Rhwystrau Rhag Cynnwys Pobl
Gweithdy Taclo’r Rhwystrau Rhag Cynnwys Dinasyddion
Beth yw hwn?
Dyma gynllun gweithdy a ddefnyddiwyd yn ystod y Prosiect Cynnwys Dinasyddion 50+.
Beth yw ei ddiben?
Defnyddiwyd y cynllun hwn er mwyn denu awgrymiadau ynglŷn â gwahanol ffyrdd o ddenu pobl i gael eu cynnwys fel dinasyddion. Daeth rhai ohonynt yn ffyrdd a dreialwyd yn y Prosiect.
Cynllun y Gweithdy
Roedd cynllun y gweithdy’n cynnwys elfennau cyfarwydd: slipiau post-it, siartiau fflip, gwaith a thrafodaethau grŵp.
Cam 1 – Dosbarthu gwybodaeth
Dosbarthwyd gwybodaeth gefndirol, a gwybodaeth am ddiben y gweithdy, i’r rhai a oedd yn bresennol. Er enghraifft
- Ystyr a chyd-destun y geiriau allweddol y byddwch yn eu defnyddio: megis ‘dinasyddion a gynhwysir’
- Gwybodaeth ychwanegol: megis y gwahanol fathau o gynnwys a ddefnyddir eisoes
- Deall beth yw cynnwys dinasyddion
- Cynhyrchu syniadau am brosiectau gwahanol ac arloesol ar gyfer cynnwys dinasyddion
- Bydd y ddolen hon (PDF, 113k) yn mynd â chi at yr wybodaeth a gyflwynwyd i’n gweithdai a’r gwefannau perthnasol
Bydd angen i chi anfon y deunydd allan cyn y gweithdy a mynd drosto ar y diwrnod gan nad yw pawb yn darllen y deunydd ymlaen llaw.
Cam 2 – Rhwystrau rhag cynnwys pobl
Archwiliwyd y rhestrau gwirio o rwystrau rhag cynnwys pobl drwy ddefnyddio:
Rhwystrau rhag cynnwys dinasyddion 50+ - eich sylwadau
Adrodd yn ôl: fel y dymuna eich grŵp
Cam 3 Gwneud pethau mewn ffordd wahanol
(Eich atgoffa - canolbwyntiwch ar bobl a materion penodol)
Ystyriwch y cwestiynau isod
- Meddyliwch am ystod o ffyrdd o gynnwys pobl a sicrhau eu cyfranogiad a’r hyn a fyddai’n gweithio yn eich achos chi.
- A oes ffordd wahanol o’i wneud, a fyddai’n fwy addas i chi?
- Beth yw’r mater sydd dan sylw?
- Beth yw diddordebau ac anghenion eich grŵp targed?
- 57 a mwy o fathau o gynnwys.
- Gweler: http://www.makeitanissue.org.uk/Beyond%20the%20Ballot.pdf
Cam 4 Gwaith grŵp
Rhestrwyd isod y camau sydd mewn gweithdy o’r math hwn
Eich syniadau ar gyfer newidiadau yn y gwahanol ffyrdd o gynnwys
- Nodwch ar y slipiau post-it eich syniadau ar gyfer newidiadau mewn cynnwys
- Glynwch y slipiau ar siart fflip y grŵp
- Trafodwch eich syniadau yn eich grwpiau
- Casglwch ynghyd y syniadau sydd yn debyg i’w gilydd neu’r un fath
- Ysgrifennwch bob syniad ar y siart fflip – gan gynnwys y rhai ‘Gwirion’
- Dangoswch siart fflip eich grŵp
- Edmygwch eich syniadau
- Adroddwch yn ôl
- Y sylwadau cyffredinol
- Pa syniadau fyddech yn eu treialu gyntaf – pwyntiau o blaid ac yn erbyn
Cam 5 Crynhoi ac arfarnu
Rhan allweddol o’r gweithdy yw crynhoi’r hyn a drafodwyd ac a gyflawnwyd gennych. Cyn i bawb ymadael dylech ofyn a oeddent yn teimlo i’r gweithdy fod yn ddefnyddiol a pha newidiadau a allai fod yn ddefnyddiol pe bai’n cael ei gynnal eto.
Cam 6 Ysgrifennu Nodiadau a Chyflwyno Adborth
Ar ôl y gweithdy ysgrifennwch yr awgrymiadau a dangoswch hwy i’r rhai a oedd yn bresennol yn y gweithdy, neu anfonwch hwy atynt, gan ofyn am unrhyw sylwadau ychwanegol, a gofynnwch hefyd a fyddent yn cefnogi neu a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn unrhyw faes penodol.
Cam 7 Amdani!
Adolygwch ganlyniadau’r gweithdy a dewiswch y syniad mwyaf addas neu’r un a gafodd y gefnogaeth fwyaf brwd, ac ewch amdani. Cofiwch ddweud wrth y rhai a oedd yn bresennol bod eu syniad ar waith ac y byddwch yn rhoi gwybod iddynt sut y bydd pethau’n mynd.