Cynnwys Dinasyddion a’r Problemau
Beth yw’r mater dan sylw?
Beth yw hwn?
Mae’r teclyn hwn yn cynnwys rhestr o’r prif faterion sydd yn ymwneud â chynnwys dinasyddion.
Beth yw ei ddiben?
Mae’r teclyn syml sydd yn eich annog i feddwl am y mater sydd gennych dan sylw a’i gysylltiad â chynnwys dinasyddion, ynghyd ag unrhyw gymhlethdodau.
Os am lwyddo mewn prosiect cynnwys dinasyddion rhaid bod yn hollol glir eth yw’r mater dan sylw.
Beth yw’r mater dan sylw o ran Cynnwys Dinasyddion?
Os byddwch yn glir ynglŷn â’r mater byddwch yn medru meddwl, er enghraifft, pwy ydych am eu cynnwys.
A yw’r mater sydd gennych dan sylw, o ran cynnwys, yn cyd-fynd ag un neu fwy o’r enghreifftiau hyn?
- Gwasanaeth a ddarperir gan y Llywodraeth neu Lywodraeth Leol:
- Casglu sbwriel
- Cau ysbyty lleol
- Goleuadau strydoedd
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Rhyw fater yn eich cymuned leol:
- Diogelwch ar y strydoedd
- Rôl Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu
- Trafnidiaeth a pharcio
- Sbwriel
- Y dull o gynnwys:
- Ymgynghori wedi methu yn y gorffennol
- Denu diddordeb grwpiau lleiafrifol
- Goresgyn rhwystrau rhag gweithredu oherwydd arwahanrwydd cymdeithasol
- Y cyngor wedi peidio â gwrando
- Y broses ddemocrataidd:
- Denu mwy o bobl i bleidleisio
- Cael mwy o bobl i ddeall beth yw dinasyddiaeth
- Cael gwleidyddion i gydnabod eu methiannau - ac nid ond eu llwyddiannau
- Cael y papur lleol i ymddwyn yn gyfrifol o ran yr hyn a gyhoedda
- Y teimlad o fod yn cael eu rheoli:
- Pobl yn teimlo bod ymgynghori’n tueddu at fod yn dwyllodrus
- Pobl yn gweld cynnwys dinasyddion fel ffordd o gael pobl i weithio am ddim
- Cynnwys dinasyddion yn ffurf arall ar reolaeth gan y Llywodraeth
Y camau nesaf
Dyma ddolennau a fedrai fod yn ddefnyddiol i’ch helpu i ganfod pa rai yw’r materion llosg sydd yn gysylltiedig â chynnwys dinasyddion:
Y peth sydd yn wirioneddol anodd ynglŷn â chynnwys dinasyddion yw bod y materion yn tueddu i orgyffwrdd â’i gilydd.