Rhwystrau Rhag Cynnwys Pobl
Safbwynt Pobl Hŷn – beth sydd yn rhwystro pobl rhag cymryd rhan?
Beth yw hwn?
Yn y tabl isod rhestrir y rhwystrau a allai atal pobl hŷn rhag cymryd rhan.
Mae disgrifiad llawn o bob rhwystr o dan y tabl.
Beth yw ei ddiben?
Fersiwn sylfaenol sydd yma. Mewn rhannau eraill o’r pecyn teclynnau mae enghreifftiau o’r ffordd y defnyddiwyd y fersiwn hon fel templed.
Diffyg adnoddau personol:
- Addysg a sgiliau
- Arian
- Iechyd corfforol ac iechyd meddwl
- Symudedd a chludiant
- Anabledd a namau synhwyraidd
- Hunanhyder a hunan-barch
- Cyfle i gwrdd â phobl yn gymdeithasol
- Amser
Diffyg ysgogiad:
- Dim gwybodaeth am werth cyfranogi
- Ddim yn ymwybodol o’r cyfleoedd i gyfranogi
- Dim llawer o ddiddordeb yn y materion a drafodir
Profiad negyddol yn y gorffennol:
- Cyfarfodydd anfoddhaol
- Gormod o ymgynghori heb unrhyw ganlyniadau nac effeithiau pendant
- Diffyg gwrandawiad gan yr Awdurdod Lleol
- Y canfyddiad eich bod yn cael eich rheoli
- Disgwyliadau nas diwallwyd
- Cymryd gormod o amser i unrhyw beth ddigwydd neu newid
Anghenion nas diwallwyd:
- Iaith a llythrennedd
- Gwerthoedd a chredoau
- Ffurf a dull y cyfranogi