Rhwystrau Rhag Cynnwys Pobl
Safbwynt Gweithwyr Proffesiynol

Beth yw hwn?

Yn y tabl isod rhestrir y rhwystrau sydd yn atal pobl rhag cymryd rhan, o safbwynt y gweithwyr proffesiynol. Mae mwy o wybodaeth am y rhestr hon yn yr Adolygiad o Ymchwil (PDF, 458k).

Beth yw ei ddiben?

Mae’n rhestr wirio ddefnyddiol i chi ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect. Mae’n dangos ‘ochr arall y geiniog’ o ran barn pobl hŷn (PDF, 20k).

Fersiwn sylfaenol sydd yma. Mewn rhannau eraill o’r pecyn teclynnau mae enghreifftiau o’r ffordd y defnyddiwyd ef.

Diffyg adnoddau trefnu

  • Prinder amser i ddatblygu perthnasoedd ac ymddiriedaeth
  • Prinder arian, neu ddim arian
  • Diffyg gwybodaeth / arbenigedd

Diffyg ysgogiad

  • Cynnwys dinasyddion yn flaenoriaeth isel
  • Cynnwys yn ddim ond sioe ac nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol
  • Nid yw pobl yn awyddus i gymryd rhan hyd yn oed pan wahoddir hwy
  • Mae gormod o ymgynghori heb unrhyw ganlyniadau nac effeithiau pendant
  • Mae amheuaeth ynglŷn â diben ymarferion i gynnwys pobl
  • Y canfyddiad bod y staff a gaiff y gwaith o ymgynghori yn bobl nad oes ganddynt awdurdod i gyflawni unrhyw newid
  • Diffyg rheolaeth dros y dulliau a ddefnyddir

Profiad negyddol yn y gorffennol

  • Ymarferion cynnwys a oedd yn fethiant neu a oedd yn anfoddhaol
  • Anhawster i gael grwpiau i gymryd rhan
  • Disgwyliadau afrealistig gan y cyhoedd

Problemau o ran Diwylliant y Sefydliad

  • Defnyddio modelau anaddas ar gyfer cynnwys
  • Ddim yn sylweddoli neu ddim yn deall gymaint o ystod o wahanol fathau o ddulliau cynnwys sydd ar gael
  • Gweithwyr proffesiynol yn mynd yn amddiffynnol
  • Mae’n cymryd amser hir i rywbeth ddigwydd neu newid
  • Canfyddiad o ni a nhw e.e. y cyhoedd yn erbyn y gweithwyr proffesiynol