Mae’r teclyn hwn yn cyflwyno dolennau sydd yn cynnwys canllawiau ac enghreifftiau o arferion da o ran cynnwys dinasyddion ledled Cymru.
Mae’r teclyn hwn yn archwilio arferion da o ran gweithgareddau cynnwys dinasyddion megis panelau defnyddwyr ac ymgynghoriadau.
Mae dinasyddion yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth leol a chenedlaethol wedi mynd ati i geisio barn defnyddwyr gwasanaethau - yn debyg iawn i’r modd y defnyddir ymchwil marchnad gan gwmnïau yn y sector preifat. Mae hon, yn amlwg, yn ffordd dda o wella ansawdd y gwasanaethau.
Mae ceisio barn defnyddwyr gwasanaethau’n ffordd uniongyrchol iawn o gynnwys dinasyddion.
Yn Sir y Fflint mae’r defnyddwyr gwasanaeth wedi mynegi eu barn am y gwasanaethau gofal cartref yn uniongyrchol wrth reolwyr yr Awdurdod Lleol. Cynhelir y sesiynau gwrando hyn ar amser cyfleus ac mae cinio ar gael - Cinio Gwrando!
Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Paul Hopkins - paul_hopkins@flintshire.gov.uk
Rhian Luned - Rhian_Luned@flintshire.gov.uk
Dilynwch y ddolen hon i ddod o hyd i ganllawiau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ymgynghori.
http://www.caerphilly.gov.uk/pdf/consultations/consultation-strategy.pdf
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys catalog cynhwysfawr o’r ymgynghoriadau niferus sydd wedi cael eu cynnal ledled Cymru.
http://www.opinionresearch.org.uk/makingconnections/
Dilynwch y ddolen hon at y pecyn sydd yn cynnwys casgliad o enghreifftiau o arferion da wrth gynnwys pobl hŷn drwy Gymru.
http://www.accymru.org.uk/files/final%20engage%20pack%20_2_.pdf