Gwasanaethau i Gwsmeriaid Caerffili
Cyfeiriad
Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerffili, Y Twyn, Caerffili. CF83 1JL
Oriau agor
- Dydd Llun: 9.30am tan 4pm
- Dydd Mawrth: 9.30am tan 4pm
- Dydd Mercher : Ar Gau
- Dydd Iau: 9.30am tan 4pm.
- Dydd Gwener: 9.30am tan 4pm
- Dydd Sadwrn 9.30am tan 1pm
- Dydd Sul : Ar Gau
Sut i gyrraedd
Teithio yn y car
Os ydych yn teithio i Wasanaethau Cwsmeriaid Caerffili yn y car, gallwch ddod o hyd i gyfeiriadau drwy fynd i Google Maps. Ewch i’n tudalen meysydd parcio’r cyngor am restr lawn o gyfleusterau parcio a phrisiau.
Defnyddio cludiant cyhoeddus
Mae bysiau rheolaidd yn gweithredu yn a thu allan i Gaerffili i bob ardal o’r fwrdeistref sirol. Ewch i amserlenni a phrisiau – bysiau am wybodaeth ar docynnau bws, prisiau ac amserau bysiau.
Gwasanaethau sydd ar gael yn y ganolfan
Mae ymgynghorwyr gwasanaethau Cwsmeriaid wedi eu hyfforddi i’ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych yn ymwneud ag unrhyw wasanaeth y cyngor gan gynnwys:
- Gwneud cais am fudd-dal tai
- Chwilio am swyddi gwag presennol
- Gwneud cais am gasgliad gwastraff swmpus
- Gwneud cais am fathodyn parcio i berson anabl
- Talu’ch treth y cyngor
- Talu'ch rhent y cyngor
- Gwneud cais am docyn teithio pobl hŷn
- Derbyn cymorth gyda phensiynau'r wladwriaeth os ydych dros 60 oed
- Adrodd am geudwll
- Adrodd am olau stryd sydd wedi torri
- Gofyn am atgyweiriad tai cyngor
Cyfleusterau
- Llyfrgell Caerffili
- Meysydd parcio cyhoeddus yn agos
- Mynediad gwastad
- Yn gyfeillgar i gadeiriau olwyn
Gwybodaeth bellach
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01443 815588 neu e-bostiwch y Gwasanaethau Cwsmeriaid.