Rhwystrau Rhag Cynnwys Pobl
Rhwystrau ar ben Rhwystrau

Beth yw hwn?

Weithiau mae cynnwys dinasyddion ymhell o fod yn syml. Dyna beth mae’r diagram hwn yn ei ddangos.

Fe gofiwch am Jenny yn y stori fach am ddiogelwch yn y gymuned? Ewch yno. Does ganddi ddim llawer o brofiad na hyfforddiant ynglŷn â chynnwys pobl. Heb ddim mwy o hyfforddiant na chyngor mae diffyg gwybodaeth Jenny yn mynd yn rhwystr rhag cynnwys pobl mewn modd ystyrlon.

Beth yw ei ddiben?

Mae’r diagram yn destun meddwl. Mae’n ein hatgoffa y gall y bobl sydd yn ceisio gwneud i bethau ddigwydd weithiau fod yn rhan o’r broblem.

Rhwystrau Rhag Cynnwys Pobl – munud i feddwl

Yma mae’n dechrau mynd ychydig yn fwy cymhleth.

Er enghraifft gall y bobl yr ydych yn ceisio denu eu diddordeb fod yn teimlo eich bod chi’n rhan o’r broblem.

Felly efallai y bydd rhaid i chi weithio ar ddau fath o rwystr.
Gallai rhwystrau fod rhyngoch chi a’r bobl yr ydych yn ceisio eu cynnwys. Mae rhwystrau hefyd i’r bobl eu hunain rhag dod yn ddinasyddion sydd yn cymryd rhan.

Barriers Diagram