofal ysgol frys ar gyfer plant gweithwyr hanfodol (allweddol)

I fod yn gymwys am Ddarpariaeth Addysg ar gyfer Gweithwyr Hanfodol (Allweddol) y Coronafeirws, rhaid i chi fodloni'r holl feini prawf canlynol:

  • Rhaid bod eich plentyn/plant o oed ysgol ac ar y gofrestr yn un o ysgolion Caerffili cyn i'r ysgolion gau ym mis Rhagfyr.
  • Mae un rhiant yn weithiwr hanfodol (allweddol) y coronafeirws  (https://llyw.cymru/adnabod-plant-gweithwyr-hanfodol-canllawiau)
  • Os oes ail riant/oedolyn yn yr aelwyd, rhaid bod y person hwnnw hefyd yn weithiwr hanfodol (allweddol) y coronafeirws a bod angen iddo fynd i'w weithle, ac nid oes modd gofalu am y plentyn/plant gartref yn ddiogel
  • Rydych chi'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Sut i wneud cais

  • Os ydych chi wedi defnyddio darpariaeth addysg gweithwyr hanfodol o'r blaen ac nad yw'ch amgylchiadau wedi newid, nid oes angen i chi wneud dim. Mae gennym ni eich manylion chi, ac mae'r rhain wedi'u trosglwyddo i'r ysgol. Bydd yr ysgol yn cysylltu â chi yn ystod y ddau ddiwrnod cynllunio ar 4 Ionawr a 5 Ionawr i gadarnhau'r trefniadau.
  • Os nad ydych chi wedi defnyddio darpariaeth addysg gweithwyr hanfodol o'r blaen, neu os yw'ch amgylchiadau wedi newid, ewch ati i lenwi'r ffurflen gais ar-lein isod. Byddwn ni'n trosglwyddo ceisiadau cymwys i'r ysgol. Yna, bydd yr ysgol yn cysylltu â chi yn ystod y ddau ddiwrnod cynllunio ar 4 Ionawr a 5 Ionawr i gadarnhau'r trefniadau. 

Gwneud cais am ddarpariaeth gofal ysgol frys ar gyfer plant gweithwyr hanfodol (allweddol)

Noder bod rhestr Llywodraeth Cymru o weithwyr hanfodol (allweddol) yn un helaeth. Bydd ceisiadau gan staff rheng flaen y gwasanaethau brys, gofal cymdeithasol ac addysg yn cael blaenoriaeth yn y lle cyntaf.



Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
  • ​Ymdrechion tenantiaid tai lloches ar gyfer Dydd y Cofio
  • Caerffili yn condemnio camdriniaeth a bygythiadau
  • Tair ffordd i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • Gohirio ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
  • Parc sglefrio newydd Oakdale
Ymholiadau'r Cyfryngau
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl